gan Nedw » Mer 08 Maw 2006 11:47 am
ers cwpwl o fisodd wan, ma bron bob Cymro/Cymraes dwi'n i nabod wedi bod yn ymuno mewn rhesi. dwi di bwriadu ymuno ers misodd ond nesh i ddim dod rownd i neud tan wythnos dwythaf a dwi'n barod yn difaru na fues i'n aelod ers blynyddoedd.
Mi on i'n sylwi wrth ddarllan rhai o'r pytia eraill mai ar lafar, trwy ffrindiau, ma'r rhanfwyaf o bobl wedi dod i wybod am y maes - ydi'r safle'n cael ei hysbysebu'n rwla? Oni ddylai bod hysbysebion mewn cylchgronna Cymraeg a rwbath yn cael ei neud i'w hybu mewn achlysuron fel y 'Steddfod ayyb