Flash-swf

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Flash-swf

Postiogan Waen » Maw 22 Hyd 2002 3:33 am

Nic ydi'r php BB 'ma yn adael i chi defnyddio ffeil .swf fel rhithffurf?
:?: Fel hon

os fyddai medru cadw o dan 6k!

:rolio:
Safle cwl eniwe - nice one nic
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am

Postiogan nicdafis » Maw 22 Hyd 2002 11:52 am

Sa i'n credu, dim ond jpg neu gif. I hen bobl fel fi, mae pethau wedi'u hanameiddio yn gallu bod yn distracting iawn. Oedd rhaid i mi anablu gifs wedi'u hanameiddio yn fy mhorwr achos bod y bois bach yma :lol: :rolio: a :wps: yn tynnu fy sylw trwy'r amser.

Croeso i'r Maes, Waen.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Prysor » Sad 26 Hyd 2002 12:11 am

Siaradwch Gymraeg y basdads!!! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Prysor » Sad 26 Hyd 2002 12:14 am

Gadewch i mi egluro. Be ffwc ydi rhithffurf??? - a dim cyfieithiad plis, eglurhad. A sut mae rywun yn gallu rhoi llun fel pawb arall? ee llun Kenny gan Waen neu luniau yn ycorff neges fel mae rhai pobol yn wneud? A dwi wedi trio gofynj ersdalwm ond heb gael ateb call, sut mae rhywun yn defnyddio quotes??? Total madness ydi trio ffendio allan hyd yn hyn.

Sori, ond roedd gennai gwestiwn piwsig arall, ari9 neud i fi ddod i'r seiat yma, onmd dwi wedi anghopfio be oeddo.

I'll be back............... 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Prysor » Sad 26 Hyd 2002 12:25 am

Wedi cofio y cwestiwn gwreiddiol (oeddwn isio ofyn cyn cofio am y cwestiwn arall nes i ofyn...).

GYRRU NEGES BREIFAT - SUT???

Sut ar wyneb daear mae defnyddio'r blwch gyrru etc??
Bob tro dwin gyrru neges breifat dwi'n gorfd mynd i neghes rwyun mewn seiat a gwasgu'r botwm NEGES, achos fel arall dydi y safle ddim yn derbyn enwau defnyddiwyr os ti'n gyrri o dy safle breifat. Mighty strange. Dwi'n beio'r toris fy hun.

Yndw dwi yn pisd, ond fyddai'n sobor pan gai'r atebion - dyna sdy'n bwysig de?
Hwyl :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Prys mae gen ti neges

Postiogan Waen » Sad 26 Hyd 2002 1:27 am

Sgroliwch i ben y tudalen a cliciwch lle mae o'n dweud - Negeseuon[1]

(Syth o dan logo maes-e)


wedyn cliciwch- Neges gan Waen

Paid a gwneud hyn tan ti di sobri!!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am

Postiogan nicdafis » Sad 26 Hyd 2002 9:22 am

Prysor a ddywedodd:Gadewch i mi egluro. Be ffwc ydi rhithffurf??? - a dim cyfieithiad plis, eglurhad.


Rhithffurf yw'r llun bach, fel llun Kenny Waen, ac ati sy'n dy gynrychioli i'r byd.

rhyw wefan a ddywedodd: AVATAR is a word that is commonly heard but rarely understood. In English, the word has come to mean "an embodiment, a bodily manifestation of the Divine."


Dw i ddim yn gwybod os ydy hynny yn helpu.

prysor a ddywedodd:A sut mae rywun yn gallu rhoi llun fel pawb arall? ee llun Kenny gan Waen neu luniau yn ycorff neges fel mae rhai pobol yn wneud?


I roi llun yng nghorff y neges mae rhaid rhoi tipyn bach o gôd HTML (paid â dychrin!). I dechrau, rhaid i'r llun bod ar y we'n barod. Aros eiliad...

...ocê, wedi ffeindio llun.

Nesa, beth yw cyfeiriad y llun. Rhaid agor y llun mewn ffenst newydd. Fel arfer, rhoi glec de ar y llun a dewis "open picture in a new window" neu rywbeth fel 'na - bydd y gyfeiriad ym mar cyfeiriad dy browser.

Dyma cyfeiriad: http://www.penllyn.com/cymuned/photos/cynhadledd/11.jpg

Dydy hynny ddim iws o gwbl ar ei ben ei hunan. Rhaid rhoi fe mewn tag HTML fel hyn:

Cod: Dewis popeth
<img src="http://www.penllyn.com/cymuned/photos/cynhadledd/11.jpg">


Yn union fel 'na.

Rhaid hefyd wneud yn siwr nad oes tic yn y bwlch "Analluogi HTML yn y neges hon", neu fydd y peth ddim yn gweithio.

Bydda i'n wneud hynny yn y neges nesa...
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sad 26 Hyd 2002 9:26 am

<img src="http://www.penllyn.com/cymuned/photos/cynhadledd/11.jpg">

A dyna Simon.

(Cofiwch bydd rhai pobl ddim yn hapus iawn i ti ddefnyddio eu lluniau fel hyn. Dw i wedi gweld enghreifftiau ble mae pobl wedi "dwyn" lluniau, a'r person sy biau'r llun yn ei newid i rywbeth di-chwaeth. Gall gwe-feistr Cymuned newid y llun 'na i un o Brittney Spears, ac wedyn bydda i'n edrych yn dwp iawn.)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sad 26 Hyd 2002 9:37 am

Prysor a ddywedodd:A dwi wedi trio gofynj ersdalwm ond heb gael ateb call, sut mae rhywun yn defnyddio quotes??? Total madness ydi trio ffendio allan hyd yn hyn.


Os wyt ti am gwoto neges rhywun arall, rho glec ar y botwm "difynnu" uwchben y neges wyt moyn cwoto. Yn dy flwch neges nesa, byddi di'n gweld rhywbeth fel hyn, ond gyda bracets sgwar, nid cyrliog:

{quote="nicdafis"}Rwtsh rwtsh rwtsh rwtsh rwtsh rwtsh rwtsh rwtsh rwtsh.{/quote}

Nawr, ti'n barod i chwerthin ar ben fy neges i.

Gelli di neud yr un peth gan deipo y tags dy hun. Teipo rhywbeth fel hyn (eto, bracets sgwar) - {quote="rhyw foi"}Dyma'r fath o beth mae rhyw foi yn tueddu dweud.{/quote} - a thrwy hud a lledrith BBCode bydd e'n troi i...

rhyw foi a ddywedodd:Dyma'r fath o beth mae rhyw foi yn tueddu dweud.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Prysor » Sad 26 Hyd 2002 10:11 am

Diolch yn fawr hogia. Dwn i ddim be swn i'n neud hebddachi!!

Mi gai wared o'r hangofyr cyn trio allan yr instrycsiyns dwi'n meddwl! Dydi petha ddim yn glir iawn bore 'ma!

Hwyl! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron