ffugenw vs. enw iawn

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan HBK25 » Llun 12 Rhag 2005 4:14 pm

Diolch am bwyntio hynna allan ifi. :rolio: :winc: Dwi'n mynd braidd yn anghofys - yn bennaf oherwydd fy mod i wedi blocio allan 95% o'r 7 mlynedd diwethaf o fy mywyd :crechwen: :rolio:

Ond eto, mae fy marn am bethau yr un peth ar y Maes ag ydi o ym mywyd "go iawn".
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Mr Gasyth » Llun 12 Rhag 2005 4:16 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi di deud droeon mae wimps di pobl sy'n sgwennu dan ffug enw. Os ti'n deud rhwbeth rhaid chdi sticio dros be ti'n ddeud yn y byd go iawn... neu ymddiheurio.

Mewn dadl hefyd dwi'n meddwl fod gan bobl sy'n defnyddio eu henwau go-iawn yr moral high ground.


Lol botes maip. Iawn i sdiwdant deud hynne ond dio'm cweit mor syml os ti efo job ac angen rhyw fath o gyfrinachedd i guddio'r ffaith dy fod yn cyfrannu ar y we. Tydw i ddim yn cuddio pwy ydw i ar y maes rhag pobl dwi'n nabod a gallai unrhywun sydd wir isho ganfod pwy ydw i go iawn gyag ychydig o waith ditectif a gwglo. Fuasai gen i ddim chwaith ofn amddiffyn fy safbwyntiau yn y cig-fyd, a dwi wedi gwneud droeon.

Hefyd, tydi Cymru ddim eto mor fach nes bod pawb yn nabod pawb. petaswn wedi cofrestru dan fy enw go iawn dim ond cyfran fechan o ddefnyddwyr fuase efo mwy o syniad pwy ydw i na sydd pan dwi'n defnyddio ffugenw.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Mali » Llun 12 Rhag 2005 5:22 pm

Manon a ddywedodd:
O'n i wastad yn meddwl mai Mali oedd dy enw iawn!


Na , enw'r gath ydi Mali .......ac os ei di i'r dudalen flickr isod , fe weli di lun ohoni .
Dewis personol ydi cael ffug enw neu defnyddio enw iawn , a gyda phob parch i ti Rhys, tydi'r ffaith fod rhywun yn sgwennu o dan ffug enw ddim yn golygu na fuasai'r person yma yn ymddiheuro nac yn 'sticio dros be mae'n ddeud yn y byd go iawn'.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 12 Rhag 2005 5:33 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi di deud droeon mae wimps di pobl sy'n sgwennu dan ffug enw. Os ti'n deud rhwbeth rhaid chdi sticio dros be ti'n ddeud yn y byd go iawn... neu ymddiheurio.

Mewn dadl hefyd dwi'n meddwl fod gan bobl sy'n defnyddio eu henwau go-iawn yr moral high ground.


Lol botes maip. Iawn i sdiwdant deud hynne ond dio'm cweit mor syml os ti efo job ac angen rhyw fath o gyfrinachedd i guddio'r ffaith dy fod yn cyfrannu ar y we.


Dwi'n dallt hynny - ma gin ti reswm teg, ac fel ti di nodi dwyt ti ddim yn cal enw ffug i guddio ac i ddeud pethe cachlyd. Mi wyt ti a sawl un arall yn eithriad.

Be dwi ddim yn cytuno efo ydy pobl sydd ac enwau ffug jest er mwyn deud pethau sgena nhw ddim gyts dweud yn y byd go iawn.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Dai dom da » Llun 12 Rhag 2005 5:37 pm

Aye, cytuno da Rhys. Er bod gen i ffug enw, dwi ddim yn cuddio. Mae'n neud fin grac pan ma pobol y cuddio tu nol ffug enw ac yn bitchan bant, ac sdym clem da neb pwy i nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan Mr Gasyth » Llun 12 Rhag 2005 7:41 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n dallt hynny - ma gin ti reswm teg, ac fel ti di nodi dwyt ti ddim yn cal enw ffug i guddio ac i ddeud pethe cachlyd. Mi wyt ti a sawl un arall yn eithriad.


Ella base hi'n well i ti felly osgoi gwneud sweeping generalisations na fedri di hyd yn oed eu hamddiffyn ar y maes, heb son am yn y cigfyd :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Manon » Llun 12 Rhag 2005 9:23 pm

Mali a ddywedodd: enw'r gath ydi Mali .......ac os ei di i'r dudalen flickr isod , fe weli di lun ohoni .


wAAAAAW, ma' dy lunia' di'n amazing, yn arbennig yr un o noson braf yn comox...
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 12 Rhag 2005 11:05 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Lol botes maip. Iawn i sdiwdant deud hynne ond dio'm cweit mor syml os ti efo job ac angen rhyw fath o gyfrinachedd i guddio'r ffaith dy fod yn cyfrannu ar y we.


Yup yup a yup eto. Ar hyn o bryd 'di'r joban ddim yn gwneud llawer o wahaniaeth i fy nghyfraniadau (na vice versa), ond mi oedd cyn fis Awst diwetha, ac mae'n debygol o fod o fis Awst nesa. Felly mae'n saffach defnyddio ffugenw.

A fel 'dwi'di deud yn barod, dydi hynny ddim o angenrheidrwydd yn golygu nad ydw i isho i Faeswyr wybod pwy ydwi (a bod yn onest, 'dwi ddim wedi cuddio fy hun rhyw lawer), ond yn hytrach, dwi ddim isho i ddefnyddwyr eraill fy gwglo i, a chael eu harwain at y maes, a darllen fy nghyfraniadau.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan gronw » Llun 12 Rhag 2005 11:26 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:A fel 'dwi'di deud yn barod, dydi hynny ddim o angenrheidrwydd yn golygu nad ydw i isho i Faeswyr wybod pwy ydwi (a bod yn onest, 'dwi ddim wedi cuddio fy hun rhyw lawer), ond yn hytrach, dwi ddim isho i ddefnyddwyr eraill fy gwglo i, a chael eu harwain at y maes, a darllen fy nghyfraniadau.

hollol, mae'n safbwynt i'n eitha tebyg i fflamingo. dyw hi ddim yn ddiwedd y byd os oes rhywun yn gwbod pwy ydw i, ond ar y llaw arall, pan ti'n sgwennu ar maes e, ti'n dweud wrth y byd, a falle nad wyt ti ishe i dy nain/dy gyn-gariad/dy fos/pawb arall i weld am byth be ddwedest ti rwbryd am rwbeth. er mai myfyriwr o'n i pan ymunes i dan yr enw yma, erbyn hyn mae gen i swydd, ac er mai pur anaml dwi'n dod i'r maes pan dwi yn gwaith, fyswn i methu gwneud un cyfraniad dan fy enw iawn, neu bydde fy mos i'n mynd trwy'r to (a bydde llanast).

dwi ddim yn teimlo bod sgwennu dan ffugenw yn rhoi rhyddid i fi ddweud beth bynnag dwi ishe am unrhyw un, dwi'n dal yn sgwennu be dwi'n feddwl go iawn. dwi'n meddwl bod pobl yn gallu bod llawn mor flippant dan eu henwau eu hunain, ond mae pawb yn newid eu meddwl o dro i dro wrth gwrs. byswn i'n barod heddiw i ddadle dros yr un peth a sgwennes i heddiw ar y maes yn y byd go iawn, wrth gwrs, mewn sgwrs efo pobl. ond nid i'w ddatgan ar goedd i gymru gyfan o reidrwydd. pwynt arall ydy bod dweud rhwbeth ar maes-e yn ymarferol yn llawer mwy parhaol na sgwennu llythyr i golwg neu ddweud rhwbeth mewn vox pop ar hacio, achos gall unrhyw un ei ddarllen unrhyw bryd, trwy chwilio amdano neu hyd yn oed trwy gwglo. cofiwch hynny! hyd yn oed ar ol i chi farw :D
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan krustysnaks » Llun 12 Rhag 2005 11:48 pm

Mali a ddywedodd:Na , enw'r gath ydi Mali .......ac os ei di i'r dudalen flickr isod , fe weli di lun ohoni .


Ro'n i di anghofio hyn, sy'n profi fy mhwynt i - mae enw pawb yn ffug ar y maes, boed yn 'Mali' neu yn 'Rhys Llwyd'.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai