Arddull newydd: 'Ble mae'r dyfyniadau?'

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Arddull newydd: 'Ble mae'r dyfyniadau?'

Postiogan nicdafis » Gwe 06 Ion 2006 12:40 pm

(Neb wedi sylwi eto?)

Mae blwch y dyfyniadau wedi'i symud, i wneud lle i'r hysbyseb mawr cariadus 'na. Am nawr, dw i ddim am ei gynnwys ar bob tudalen unigol (fel yr un ti'n darllen nawr), er ei fod dal ar y <a href="http://maes-e.com/index.php">hafan dalen</a> a phob <a href="http://maes-e.com/viewforum.php?f=4">hafan seiat</a>.

Dau reswm am beidio cael dyfyniad ar frig bob edefyn:

1. Mae'n cymryd gormod o le.

2. Mae cynnwys y dyfyniadau yn gallu anghydfynd gyda cynnwys yr edefyn. Yn ei leoliad newydd, fyddai hyn yn fwy amlwg byth.

Syniad arall sy ar y gweill yw cael rhywbeth gwahanol ar hafan y seiadau, sef cyflwyniad i gynnwys y seiat. Mae'n broblem tragwyddol ar y maes bod pobl ddim yn gweld bod gwahaniaeth yn naws y seiadau cerddorol (er enghraifft) a'r rhai gwleidyddol (ditto).

Diawl, dyn ni'n llawn syniadau ar hyn o bryd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron