Madrwyddygryf a ddywedodd:Wel roedd yna maes trafod Fforwm ond wrth edrych ar y wefan, mae'n edrych bod rhywbeth wedi digwydd iddo fo.
Bai Gwion.
nicdafis a ddywedodd:Mae'r pwnc hyn wedi'i drafod o'r blaen, a dw i ddim yn gwybod pam bod hyn mor anodd i bobl ei ddeall: does dim fforwm gwleidyddol yma achos bod y bobl oedd yn ei fynychu mwya (y bobl sy'n cwyno yma) wedi anwybyddu pob ymdrech ar fy rhan i beidio troi'r peth yn draed moch.
Wyt ti, pogon, yn awgrymu bod rhyw fath o gyfrifoldeb moesol arna i i gynnal adran wleidyddol, er lles yr iaith Gymraeg? Dylwn i edrych ymlaen at gael y bai y tro nesa ti'n rhoi'r gorau i'r iaith?
GT a ddywedodd:Rhyfedd braidd bod edefyn i drafod diflaniad y cylchoedd gwleidyddol yn mynd i swnio fel y cylchoedd hynny mewn dau funud.
GT a ddywedodd:Aw, 'doedd honna ddim yn neis o gwbl.
nicdafis a ddywedodd:GT a ddywedodd:Aw, 'doedd honna ddim yn neis o gwbl.
Ti'n iawn, dw i'n ymddiheuro. Ond mae hyn wedi'i drafod, a'i drafod, a'i drafod. Sawl gwaith wyt ti'n dweud y drefn wrth dy blantos di cyn i ti eu hala i'r gwely heb swper?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai