Tudalen 1 o 1

Cwyno am ddefnyddwyr

PostioPostiwyd: Maw 29 Hyd 2002 5:41 pm
gan nicdafis
Gaf i ofyn cymwynas?

Dim ond un rheol sydd ar Maes E - paid ag ymosod yn bersonol ar ddefnyddwyr eraill. Os wyt ti'n meddwl bod rhywun wedi croesi'r llinell, rho gair i mi, naill ai gan hala neges breifat neu trwy <a href="mailto:nic@maesymorfa.com">fy ebostio</a> a bydda i sorto pethau mas.

Does dim rheol yn erbyn dweud pethau sy'n amhoblogaidd. Os dwyt ti ddim yn cytuno â rhywbeth mae dewis 'da ti: dadlau dy bwynt neu anwybyddu'r postwr. Paid â clytran yr edefyn lan gyda cwyniadau am bersonoliaeth y postwr, achos bydda i'n eu dileu. Mae hyn yn cynnwys negeseuon sy'n gofyn i bawb arall i anwybyddu sylwadau defnyddiwr wyt ti ddim yn cytuno â fe - os dwyt ti ddim yn lico person, wnei di plîs dilyn dy gyngor dy hunan cyn i ti deipo fe.

Mae hyn yn dod i fyny o leia unwaith yr wythnos ac mae'n <b>ffycin boring</b>.

Lwcus eich bod chio i gyd mor bert, neu fyddwn i wedi rhoi gorau i'r peth wythnos diwetha.

PostioPostiwyd: Maw 29 Hyd 2002 6:32 pm
gan huwwaters
Mae hyn yn dod i fyny o leia unwaith yr wythnos ac mae'n ffycin boring.


Am iaith! A pelntyn fel fy hun wedi ei glywed.

Diar mi!

PostioPostiwyd: Maw 29 Hyd 2002 9:51 pm
gan Mihangel Macintosh
huwwaters a ddywedodd:
Mae hyn yn dod i fyny o leia unwaith yr wythnos ac mae'n ffycin boring.


Am iaith! A pelntyn fel fy hun wedi ei glywed.

Diar mi!


Huw, os fase ni'n tu, fase ni'n cwyno i Nic am hwn. Dos dim cwrteisi na manners gyda'r bobl ddieflig anwaraidd sy'n defnyddio'r negesfwrdd hyn. :winc:

PostioPostiwyd: Maw 29 Hyd 2002 10:41 pm
gan huwwaters
huwwaters :
Dyfyniad:
Mae hyn yn dod i fyny o leia unwaith yr wythnos ac mae'n ffycin boring.


Am iaith! A pelntyn fel fy hun wedi ei glywed.

Diar mi!


Huw, os fase ni'n tu, fase ni'n cwyno i Nic am hwn. Dos dim cwrteisi na manners gyda'r bobl ddieflig anwaraidd sy'n defnyddio'r negesfwrdd hyn.


Ie! Siwr bod o di cael yr fath iaith yna o Radio Amgen, yr un sy'n llawn rhegi a'r un un mae'r Mihangel Macintosh yn cyfrannu a...... o. :(

PostioPostiwyd: Mer 30 Hyd 2002 6:36 pm
gan Mihangel Macintosh
Well i ti beidio mynd fan hyn 'de Huw.