Maes-e wedi colli'i fflam

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan huwwaters » Sad 03 Rhag 2005 2:26 am

Nifer o'r bobl sy'n dinistrio'r maes yw'r rhai sy'n ymateb gyda brawddeg yn unig. Sut allwch chi ddisgwyl i drafodaeth ddatblygu o gwenoglun neu 'dwi'n cytuno'. Wedyn be?

Dwi am fod yn onest achos dyna be dwi di bod erioed. Dwi heb ofn derbyn cyfrifoldeb dros yr hyn dwi'n ei wneud, achos dwi'n gwad bod fy ffordd i o ymateb o bethau yn ennill parch gan bawb, ac yn fy nghreu yn unigol.

Dwi wedi cael dipyn o alcohol, ond dim cymaint. Dwi'n gweld alcohol yn catalyst i'ch teimladau. Os chi'n berson dawel mi wnewch aros yn dawel. Os yn berson ymosodol, yr ewch yn fwy ymosodol. Tydw i ddim yn disgwyl i nain sydd wedi cael gwydriad o w
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Sad 03 Rhag 2005 12:47 pm

whiw. . . odd hwnan ymateb hir. . . rhy hir i fi foddran i ddarllan. . .dydi traethu ddim yn gweithio i bawb li. . .

gai anghytuno fo TapS fyd nath ddeud ar ddechrau'r seiad fod hi'n haws cal brec o faes-e a dod nol a theimlo'n well. . . pan dwi heb fod ma ers oeosoedd ma na gymaint n negeseuon, edyfynau, seiadau ne beth bynnag newydd dwi'm yn gwbo lle i ddechra. . . y ffor ma'n gweithio i fi ydy checkio'n rheolaidd a cymryd amser i chwilio am y sgyrsia diddorol dwi isho bod yn rhan ohonyn nhw!!!! (whiw. . . ymddiheuradau ath hwn yn draethiad bach)

. . .a Fflamingo Gwyrdd. . . o'n i'n meddwl ma dyna odd y blwch tywod yn da beth bynnag (er bo fi'n gweld petha weithia dwi'n meddwl dylai fod mewn seiadau eraill. . . o bosib. . . ) :?
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Postiogan Al » Sad 03 Rhag 2005 12:52 pm

huwwaters a ddywedodd:Rhaid i mi gyfaddef, yr oedd Dr. Gwion Larsen yn annoying ar y cychwyn, ond mi galliodd. Gyda Al, nes i ffindio fo'n ymddwyn yn annoying i gychwyn efo, a'r ffaith nath o fy critisisio fi am cynnig chwarae i t
Al
 

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 03 Rhag 2005 12:59 pm

Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:. . .a Fflamingo Gwyrdd. . . o'n i'n meddwl ma dyna odd y blwch tywod yn da beth bynnag (er bo fi'n gweld petha weithia dwi'n meddwl dylai fod mewn seiadau eraill. . . o bosib. . . ) :?


Ti 'di camddeall. Be' o'n i'n awgrymu oedd fod sylwadau bach sm
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Huw Psych » Sad 03 Rhag 2005 2:01 pm

Ma tryth huwwaters werth ei ddarllan, mae o'n dod o'r galon. Dwi'n edmygu hynna, dim llawar o bobl fysa'n neud hyna dan eu henwa iawn ar wefan cyhoeddus! Fy nhro i ydi o rwan...

Ma'n rhaid i fi ymddiheuro yn fama am y tywod dwi di bod yn ei gario efo fi tu-allan i'r blwch :wps: Ma hi'n wir ddrwg gen i, ond person fel 'na ydw i! Dwi'n trio cymryd bywyd o ddifri, ond mi fydda i'n gweld agwedda comedi/dwl ymhob agwedd ohono!!

Ma'r edefyn yma wedi troi i fod yn edefyn aeddfed iawn, a dwi am unwaith, yn mwynhau cyfranu yn aeddfed a chall heb gario unrhyw dywod efo fi! Mae o di gneud i fi sylweddoli bod mwy i fywyd na 'dwli'!!

Er nad ydw i di bod ar y maes yn hir iawn, dwi di sylwi fod na bobl ddylia fod yn cyfrannu'n ddwys wedi troi at godi cestyll tywod yn y blwch bondigrybwyll!
Ma na ddigon o edefynna diddorol o gwmpas y maes 'ma. Diffyg pobl aeddfed/difrifol sy' na i'w trafod nw!
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Rhodri Nwdls » Sad 03 Rhag 2005 3:04 pm

Geraint a ddywedodd:Mae o fyny i ni i greu edefynnau newydd diddorol.
Sna'm pwynt cwyno os nad ydi pobol am wneud hyn. Y ffordd o gael y maes yn fwy diddorol i ti yn bersonol h.y. pawb, ydi cychwyn edefyn difyr a chael pobol yn ymateb iddo. Na ti, mor syml a hynna. Fyddi di'n cymryd diddordeb ac fydd yn annog pobol i gychwyn edefynnau tebyg.

Dwi yn teimlo bo fi'n iwsio'r shite-filter bach mwy aml dyddia ma oherwydd cynifer o negeseuon sgyrsio di-bwynt sydd yma ac wedi amddifadu'r adran wleidyddiaeth ers blynyddoedd oherwydd dadleuon cachu rhwng cwpwl o bobol sy'n nabod eu gilydd (a gyda llaw dwi dal ddim yn gwybod pwy ydy eu hannar nhw, er bod na deimlad yno fod rywsut y dyliech chi), ond mae trafodaeth be da chi'n gneud ohono.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan HBK25 » Sad 03 Rhag 2005 3:39 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
HBK25 a ddywedodd:Sori, ydi'r Maes yn cael ei ddinistrio? Wnes i ddim sylwi i ddweud y gwir :rolio:


"HBK25
Ymunwyd: 18 Ebr 2005
Negeseuon: 616"

:D ag ystyried yr uchod mar sylwad yna fel rhywyn o Gasnewydd yn dweud "Be mar iaith Gymraeg yn marw?" gwyn dy fyd.


'Dwi'n gwybod mai dim ond Johnny Come Lately (neu Early, fel mae rhai merched yn honni), ond dwi wedi mwynhau fy nghyfnod byr ar y Maes. Ok, weithiau 'does dim llawer o drafodaeth, ond mae pob wefan fel hyn yn cael cyfnodau tawel.

Yn lle cwyno, meddyliwch am rywbeth diddorol i'w trafod. :drwg: :x
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan gronw » Sul 04 Rhag 2005 2:34 am

[dilewyd malu awyr meddw]
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Cymro13 » Sul 04 Rhag 2005 3:09 am

[wedi dileu oherwydd ffrind meddw a dwl di sgwennu fe]
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Iesu Nicky Grist » Sul 04 Rhag 2005 2:56 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ond drych isod - does dim dadl fanna? Jesy rhagfarn a cheap shot.


Cer nol a darllen n neges i. Stopa bod mor paranoid. Dyw mo'r byd yn amgylchynu ti. Do's na'm dadl, just pure genius wrth waith. Es i i'r capel heddi am y tro cynta' ers blynyddoedd, a duw, o'dd hi'n bregeth wael. Swno'n debyg i un o'n rants i. Shwt ma honni bo ni'n fodern? ayb. Nice. 8) Ond beth darodd fi, o'dd yr ailadrodd di-bwynt o'dd yn fantra weddol swynol - bron yn Islamaidd. Jiw fi'n colli capel.


A Jesus fi'n genius!

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dyna sydd wedi dinistrio y maes.


Ai.

RIP ING
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai