nicdafis a ddywedodd:Mae'r pwnc hyn wedi'i drafod o'r blaen, a dw i ddim yn gwybod pam bod hyn mor anodd i bobl ei ddeall: does dim fforwm gwleidyddol yma achos bod y bobl oedd yn ei fynychu mwya (y bobl sy'n cwyno yma) wedi anwybyddu pob ymdrech ar fy rhan i beidio troi'r peth yn draed moch.
Efo pob parch, Nico annwyl, hwyrach mae tydi sydd yn cael yr anhawster deall!
Bydd yr hen Gath a finnau yn ceisio creu traed moch rhwng pob dadl sydd rhyngom oherwydd mae dyna ydy
Natur dadl wleidyddol.
Does dim disgwyl i Guto a minnau dod i ddealltwriaeth, ond mae pwynt yn ein dadlau - er mwyn inni finiogi ein harfau. A bydd y miniogi arfau yna o les i'r genedl. Nid oherwydd ein bod yn dod i gytundeb - ond o'r herwydd ein bod yn dod i ddeallt ein safbwyntiau gwahanol yn well.
Ar ddiwedd y dydd nid cytundeb sy'n creu democratiaeth, na chymdeithas rydd a gwar - ond yr hawl i anghytuno. Trwy gau mynegiant i anghytundeb, nid wyt yn cael gwared ag anghytundeb, yr wyt yn ei guddio. A chuddio anghytundeb agored sydd yn arwain at unbennaeth.
Tra fydd y Gath, a'r Realydd, a Mr Gasyth a Macsen a Hedd a minnau ac ati yn dadlau mewn cylch dieflig heb obaith dod i gytundeb, bydd yn dadlau yn ymddangos yn diflas i lawer. Ond dychmygwch yr oblygiadau i ryddid os na chawn yr hawl i barhau?
Nid wyf am honni am funud mae dy ddyletswydd foesol di yw creu hafan i'r fath ryddid farn. Os ma