'Sneb yn trafod gwleidyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ...

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan GT » Gwe 07 Hyd 2005 11:07 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Wel roedd yna maes trafod Fforwm ond wrth edrych ar y wefan, mae'n edrych bod rhywbeth wedi digwydd iddo fo. :(


Bai Gwion.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Sad 08 Hyd 2005 11:10 am

Bydd y Fforwm yn ol, ond falle bydd rhaid dechrau o'r newydd os nad yw Gwion yn fodlon talu eto am y parth Y Ddraig.com. Roedd o'n rhoi llety i'r Fforwm am ddim felly alla'i ddim cwyno.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cath Ddu » Sul 09 Hyd 2005 12:12 am

nicdafis a ddywedodd:Gyda'r llaw, dydy'r <a href="http://maes-e.com/statistics.php">ystadegau</a> ddim yn cytuno
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan HBK25 » Sul 09 Hyd 2005 1:12 am

Sgen i ddim llawer o ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymraeg gyfoes oherwydd yr holl BS am yr iaith sy'n dod cyn pethau fel iechyd, troseddu a ballau. Sa'n well gen i fyw mewn gwlad iaith Saesneg hefo ddim trosedd a ddim plant yn cael ei lladd gan paedos ayyb nag un uniaith Gymraeg hefo troseccu di-ri.

Granted, mae'r iaith yn bwysig, ond yn "the great scheme of things", mae na bethau pwysicach.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan HBK25 » Sul 09 Hyd 2005 1:16 am

Hefyd, nae'r "scene" gwleidyddol Cymraeg ym mha bynnag iaith yn reit ddiflas. I ddweud y gwir ma gwleidyddiaeth yn hollol diflas oni bai bod na rhyw "issue" neu'i gilydd sy'n mynd a'ch diddordeb.

**Gyda llaw: cyn i neb fy nghyhuddo o beidio meddwl llawer am yr iaith, dwi YN meddwl fod dyfodol yr iaith yn bwysig, ond mae na bethau pwysicach.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan nicdafis » Sul 09 Hyd 2005 5:07 pm

Mae'r pwnc hyn wedi'i drafod o'r blaen, a dw i ddim yn gwybod pam bod hyn mor anodd i bobl ei ddeall: does dim fforwm gwleidyddol yma achos bod y bobl oedd yn ei fynychu mwya (y bobl sy'n cwyno yma) wedi anwybyddu pob ymdrech ar fy rhan i beidio troi'r peth yn draed moch.

Wyt ti, pogon, yn awgrymu bod rhyw fath o gyfrifoldeb moesol arna i i gynnal adran wleidyddol, er lles yr iaith Gymraeg? Dylwn i edrych ymlaen at gael y bai y tro nesa ti'n rhoi'r gorau i'r iaith?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan GT » Sul 09 Hyd 2005 6:01 pm

nicdafis a ddywedodd:Mae'r pwnc hyn wedi'i drafod o'r blaen, a dw i ddim yn gwybod pam bod hyn mor anodd i bobl ei ddeall: does dim fforwm gwleidyddol yma achos bod y bobl oedd yn ei fynychu mwya (y bobl sy'n cwyno yma) wedi anwybyddu pob ymdrech ar fy rhan i beidio troi'r peth yn draed moch.

Wyt ti, pogon, yn awgrymu bod rhyw fath o gyfrifoldeb moesol arna i i gynnal adran wleidyddol, er lles yr iaith Gymraeg? Dylwn i edrych ymlaen at gael y bai y tro nesa ti'n rhoi'r gorau i'r iaith?


Aw, 'doedd honna ddim yn neis o gwbl.

Rhyfedd braidd bod edefyn i drafod diflaniad y cylchoedd gwleidyddol yn mynd i swnio fel y cylchoedd hynny mewn dau funud. :winc:
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dili Minllyn » Sul 09 Hyd 2005 7:15 pm

GT a ddywedodd:Rhyfedd braidd bod edefyn i drafod diflaniad y cylchoedd gwleidyddol yn mynd i swnio fel y cylchoedd hynny mewn dau funud. :winc:


Yn hollol. Mae'r holl hen gyfranwyr yma, a'r drafodaeth yn troi'n ddibwrpas o gas yr un mor fuan. Dwi'n meddwl 'bod hi'n gwbl glir pam roedd rhaid i Nic gau'r fforymau gwleidyddol.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan nicdafis » Sul 09 Hyd 2005 7:47 pm

GT a ddywedodd:Aw, 'doedd honna ddim yn neis o gwbl.


Ti'n iawn, dw i'n ymddiheuro. Ond mae hyn wedi'i drafod, a'i drafod, a'i drafod. Sawl gwaith wyt ti'n dweud y drefn wrth dy blantos di cyn i ti eu hala i'r gwely heb swper?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan GT » Sul 09 Hyd 2005 8:18 pm

nicdafis a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Aw, 'doedd honna ddim yn neis o gwbl.


Ti'n iawn, dw i'n ymddiheuro. Ond mae hyn wedi'i drafod, a'i drafod, a'i drafod. Sawl gwaith wyt ti'n dweud y drefn wrth dy blantos di cyn i ti eu hala i'r gwely heb swper?


Mm - 'dydi'r ddwy sefyllfa ddim yn rhyw gymharu rhywsut.

Efallai y gallaf fi hel fy 'ffernols bach i i'r gwely os oes rhaid - ond mae'n anodd i ti hel Pogon, y Gath et al i'r gwely na'r unman arall o ran hynny.

Efallai mai anwybyddu'r edefyn a gadael i'r sawl sydd am gyfranu iddo fwydro wrth fodd ei galon fyddai orau. :winc:
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron