Cyfrifiad Maes-e?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfrifiad Maes-e?

Postiogan Rhys » Iau 01 Medi 2005 2:43 pm

Syniad twp neu beidio?

Dwi'n bersonol rhwng dau feddwl am Y Cyfrifiad. Ar un llaw mae'n beth wasaidd iawn llenwi tudalennau o wybodaeth a'i drosglwyddo i'r wladwriaeth, ond ar y llaw arall mae'n hanfodol o ran gwneud yn siwr bod y gwasnaethau priodol yn cael eu darparu ac i ateb y gofynion. Fel siaradwr Cymraeg dwi'n edrych ymlaen (os dyna'r gair) i weld y canlyniadau ynglyn â'r iaith, er eu bod yn gallu cael eu camddehongli bob sut.
Yn amlwg ni fyddai un maes-e yn orfodol fel un y cyfrifiad cenedlaethol.

Pam cael un i faes-e?

Mae'r opsiwn Pôl opiniwn yn cael ei ddefnyddio'n aml i ffeindio allan pa frechdan mae pawb yn hoffi ne pa law mae rhywun yn ei ddefnyddio i sychu ei dîn, ond hefyd mae rhai diddordol wedi bod fel gallu ieithyddol maeswyr ayyb.
Ar lefel personol byddai'n ddifyr gweld demograffeg maeswyr. Oed, Rhyw, Sgiliau Iaith, Man geni, Man preswyl, Gwaith.
Gall y wybodaeth gael ei ddefnyddio gan Nic wedyn i werthu y wefan i hysbysebwyr, ac i unrhywun sy'n ymddiddori mewn tablau a graffiau.

Dwi'n cofio llenwi holiadur ar-lein oedd yn defnyddio gwasaneth (am ddim dwi'n meddwl) my3q. Dyma esiampl. Bydde rhywbeth fel hyn y addas i lunio'r cyfrifiad dwi'n siwr.


Beth y barn pobl (a phwysicach fyth efallai beth y barn Nic)?

Hyd y gwela i gallai unrhywun wneud rhywbeth fel hyn ac efallai rhannu'r wybodaeth ar maes-e wedyn. Prosiect Ystadegau/Dadansoddi ysgol/coleg/prifysgol i rhywun?

Dylid cael trafodaeth am ba fath o wybodaeth sydd i'w gasglu a sut fyddai orau i lunio'r cwestiwn o flaen llaw.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan mam y mwnci » Iau 01 Medi 2005 3:00 pm

Dwi wrth fy modd yn llenwi holiaduron :) Bob tro daw un drwy'r drws fyddai'n estyn am y feio ddu. God dwi'n sad :wps:
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan nicdafis » Iau 01 Medi 2005 5:22 pm

Dim problem 'da fi, ac os ti'n defnyddio gwefan allanol, does dim rheswm pam bod rhaid iddo fe fod yn "cyfrifiad maes-e" - gellir cynnwys cwestiwn "Wyt ti'n aelod maes-e?" er enghraifft.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Cyfrifiad Maes-e?

Postiogan cymro1170 » Iau 01 Medi 2005 5:39 pm

Rhys a ddywedodd:.....ne pa law mae rhywun yn ei ddefnyddio i sychu ei dîn.....


Papur fydda i yn ei ddefnyddio, dim fy llaw.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
cymro1170
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 699
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:14 am
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Re: Cyfrifiad Maes-e?

Postiogan Al » Iau 01 Medi 2005 7:56 pm

cymro1170 a ddywedodd:
Rhys a ddywedodd:.....ne pa law mae rhywun yn ei ddefnyddio i sychu ei dîn.....


Papur fydda i yn ei ddefnyddio, dim fy llaw.


tissue fyddai yn defnyddio :rolio:
Al
 

Postiogan Cacamwri » Iau 01 Medi 2005 7:58 pm

O jiw na - tissue i'r trwyn bob tro...
Andrex toilet rol i'r pen ol :winc:
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan Manon » Iau 01 Medi 2005 10:18 pm

mam y mwnci a ddywedodd:Dwi wrth fy modd yn llenwi holiaduron :) Bob tro daw un drwy'r drws fyddai'n estyn am y feio ddu. God dwi'n sad :wps:


Fi 'fyd... Yn enwedig y bit "put your interests in order of preference, 1 being the highest". Hmmm... Ydi well gin i arddio neu 'sgota? Embroidery neu wood carving? A pam bod "filling in questionnaires" ddim yn cael ei restru fel diddordeb? :winc:

Nath rywyn ar faes-e fod yn ddigon dewr i roi 'Jedi' fel crefydd ar y cyfrifiad dwytha?
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Rhys » Gwe 02 Medi 2005 9:08 am

nicdafis a ddywedodd:Dim problem 'da fi, ac os ti'n defnyddio gwefan allanol, does dim rheswm pam bod rhaid iddo fe fod yn "cyfrifiad maes-e" - gellir cynnwys cwestiwn "Wyt ti'n aelod maes-e?" er enghraifft.


Cyfrifiad wedi ei anelu at aelodau maes-e fyddai o. Dwi'n deall nad yw pawb mor drist a fi, ond dwi'n licio darllen ystadegau ayyb.

Pethau dwi'n rhagdybu ond hoffwn wybod mwy amdan yw:

Lleoliad.
Da ni'n gallu gweld o broffil aelodau ble mae'nt yn byw (os ydy'r aelod yn dymuno datgelu hynny yn y blwch Lleoliad). Ar yr olwg gyntaf mae'r rhanfwyaf unai'n byw yng Ngwynedd neu yng Nghaerdydd, ond byddai'n dda cael darlun gwell i weld ba ganran o aelodau sy'n dod o bob sir.

Ble ganwyd aelod.
Llawer o'r rhai sy'n byw yng Nghaerdydd wedi eu geni mewn rhannau eraill o Gymru, rhywbeth sy'n hysbys i bawb, ond o ble mae rhain yn dod.

Oed.
Dwi'n dyfalu bod y mwyafrif yn eu ugeiniau, ond eto bydde ni'n licio gweld pyramid oed.

Gwaith.
Faint sy'n gweithio neu'n astudio?
O'r rhai sy'n gweithio, faint sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus/preifat
Faint sy'n hunan gyflogedig
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Selador » Gwe 02 Medi 2005 5:26 pm

Herod
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste


Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai