gan Barbarella » Maw 15 Tach 2005 5:37 pm
Gweler <a href="viewtopic.php?t=12124">hwn, <a href="viewtopic.php?t=10263">hwn</a>, <a href="viewtopic.php?t=5988">hwn</a>, ac yn bwysicach oll, <a href="search.php">hwn</a>!
Pam nag oes botymau syml i greu'r acenion? Iawn, gallwn greu rhai ar gyfer acenion ar a-u, ond nid ar gyfer w ac y. Does na ddim ffordd syml o'i wneud e sy'n gweithio ym mhob porydd ar bob platfform, ac mae diffygion phpBB (y meddalwedd sy'n cynnal y Maes) yn y maes yma yn rhy drafferthus.
I'r rhai technegol: mae angen defnyddio UTF-8 neu rhyw ffurf o Unicode i gael yr acenion Cymraeg yn iawn. Mae phpBB yn defnyddio ISO-8859-1, ac nid yw'n hawdd newid hynny heb *lot* o drafferth (gan gofio byddai angen trosi bron chwarter miliwn o negeseuon yr un pryd). Mae modd ffugio acenion w ac y gyda'r codau, ond mae'n cawlio lot o bethau eraill i fyny (ee. teitlau edefai a'r system ymchwilio).
Bydd yr holl beth yn cael ei sortio gan fersiwn mawr nesa phpBB (fel popeth arall...).