Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Sul 09 Hyd 2005 9:25 pm
gan GT
Y broblem efo fforwm Macsen - (pan mae'n gweithio) ydi nad oes digon o bobl yn perthyn iddo weithio'n iawn - diffyg critical mass fel petae.

Ydi hyn yn ateb posibl - bod linc ar faes e i'r Fforwm, a bod pawb sy'n aelodau o faes e hefyd yn aelodau o'r Fforwm?

PostioPostiwyd: Sul 09 Hyd 2005 10:47 pm
gan pogon_szczec
nicdafis a ddywedodd:
Wyt ti, pogon, yn awgrymu bod rhyw fath o gyfrifoldeb moesol arna i i gynnal adran wleidyddol, er lles yr iaith Gymraeg?


Ydw.

Mae'n amlwg bod yr iaith yn bwysig i ti.

Mae'n amlwg hefyd bod llai o bobl yn defnyddio'r Gymraeg ar y we oherwydd dy fod wedi cae'r seiadau gwleidyddol.

Mae'n anffodus dy fod yn 'ysgwyddo'r baich' am hyn i gyd, ond ti di creu rhywbeth (maes-e) sydd yn fwy na ti.

PostioPostiwyd: Sul 09 Hyd 2005 10:55 pm
gan Hedd Gwynfor
Fi newydd wneud hwn mewn pum munud, a mae croeso i unrhyw un ei ddefnyddio am y tro tan fod rhywbeth gwell yn dod:

http://gwleidyddiaeth.11.forumer.com/

Ond mae yna broblem ar hyn o bryd. Mae'r cyfarwyddiadau ayb yn Saesneg. Dydy'r cwmni ddim yn cynnig y gallu i ddefnyddio pecynnau iaith OND dwi'n credu falle bod ffordd i newid hyn.

PostioPostiwyd: Sul 09 Hyd 2005 11:05 pm
gan huwwaters
Wrach mi wnai ystyried gychwyn un, ond ni fyddaf yn ei gymedroli'n drylwyr. H.y. dwi ddim am fynd trwy pob edefyn, ond mi wnai gael gwared ar sbamwyr.

Fyddai'n fodlon cynnig y gwasanaeth, ond tydw i ddim isio llawer o hassle.

PostioPostiwyd: Sul 09 Hyd 2005 11:11 pm
gan pogon_szczec
nicdafis a ddywedodd: Dylwn i edrych ymlaen at gael y bai y tro nesa ti'n rhoi'r gorau i'r iaith?


Dwi wedi rhoi'r gorau i'r iaith i ryw raddau oherwydd bod y seiadau gwleidyddol wedi'u cau.

Maes-e yw'r unig cysylltiad a'r iaith sy gen i.

(Dwi ddim yn byw yn Nghaernarfon).

PostioPostiwyd: Llun 10 Hyd 2005 8:19 am
gan Aran
pogon_szczec a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd:
Wyt ti, pogon, yn awgrymu bod rhyw fath o gyfrifoldeb moesol arna i i gynnal adran wleidyddol, er lles yr iaith Gymraeg?


Ydw.


Pe bai dim ond un person yn bodoli gyda'r gallu i greu a rhedeg negesfwrdd trafod gwleidyddiaeth yn y Gymraeg, a Nic yn digwydd bod y person hwnnw, byddai gyfrifoldeb moesol arno fo.

Gan bod unrhyw un yn medru gwneud hynny o'i ddewis, gan gynnwys pogon, mae'r cyfrifoldeb moesol ar bawb i'r un raddfa.

Mae'n ymddangos bod pump neu chwech o bobl yn awyddus iawn i gael y seiadau yn

PostioPostiwyd: Llun 10 Hyd 2005 2:43 pm
gan Tegwared ap Seion
Macsen a ddywedodd:Bydd y Fforwm yn ol, ond falle bydd rhaid dechrau o'r newydd os nad yw Gwion yn fodlon talu eto am y parth Y Ddraig.com. Roedd o'n rhoi llety i'r Fforwm am ddim felly alla'i ddim cwyno.


pam na all Macsen redeg seiat gwleidyddol ar y maes ta? sa pawb yn hapus wedyn! Macsen yn cael 'i Fforwm, Nic yn cael rhywun i redeg y Fforwm a phawb arall yn cael ffraeo :D

PostioPostiwyd: Llun 10 Hyd 2005 3:07 pm
gan Macsen
Bydd y Fforwm yn ol cyn hir, wythnos yma neu wythnos nesaf, yn well nag erioed. Peidiwch a mynd i banig. Dyw'r byd ddim ar ben (eto).

PostioPostiwyd: Llun 10 Hyd 2005 5:11 pm
gan GT
Wrth gwrs nad oes mwy o ddyletswydd moesol ar Nic i ddarparu fforwm gwleidyddiaeth na sydd ar Pogon i symud i fyw i Llanuwchllyn, gwisgo par o glocsiau, gwasgod a chap stabal, ymuno a Chymuned a dau gor meibion a dysgu i chwarae'r delyn deires.

Ond mae ganddo bwynt nad oes llawer yn trafod gwleidyddiaeth ar y we trwy gyfrwng y Gymraeg bellach. Mae ymdrechion Macsen (a Hedd bellach - tybed a fydd cystadleuaeth rhwng y ddwy safle, efo Hedd a Macsen fel dau ffurat mewn sach?) yn glodwiw - ond bydd yn cymryd amser i gael digon o gyfranwyr i gael rhywbeth sy'n agos mor fywiog a phrysur na'r cylchoedd oedd ar y maes. Byddai'r un peth yn wir am gylch preifat oddi mewn i'r maes.

Beth am roi penawd sy'n edrych fel penawd unrhyw gylch arall ar y maes - ond ei fod yn arwain at fforwm Macsen (neu Hedd)? Yn ychwanegol byddai'n syniad caniatau i bawb sy'n aelodau o'r maes i gael aelodaeth o'r fforwm newydd heb orfod gofyn amdano.

Byddai hyn yn ail greu rhywbeth tebyg i'r hen gylchoedd gwleidyddol - ond mewn modd a fyddai'n sicrhau nad ydi Nic yn mynd i'w wely efo cam dreuliad pob nos. :winc:

PostioPostiwyd: Llun 10 Hyd 2005 5:50 pm
gan Hedd Gwynfor
Pum munud yn llythrennol a dreuliais i ar hwn:

http://gwleidyddiaeth.11.forumer.com/

Nid yw hi i fod yn ateb hir dymor o bell ffordd, ond cyfle i GT a Cath Ddu i gweryla tan fod Fforwm y Ddraig yn ol. :winc:

Does neb yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd, a byddai'n ei ddileu pan/os bydd Fforwm y Ddraig yn ail sefydlu.