Gaf i ofyn cymwynas?
Dim ond un rheol sydd ar Maes E - paid ag ymosod yn bersonol ar ddefnyddwyr eraill. Os wyt ti'n meddwl bod rhywun wedi croesi'r llinell, rho gair i mi, naill ai gan hala neges breifat neu trwy <a href="mailto:nic@maesymorfa.com">fy ebostio</a> a bydda i sorto pethau mas.
Does dim rheol yn erbyn dweud pethau sy'n amhoblogaidd. Os dwyt ti ddim yn cytuno â rhywbeth mae dewis 'da ti: dadlau dy bwynt neu anwybyddu'r postwr. Paid â clytran yr edefyn lan gyda cwyniadau am bersonoliaeth y postwr, achos bydda i'n eu dileu. Mae hyn yn cynnwys negeseuon sy'n gofyn i bawb arall i anwybyddu sylwadau defnyddiwr wyt ti ddim yn cytuno â fe - os dwyt ti ddim yn lico person, wnei di plîs dilyn dy gyngor dy hunan cyn i ti deipo fe.
Mae hyn yn dod i fyny o leia unwaith yr wythnos ac mae'n <b>ffycin boring</b>.
Lwcus eich bod chio i gyd mor bert, neu fyddwn i wedi rhoi gorau i'r peth wythnos diwetha.