Syniad twp neu beidio?
Dwi'n bersonol rhwng dau feddwl am Y Cyfrifiad. Ar un llaw mae'n beth wasaidd iawn llenwi tudalennau o wybodaeth a'i drosglwyddo i'r wladwriaeth, ond ar y llaw arall mae'n hanfodol o ran gwneud yn siwr bod y gwasnaethau priodol yn cael eu darparu ac i ateb y gofynion. Fel siaradwr Cymraeg dwi'n edrych ymlaen (os dyna'r gair) i weld y canlyniadau ynglyn â'r iaith, er eu bod yn gallu cael eu camddehongli bob sut.
Yn amlwg ni fyddai un maes-e yn orfodol fel un y cyfrifiad cenedlaethol.
Pam cael un i faes-e?
Mae'r opsiwn Pôl opiniwn yn cael ei ddefnyddio'n aml i ffeindio allan pa frechdan mae pawb yn hoffi ne pa law mae rhywun yn ei ddefnyddio i sychu ei dîn, ond hefyd mae rhai diddordol wedi bod fel gallu ieithyddol maeswyr ayyb.
Ar lefel personol byddai'n ddifyr gweld demograffeg maeswyr. Oed, Rhyw, Sgiliau Iaith, Man geni, Man preswyl, Gwaith.
Gall y wybodaeth gael ei ddefnyddio gan Nic wedyn i werthu y wefan i hysbysebwyr, ac i unrhywun sy'n ymddiddori mewn tablau a graffiau.
Dwi'n cofio llenwi holiadur ar-lein oedd yn defnyddio gwasaneth (am ddim dwi'n meddwl) my3q. Dyma esiampl. Bydde rhywbeth fel hyn y addas i lunio'r cyfrifiad dwi'n siwr.
Beth y barn pobl (a phwysicach fyth efallai beth y barn Nic)?
Hyd y gwela i gallai unrhywun wneud rhywbeth fel hyn ac efallai rhannu'r wybodaeth ar maes-e wedyn. Prosiect Ystadegau/Dadansoddi ysgol/coleg/prifysgol i rhywun?
Dylid cael trafodaeth am ba fath o wybodaeth sydd i'w gasglu a sut fyddai orau i lunio'r cwestiwn o flaen llaw.