nicdafis a ddywedodd:Yr unig wahaniaeth rhwng ti (fel cyn-olygydd Lol) a fi (fel golygydd maes-e) yw nag oes modd i mi weld yr erthyglau cyn iddyn nhw fynd ar y we. Tybed a fyddet ti'n fodlon cyhoeddu cyfraniadau Nicky Iesu Grist, heb eu darllen? (Dw i'n pigo ar hwnna achos ei fod e'n handi. Dyw hyn ddim yn golygu mod i'n cytuno taw tosser yw e.)
Yndi, mae hynny yn ddigon gwir. Ac mae’n beth da dy fod yn gallu, ac yn tynnu rhai cyfraniadau oddi ar y wefan; ac yn rhoi rhybudd i rai pobl sy’n croesi’r ffin. Wrth gwrs, does dim modd i ti wneud hynny bob munud o’r dydd a dyna pam mae pethau’n mynd i fyny ar y wefan sydd ddim wrth ddant pawb bob amser.
nicdafis a ddywedodd:Fy mhroblem i (wah, wah, wah) yw bod rhaid i fi ymddiried yn gallu aelodau maes-e i stico at <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=10155">ganllawiau y wefan</a>. Does dim cyfrifoldeb moesol 'da fi i amddiffyn dy anhysbysrwydd yma. Os dwyt ti ddim yn fy mharchu i ddigon i gadw at y canllawiau, pam ddylwn i dy barchu di? Os dydy rheol netiquettaidd am beidio creu mwy nag un cyfrif ar wefan trafod, er mwyn hybu cynyrch dy gwmni, ddim yn un y dylet ti stico ato fe, pam dylai cymedrolwyr maes-e stico at yr un am anhysbysrwydd yr aelodau?
Mi wnes i ymaelodi â Maes-e yn wreiddiol dan fy enw fy hun, ac yn hytrach na gofyn am newid hwnnw wrth symud swydd, mi agorais gyfrif newydd. Dwi wedi deud hynny o’r dechra dwi’n meddwl. A dwi wedi darllen y canllawia, wir yr!
nic dafis a ddywedodd:Mewn geiriau eraill, pam mae dy enw da di yn werth mwy nag enw da Aran Jones neu Simon Brooks? Mi wyt ti newydd ddatgeli rhywbeth wnaeth Simon Brooks ddweud wrthot ti (yn honedig) yn y byd go iawn (honedig), rhywbeth a fyddai'n debyg i effeithio ar y ffordd mae pobl yn meddwl amdano (wel, pobl fel ING, sy'n credu popeth maent yn darllen ar y maes).
Dwi’n meddwl i ING gamddeall. Neu efallai mai fi wnaeth gamddeall? Nid yw dosyr a tosyr yr un peth yn fy ngolwg i. Mai’r ail yn fwy negyddol na’r llall, byddwn i yn ei ddweud. Felly, nid oedd SB – o anghenraid – yn ei drafodaeth (
honedig) â fi yn bod mor negyddol â hynny... Ta waeth...
Dydi fy enw i ddim gwerth mwy na llai nag enwau’r ddau arall. Nid fi yw’r pwynt a dweud y gwir. Beth yw’r ots beth mae rhyw gyfieithydd-sector-cyhoeddus yn ei ddweud?! Ond, efo rhai bobl, mae 'na oblygiadau, ac mi oedd 'na oblygiadau yn yr achos hwn. Ac am hynny dwi’n meddwl y cododd y ddadl ei phen eto. Ond, ymddengys nad yw'r pwynt yn agored i drafodaeth bellach - ar faes-e beth bynnag.