Wrth gwrs nad oes mwy o ddyletswydd moesol ar Nic i ddarparu fforwm gwleidyddiaeth na sydd ar Pogon i symud i fyw i Llanuwchllyn, gwisgo par o glocsiau, gwasgod a chap stabal, ymuno a Chymuned a dau gor meibion a dysgu i chwarae'r delyn deires.
Ond mae ganddo bwynt nad oes llawer yn trafod gwleidyddiaeth ar y we trwy gyfrwng y Gymraeg bellach. Mae ymdrechion Macsen (a Hedd bellach - tybed a fydd cystadleuaeth rhwng y ddwy safle, efo Hedd a Macsen fel dau ffurat mewn sach?) yn glodwiw - ond bydd yn cymryd amser i gael digon o gyfranwyr i gael rhywbeth sy'n agos mor fywiog a phrysur na'r cylchoedd oedd ar y maes. Byddai'r un peth yn wir am gylch preifat oddi mewn i'r maes.
Beth am roi penawd sy'n edrych fel penawd unrhyw gylch arall ar y maes - ond ei fod yn arwain at fforwm Macsen (neu Hedd)? Yn ychwanegol byddai'n syniad caniatau i bawb sy'n aelodau o'r maes i gael aelodaeth o'r fforwm newydd heb orfod gofyn amdano.
Byddai hyn yn ail greu rhywbeth tebyg i'r hen gylchoedd gwleidyddol - ond mewn modd a fyddai'n sicrhau nad ydi Nic yn mynd i'w wely efo cam dreuliad pob nos.