Fy llwyddiannau i ar maes-e.com

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Fy llwyddiannau i ar maes-e.com

Postiogan Rhingyll Thomas » Sul 04 Medi 2005 3:17 pm

:D Atgoffa pawb o bwysigrwydd geiriaduron tra'n cyfathrebu yn y Gymraeg e.e. Geiriadur Yr Academi...
:D Gofyn y cwestiwn plaen yma i CYMUNED- pam ddiawl na all y mudiad greu pentref fechan Gymraeg ar y wefan swyddogol? Os nad yw'r sefyllfa bresennol yn joc bathetig anuchelgeisiol yna hoffwn wybod be yn union sydd! Er gwaethaf y ffaith fod Aran Jones yn lladd nadroedd, nid yw ymdrech dda gan un neu hanner dwsin o bobl yn ddigon-rhaid i bob un o'r aelodau sylweddoli gwir botensial y Lle Trafod (gweler http://www.cymuned.net )...
:D Tynnu sylw pobl at wir botensial maes-e.com. Rwyf wedi son misoedd yn ol am y syniad cyffrous o ddenu mwy o aelodau a throi maes-e yn anghenfil chwyldroadol er budd yr heniaith fel fenomenon fyw go iawn. Cefais fy meirniadu bryd hynny, eithr da gweld fod rhai yn dechrau gweld y goleuni...
Rhingyll Thomas
Cerdyn Coch
Cerdyn Coch
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Sul 04 Medi 2005 3:02 pm

Postiogan Aran » Sul 04 Medi 2005 4:34 pm

Diolch i'r aelod wnaeth dynnu sylw at y neges hon trwy ddefnyddio'r Botwm Adrodd.

Ti yma eto, Martin?

Cawn weld os bydd Nic yn teimlo fel tynnu ei waharddiad.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Rhingyll Thomas » Sul 04 Medi 2005 4:41 pm

Byddem yn ddiolchgar pe bai rhai o bwysigion CYMUNED yn cael golwg sydyn ar y canlynol:
http://www.vds-ev.de/forum/
Rwan ta-dwi ddim yn honni am eiliad fod gan Lle Trafod CYMUNED y potensial i fod mor brysur a'r seiat uchod. Eithr mae'n hollol blaen nad yw fforwm CYMUNED wedi llwyddo i greu momentwm yn ystod yr wythnosau diwethaf yma. Mae gan yr iaith Almaneg dros 100miliwn (efallai dros 120miliwn) o siaradwyr rhugl-cewch ddiffinio y gair rhugl fel y mynnwch...
Yn ogystal, mae amcanion natur vds-ev a CYMUNED yn wahannol iawn i'w gilydd. OND credaf ei bod hi'n bwysig fod aelodau Cymuned yn OLEIAF EDRYCH AR Y FFORWM UCHOD ER MWYN DOD O HYD I FYMRYN O YSBRYDOLIAETH
Rhingyll Thomas
Cerdyn Coch
Cerdyn Coch
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Sul 04 Medi 2005 3:02 pm

Postiogan Rhingyll Thomas » Sul 04 Medi 2005 4:44 pm

Aran-a fyddech cystal ag ateb un cwestiwn i mi os gwelwch chi'n dda:
A ydych eisiau gweld y Lle Trafod yn dod yn fwy prysur er budd yr iaith Gymraeg a'r mudiad?[b]
Mae gennych ddau opsiwn:
YDW
NAC YDW
Rhingyll Thomas
Cerdyn Coch
Cerdyn Coch
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Sul 04 Medi 2005 3:02 pm

Postiogan Rhingyll Thomas » Sul 04 Medi 2005 5:08 pm

Aran a ddywedodd:Diolch i'r aelod wnaeth dynnu sylw at y neges hon trwy ddefnyddio'r Botwm Adrodd.

Botwm "Adrodd"? Na- Botwm "Achwyn"! :lol:
Rhingyll Thomas
Cerdyn Coch
Cerdyn Coch
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Sul 04 Medi 2005 3:02 pm

Postiogan tafod_bach » Sul 04 Medi 2005 6:44 pm

yyy, sbam lol botes gachu rwtsh ETO. os oes gen ti unrhywbeth i ofyn i aran (waeth pa mor wirion), mae'n siwr y gelli eu hel mewn ebost byr. siwr y gelli di fanejo hynna o dop dy focs sebon. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan nicdafis » Sul 04 Medi 2005 6:48 pm

Yr unig peth mae Martin Llewelyn Williams wedi llwyddo wneud ar faes-e yw cael ei wahardd mwy o weithiau na neb arall.

Jyst i atgoffa pawb - mae'r boi 'ma wedi cael ei wahardd am byth, neu fel y byddai fe'n ei roi, <b>am byth!</b>. Os daw e yn ôl, plîs, plîs, plîs, peidiwch ag ymateb i unrhywbeth mae'n dweud - mae hyn jyst yn creu gwaith ychwanegol i mi.

Diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms


Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron