'Dwi'n siwr bod hwn wedi'i drafod yn rhywle arall ar y maes. Ymddiheuriadau os 'di hynna'n wir.
Y rhai ohonoch sydd a enw ffug ar maes-e, ydych chi'n teimlo bod o'n haws mynegi barn yn onest gan bod neb yn gwybod pwy 'da chi? Rydw i wedi defnyddio fy enw iawn ond yn cysidro cau'r cyfrif yma a dechra' un newydd sbon o dan ffugenw. 'Dwi wrth fy modd efo'r syniad o "beidio barnu na chystadlu", ond ydi hyn yn anodd i'w gyflawni heb guddiad tu ol i ffugenw?