Tudalen 1 o 5

Addurno logo Maes-E

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 8:21 pm
gan sion_llanclan
Ar y funud, mae logo Maes-E yn ddiflas. Beth mae logo Maes-E angen ar y funud yw addurniadau. Efallai, pam mae Nadolig yn cyrraedd dylai bos Maes-E rhoi eira neu dipyn bach o tinsel. Pam daw'r Pasg rhoi cywion bach ar top yr logo. Os ydi rhywun enwog wedi marw, e.e George Best, dylech rhoi llun ef neu hi ar ochor yr logo. Dim ond syniadau yw rhain, ond os oes gennych mwy... plis postiwch nhw ar yr edefyn yma. Ydi hwn yn syniad da neu drwg?

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 8:23 pm
gan Cymro Sinistr
Aeth yr Maes yn eitha nadoligaidd blwyddyn dwytha, ond ddigwyddodd hyn tua haner ffordd drwy'r mis os dwi'n cofio'n iawn.

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 8:30 pm
gan sion_llanclan
Cymro Sinistr a ddywedodd:Aeth yr Maes yn eitha nadoligaidd blwyddyn dwytha, ond ddigwyddodd hyn tua haner ffordd drwy'r mis os dwi'n cofio'n iawn.

Sut? Scrooge ydi Maes-E yn fy marn i. Bah, humbug!

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 8:52 pm
gan Macsen
Bydd Nic yn newid i'r patrymlun nadolig cyn hir dwi'n siwr.

Delwedd

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 8:59 pm
gan sion_llanclan
Hwre! Ond, dylsai Nic addurno'r logo trwy'r flwyddyn! ydych chi'n cytuno?

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 9:24 pm
gan Dewi- Wir Frenin Cymru
na- paid malu cachu sion

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 10:27 pm
gan Manon
'Dwi'n licio'r logo'n neis ac yn syml. Minimal ynde. Dim lol.

(Ac os ydi o'n mynd i newid dros 'Dolig diolch yn fawr i Nic am beidio ei wneud o'n wirion o fuan a'n panicio ni i gyd.) :winc:

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 10:31 pm
gan Wierdo
cytuno. Iawn newid o i dolig ond man iawn fel mae o fel arall...swnin dychryn os fysa fo'n newid!!!

PostioPostiwyd: Sul 11 Rhag 2005 12:16 am
gan Tegwared ap Seion
sion_llanclan a ddywedodd:Hwre! Ond, dylsai Nic addurno'r logo trwy'r flwyddyn! ydych chi'n cytuno?


Na, ddim o gwbwl. Mae'n neis iawn gweld logo "gwahanol" ambell ddwrnod, rhoi gwen i'r wyneb bron. Ond petai'r logo yn wahanol yn ddyddiol/wythnosol, buan y byddwn yn laru ar y newid. Mae Google yn dda yn hyn o beth, bob yn hyn a hyn bydd eu logo yn cyfleu diwrnod arbennig neu adeg arbennig. Dim ond newid y logo am ddwrnod yma ag acw, sy'n tynnu sylw ac yn tynnu sylw at y diwrnod arbennig hwnnw.


O.N. dwi'm yn deall sut mae pawb yn cysylltu'r Nadolig

PostioPostiwyd: Sul 11 Rhag 2005 3:27 am
gan huwwaters
Tegwared ap Seion a ddywedodd:O.N. dwi'm yn deall sut mae pawb yn cysylltu'r Nadolig