'Sneb yn trafod gwleidyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ...

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan newydd sbon » Llun 10 Hyd 2005 8:17 pm

Helo gyfeillion. Yr ydwyf yn gweld bod galw am negesfwrdd i drafod gwleidyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yr ydwyf yn deall bod trafferth wedi bod yn y gorffennol, ond mi yr ydwyf i'n bwriadu rhoi cyfle i un.

Fel rhan o wefan yr ydwyf yn ei ddatblygu a fydd yn cynnig gwasanaethau trwy'r Gymraeg, yr ydwyf wedi mynd ati i osod un yn fan hyn:

http://www.newyddsbon.com/trafod/

Y bydd bosib y wnewch chi weld un neu ddau o rannau Saesneg - ond coeliwch chi fi, yr ydwyf yn brysur cael gwared arnynt.

Ar hyn o bryd, yr ydwyf yn gweithio ar weddill y gwefan, ond os hoffwch fy nghysylltu, gyrrwch ebost i newyddsbon@gmail.com .
newydd sbon
newydd sbon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Maw 06 Medi 2005 4:49 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 10 Hyd 2005 9:38 pm

Da iawn, diolch am hyn.

Dewch man chi bobl sydd wedi bod yn cwyno. Arwyddwch lan i http://www.newyddsbon.com/trafod/

Rhai sylwadau:

Beth am gael logo i ymddangos ar dop y dudalen?

Angen rhywbeth ar yr hafan ddalen yma: http://www.newyddsbon.com/trafod/ - yn esbonio beth yw'r wefan. H.y. trafod gwleidyddiaeth.

Byddai'n well cael y tudalen cychwynnol yn dangos y categoriau megis y ddalen yma: http://www.newyddsbon.com/trafod/categories.php yn hytrach na'r Trafodaethau?

Nifer o'r dolenni braidd yn olau ac yn anodd i'w gweld.

Dwi'n methu gweld unrhyw wenogluniau :crio:

Ond heblw am hynny, gret. Diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan newydd sbon » Llun 10 Hyd 2005 9:48 pm

Gyda'r system yr ydwyf yn ei ddefnyddio, tydw i ddim yn meddwl bod gwenogluniau ar gael, er bod BBCode a HTML ar gael.

Mi wnai gymeryd y camau priodol i roi y categoriau fel y prif dudalen, a rhoi cyflwyniad i gynnwys y negesfwrdd ayyb.

Ceisio defnyddio system syml, sy'n canolbwyntio mwy ar y cynnwys. Buasai fo'n hawdd iawn i mi ddefnyddio phpBB, ond teimlaf ei fod yn drwm, ac yn cynnwys llawer o bethau diangen ar gyfer negesfwrdd gwleidyddiaeth.
newydd sbon
newydd sbon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Maw 06 Medi 2005 4:49 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 10 Hyd 2005 9:57 pm

Gret, bydd yn ddifyr gweld y canlyniadau :D

Ond dqwi dal yn hoff o wenogluniau 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Tegwared ap Seion » Maw 11 Hyd 2005 12:10 am

a fi :D :? 8) :rolio: :wps: :winc: :lol:
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 11 Hyd 2005 3:03 am

nicdafis a ddywedodd:Mae'r pwnc hyn wedi'i drafod o'r blaen, a dw i ddim yn gwybod pam bod hyn mor anodd i bobl ei ddeall: does dim fforwm gwleidyddol yma achos bod y bobl oedd yn ei fynychu mwya (y bobl sy'n cwyno yma) wedi anwybyddu pob ymdrech ar fy rhan i beidio troi'r peth yn draed moch.



Efo pob parch, Nico annwyl, hwyrach mae tydi sydd yn cael yr anhawster deall!

Bydd yr hen Gath a finnau yn ceisio creu traed moch rhwng pob dadl sydd rhyngom oherwydd mae dyna ydy Natur dadl wleidyddol.

Does dim disgwyl i Guto a minnau dod i ddealltwriaeth, ond mae pwynt yn ein dadlau - er mwyn inni finiogi ein harfau. A bydd y miniogi arfau yna o les i'r genedl. Nid oherwydd ein bod yn dod i gytundeb - ond o'r herwydd ein bod yn dod i ddeallt ein safbwyntiau gwahanol yn well.

Ar ddiwedd y dydd nid cytundeb sy'n creu democratiaeth, na chymdeithas rydd a gwar - ond yr hawl i anghytuno. Trwy gau mynegiant i anghytundeb, nid wyt yn cael gwared ag anghytundeb, yr wyt yn ei guddio. A chuddio anghytundeb agored sydd yn arwain at unbennaeth.

Tra fydd y Gath, a'r Realydd, a Mr Gasyth a Macsen a Hedd a minnau ac ati yn dadlau mewn cylch dieflig heb obaith dod i gytundeb, bydd yn dadlau yn ymddangos yn diflas i lawer. Ond dychmygwch yr oblygiadau i ryddid os na chawn yr hawl i barhau?

Nid wyf am honni am funud mae dy ddyletswydd foesol di yw creu hafan i'r fath ryddid farn. Os ma
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan nicdafis » Maw 11 Hyd 2005 8:56 am

Maen nhw ar agor. Diolch am y cefnogaeth, y rhai sy wedi fy nghefnogi, ac ymddiheuriadau i Macsen yn arbennig, ond mae dadlau yn erbyn ail-agor y seiadau nawr yn cymryd mwy o egni nag oedd cymedroli y ffycars yn y lle cynta.

Llongyfarchiadau.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Maw 11 Hyd 2005 9:03 am

Sori, mae hynny yn swnio yn fwy sur nag o'n i'n bwriadu. Dw i mewn hwyliau braidd yn ddwyochrog ar hyn o bryd, am resymau personol. Yn ystod y misoedd diwetha dw i wedi colli rhiant am y tro cynta, dod yn ewythr am y tro cynta, a dw i yn y broses o brynu ty am y tro cynta. Dydy rhedeg maes-e ddim wedi bod ar frig fy mlaenoriaethau, mae'n amlwg. Dw i'n gobeithio wneud gwell job ohono yn y dyfodol.

Wna i symud hyn i'r seiat priodol.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan sian » Maw 11 Hyd 2005 10:06 am

Nic
Ti'n werth y byd.
sian
xxx
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan ceribethlem » Maw 11 Hyd 2005 10:18 am

Clatsho fydd hi nawr :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai