Diolch am bwyntio hynna allan ifi. Dwi'n mynd braidd yn anghofys - yn bennaf oherwydd fy mod i wedi blocio allan 95% o'r 7 mlynedd diwethaf o fy mywyd
Ond eto, mae fy marn am bethau yr un peth ar y Maes ag ydi o ym mywyd "go iawn".
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi di deud droeon mae wimps di pobl sy'n sgwennu dan ffug enw. Os ti'n deud rhwbeth rhaid chdi sticio dros be ti'n ddeud yn y byd go iawn... neu ymddiheurio.
Mewn dadl hefyd dwi'n meddwl fod gan bobl sy'n defnyddio eu henwau go-iawn yr moral high ground.
Manon a ddywedodd:
O'n i wastad yn meddwl mai Mali oedd dy enw iawn!
Mr Gasyth a ddywedodd:Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi di deud droeon mae wimps di pobl sy'n sgwennu dan ffug enw. Os ti'n deud rhwbeth rhaid chdi sticio dros be ti'n ddeud yn y byd go iawn... neu ymddiheurio.
Mewn dadl hefyd dwi'n meddwl fod gan bobl sy'n defnyddio eu henwau go-iawn yr moral high ground.
Lol botes maip. Iawn i sdiwdant deud hynne ond dio'm cweit mor syml os ti efo job ac angen rhyw fath o gyfrinachedd i guddio'r ffaith dy fod yn cyfrannu ar y we.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n dallt hynny - ma gin ti reswm teg, ac fel ti di nodi dwyt ti ddim yn cal enw ffug i guddio ac i ddeud pethe cachlyd. Mi wyt ti a sawl un arall yn eithriad.
Mali a ddywedodd: enw'r gath ydi Mali .......ac os ei di i'r dudalen flickr isod , fe weli di lun ohoni .
Mr Gasyth a ddywedodd:Lol botes maip. Iawn i sdiwdant deud hynne ond dio'm cweit mor syml os ti efo job ac angen rhyw fath o gyfrinachedd i guddio'r ffaith dy fod yn cyfrannu ar y we.
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:A fel 'dwi'di deud yn barod, dydi hynny ddim o angenrheidrwydd yn golygu nad ydw i isho i Faeswyr wybod pwy ydwi (a bod yn onest, 'dwi ddim wedi cuddio fy hun rhyw lawer), ond yn hytrach, dwi ddim isho i ddefnyddwyr eraill fy gwglo i, a chael eu harwain at y maes, a darllen fy nghyfraniadau.
Mali a ddywedodd:Na , enw'r gath ydi Mali .......ac os ei di i'r dudalen flickr isod , fe weli di lun ohoni .
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai