Gyda'r nifer o bobl newydd yn ymaelodi, a'r nifer helaeth o bobl sy'n aelodau'n barod yn defnyddio'r maes, ydy hi werth cynyddo'r nifer o gylchoedd i gynnwys nifer o'r rhai sy'n agored i bawb yn awtomatig?
'Se ni'n dweud ei fod hi, ac mae gen i ddwy rheswm:
1. Cadw aelodau newydd y maes rhag ymaelodi 'mond er mwyn siarad rubbish/ymosod/enllibo mewn lot o seiatau lle nag yw eu sylwadau yn cael ei gwerthfawrogi (ac sy'n rhoi llawer mwy o waith i'r cymedrolwyr gorfod symud edefynnau/banio aelodau ac egluro pam)
2. Er mwy i'r aelodau ddewis a dethol y pynciau (h.y. cylchoedd) y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt? (mi wnes i son am hyn or blaen, a dywedodd nic fod rhywbeth fel hyn yn mynd i ymddangos mewn fersiwn newydd o phpBB. Dwi'n credu mai dros blwyddyn yn ol i mi drafod hwn).
Meddyliwch am y manteision... o be wela i, mae llawer mwy ohonynt nag sydd o anfanteision.
O.N. Dwi'n sylwi petai fy awgrym yn digwydd y byddai cymedrolwyr yn mynd bach yn pissedoff gyda'r nifer o bobl sydd yn gofyn i ymuno, ond dwi'n siwr y byddai'n arbed gwaith i'r cymedrolwyr ar