Tudalen 1 o 2

Y maes yn Dim Lol 2005

PostioPostiwyd: Llun 01 Awst 2005 10:52 am
gan nicdafis
Neis i weld bod cyfrannwyr Dim Lol wedi llwyddo dod i fyny a'u cynnyrch eu hunain eleni, yn lle jyst dibynnu ar faeswyr wneud eu gwaith drostynt ;-)

Am y record, nid Aran wnaeth ddileu'r negeseuon mae'r erthygl yn son amdanyn nhw, ond Meistro y Maes ei hun, jyst cyn iddo dynnu'r plyg am sbel. Mae erthygl hefyd yn chwarae gyda'r gwirionedd ynglyn ag a oedd y negeseuon yn enllibus neu beidio: mi o'n nhw yn sicr yn enllibus, yn fy marn i.

Ond na ni.

PostioPostiwyd: Llun 01 Awst 2005 11:36 am
gan eusebio
Ond y cwestiwn mawr yw - ydi Dim Lol yn

1) ddifyr ...?
2) doniol ...?

fyddai hynny'n ddechrau, siwr o fod ;)

PostioPostiwyd: Llun 01 Awst 2005 12:41 pm
gan Madrwyddygryf
Y peth gorau nic yw peidio cymeryd fe fel ymosodiad, mae o fel cael bod mewn fersiwn Gymraeg o Private Eye.

Mae rhwybeth dwi wedi bod yn ymwneud a wedi cael son yn Lol hefyd. Mae o'n newyddion da oherwydd gallai defnyddio fo i hybu'r holl peth !

PostioPostiwyd: Maw 02 Awst 2005 12:20 pm
gan nicdafis
O, dw i ddim yn poeni amdano, jyst am roi fy ochr i o'r stori. Digwyddodd yr holl beth bron yn ddeufis yn ol, ac o'n i'n meddwl taw dwr dan y bont oedd hi erbyn hyn.

Fydda i ddim yn fodlon nes i mi fod ar glawr Dim Lol. Iwan, schmiwan.

PostioPostiwyd: Maw 02 Awst 2005 1:55 pm
gan dafydd
Oes rywun yn gwybod os yw'r rhifyn cyntaf o Dim Lol ar gael achos glywes i ddim amdano (heblaw darllen llynedd y fyddai'r peth yn ymddangos)?

PostioPostiwyd: Maw 02 Awst 2005 2:36 pm
gan Dr Gwion Larsen
Ydio'n wir bod gwnaeth Aran owtio aelod o'r maes gwnaeth anfon negeseuon yn erbyn cymuned?

PostioPostiwyd: Maw 02 Awst 2005 8:09 pm
gan Aran
Dr Gwion Larsen a ddywedodd:Ydio'n wir bod gwnaeth Aran owtio aelod o'r maes gwnaeth anfon negeseuon yn erbyn cymuned?


Nac ydi, Gwion - mae yn gelwydd (gweler uchod).

Wnes i owtio (i'r aelod mewn cwestiwn) dau unigolyn roedd yn ymaelodi gyda mwy nag un cyfrif er mwyn ymosod yn gachgiaidd ar aelod arall o'r Maes.

Yn debyg iawn i sut nad ydi RET79 yn cael ei fanio am fod yn adain dde, fuaswn i fyth yn dileu negeseuon am fod 'yn erbyn' Cymuned. Dweud y gwir, lle bod gen bobl pwyntiau dilys i'w codi, dw i'n ei gweld hi'n ddefnyddiol iawn i glywed barn/safbwynt gwahanol... :)

PostioPostiwyd: Llun 08 Awst 2005 12:40 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
Mi oedd owtio rhywun gan achosi goblygiadau difrifol yn y byd go iawn yn rhywbeth naill ai hynod o gas neu hynod o dwp i'w wneud (cymera hynny fel barn/safbwynt wahanol). Dwi ddim yn meddwl bod 'na dir moesol i sefyll arno. Gwefan ydi maes-e, rhywle, fel y dywedodd Simon Brooks wrtha'i unwaith, i "dossers Cymraeg falu cachu". Dydi deud rhywbeth ar faes-e, fel y dywedodd yr unigolyn hwnnw ei hun yn un o'r seiadau gwleidyddiaeth, ddim yn golygu siarad yn gyhoeddus.

Teg oedd penderfyniad Nic i gau'r pwnc a dileu'r negeseuon gan ei fod o'r farn eu bod yn enillbus (ac ei wefan o ydi maes-e, felly mae ganddo'r hawl i wneud fel y myn). Ond mi achosodd yr hel clecs y fath ddrwg-deimlad mewn cymuned a chymdeithas a gweithle go iawn. Ni wnaeth neb elwa o hyn, a dwi'n gwybod nad oes neb yn ddiolchgar o dderbyn yr wybodaeth. Mi ydan ni i gyd yn cynhyrfu yn ormodol weithia ac yn cael ein dal yn nrama'r foment, ac mae'n debyg mai dyna ddigwyddodd llynedd o ran datganiad gwreiddiol Simon Brooks, y rhai a ymosododd arno, ac o ran Aran â'i lwy bren.

Barn Nic oedd cau cyfrif Realydd, a hynny am iddo wthio'r ffiniau yn ormodol efallai. Gwir, dydi Realydd ddim yn bersona poblogaidd iawn yn ein mysg, ond mae ganddo'r hawl i barhau i fod yn anhysbys; ac am hynny byddwn i'n deud nad oes ganddo fo (na Dim Lol) le i gwyno - gan na wnaethpwyd cam ag o y person.

Cyn i neb fy owtio fi, gan fod gen i 3 cyfrif ( :ofn: Crogwch fi'n gyhoeddus! Dilëwch fy ngharma! Dywedwch wrth olygydd Barn :ofn: ) - mi fum i'n golygu Lol fy hun yn y gorffennol, yn nyddiau cynnar maes-e, ac fel dywed Nic - roedd llawer o'r straeon bryd hynny yn deillio o maes-e, ac roedd llawer o'r aelodau yn gyfrannwyr craidd. Mae'n rhyfedd sut mae maes-e wedi troi'n sefydliad ynddo'i hun erbyn hyn. Roedd hynny'n siwr o ddigwydd, mae'n debyg; ond mae'n drueni hefyd iddo ddigwydd mor fuan.

Ond na ni.

PostioPostiwyd: Llun 08 Awst 2005 12:56 pm
gan dafydd
Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Dydi deud rhywbeth ar faes-e, fel y dywedodd yr unigolyn hwnnw ei hun yn un o'r seiadau gwleidyddiaeth, ddim yn golygu siarad yn gyhoeddus.

Ydi mae e a ti'n twyllo dy hun (yn rinweddol) os nad wyt ti'n meddwl fod hyn yn wir. Mae holl gynnwys ar y maes (heblaw am y cylchoedd preifat) yn cael ei gyhoeddi ar y we ac y gall unrhywun ei ddarllen.

Mae'r we fel man cyhoeddus wedi ei sefydlu flynyddoedd yn ol.. mae e'n gyfrwng hollol gyfatebol gyda teledu a radio. Mae'r cynnwys yn cael ei roi ar gael i'r cyhoedd (mwy neu lai yn anhysbys i gynhyrchydd y wefan) a fe all unrhywun ddarllen neu wneud copi preifat o'r cynnwys.

Dyw e ddim fel siarad yn y dafarn.. (heblaw fod rhywun yn recordio'r sgwrs hynny ar gyfrwng sain neu fideo AC yn ei ddarlledu yn fyw drwy gyfrwng cyhoeddus).

Os ydych chi eisiau rhoi eich barn yn breifat (sef barn na fydde chi yn fodlon dweud ar deledu neu radio er enghraifft) yna mae'n rhaid i chi siarad drwy gyfrwng sydd ddim ar gael yn gyhoeddus a lle NAD yw eich sylwadau yn cael ei recordio/gofnodi mewn cronfa ddata (heblaw eich bod yn ymddiried yn llwyr ymhob aelod sy'n gallu darllen y sylwadau).

PostioPostiwyd: Llun 08 Awst 2005 1:32 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
Digon teg, mae modd i bobl weld be ti wedi ei ddeud, ond dydi o ddim fel datganiad yn y wasg neu bod ar y teledu neu'r radio, gan ein bod yn cuddio tu ôl i ffugenwau... Ac er mod i'n trio cadw'n driw i fi fy hun, mi fydda'i yn deud pethau ar y maes na fyddwn i'n siarad mor groch amdanyn nhw yn y cigfyd (er enghraifft yn y drafodaeth hon).

Ond, mae'r person dan sylw yn y drafodaeth hon wedi dweud pethau o'r blaen yn gyhoeddus dan ei enw ei hun, a hynny ers blynyddoedd (nid bod disgwyl i bawb gofio hynny, wrth gwrs)

Fel golygydd Lol yn y gorffennol, roeddwn i'n cael cyfraniadau gan bobl oedd yn cuddio tu ol i ffugenwau. Hyd yn oed pan gefais i fel golygydd fy mygwth â'r gyfraith am ryw stori enllibus, ni wnes i ddatgelu pwy oedd yn cuddio tu ôl i'r ffugenw, oherwydd nad oedd gen i hawl yn foesol. Wnes i ddim camddefnyddio fy ngwybodaeth er mwyn achub fy nghroen fy hun, nag er mwyn trio sgorio browni points efo pobl.

Cododd y syniad o'r blaen i bawb ohonom ddefnyddio ein henwau go iawn ar faes-e. Efallai y byddai hynny'n gwneud pethau'n gliriach, gan fod rhai yn amlwg yn defnyddio eu henwau bedydd, eraill yn defnyddio'r enwau y maent yn eu harddel ar hyn o bryd ac eraill (fel fi) yn cuddio'n llwyr tu ol i ffugenwau... Ond, wedyn mae hynny'n codi trafodaethau ynglyn â'r byd gwaith ac ati, o ran y rhai ohonom sy'n gweithio mewn sefydliadau. Pawb tu ôl i ffugenw?