Fel macsen yn steddfod ddaru mi glywed am y lle.. ac felly bues i yn chwilio maes e yno - am ryfedd - o nin diswgl rhywbeth tebyg i maes b ond i bobl dros 30 - ar ol mynd adre dyma roi maes-e yn gwgl felly dyma fi
Oni'n y coleg efo Lisa Pedrick - y lodes di bod yn cel trafferth yma wedi Wawffactor... Ffansi gweld pa mor filain oedd y bobl 'ma - a dwidi darganfod bod pawb reit sg
Taro fewn iddo fo tra'n gwglo rhyw ddydd. Does gennai ddim ffrindia 'go iawn' erbyn hyn a dwi heb agor y cyrtans ers misoedd. Mae gennai locsyn mawr gwyn at fy motwm bol ac mae gwinedd fy nhraed yn hir ac yn felyn. Mae maes-e wedi dryllio fy mywyd.
wel, edrych am rhyw fath o nodiadau ar y gerdd 'Far Rockaway' gan Iwan Llywd ar google wrth adolygu i'r arholiad Cymraeg, ar peth gynta sy'n dod fynnu...maes-e! rhwfedd iawn de...