Pleidiau gwleidyddol sy'n hysbysebu ar y maes

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pleidiau gwleidyddol sy'n hysbysebu ar y maes

Postiogan nicdafis » Gwe 31 Maw 2006 10:11 am

Mae hyn wedi dod lan mewn trafodaeth rhywle yn seiat Materion Cymru: ydy hi'n iawn i dderbyn hysbysebion pleidiau gwleidyddol ar wefan fel maes-e?

Dim ond Plaid Cymru sy wedi boddran hyd yn hyn, wrth gwrs.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Llefenni » Gwe 31 Maw 2006 10:54 am

Dwni'm yn siwr Nic, mae'n dibynnu os yw'r hysbysebiadau yn debygol o fynd lawr y 'route' Americanaidd o slagio'r part
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 31 Maw 2006 11:14 am

Os ydy cost yr hysbysebion yn cyfrannu at barhad y Maes diolch amdanynt.

Cyn belled a bod cyfle cyfartal i'r pleidiau eraill hysbysebu, os dymunent wneud hynny, rwy'n methu gweld dim o'i le. (Oni bai, wrth gwrs dy fod wedi cael addewid o sedd yn Nhŷ
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Tegwared ap Seion » Gwe 31 Maw 2006 11:43 am

:lol:

Gywch, Rech! Hefyd yn cytuno. Dwi'n gwybod bod mwy o "beth" am bleidiau gwleidyddol, ond gellir dweud yr un peth am glybiau nos (clwb Ifor) ac ati.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 31 Maw 2006 11:55 am

Welai ddim problem efo'r peth o gwbl, cyn belled a'i fod yn agored i unrhyw blaid sy'n dewis gwneud (ag eithrio'r BNP a'u tebyg wrth gwrs).

Unrhywbeth sy'n cyfrannu atbarhad y maes yn beth da tydi.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pleidiau gwleidyddol sy'n hysbysebu ar y maes

Postiogan Dewi Lodge » Gwe 31 Maw 2006 11:55 am

nicdafis a ddywedodd:Mae hyn wedi dod lan mewn trafodaeth rhywle yn seiat Materion Cymru: ydy hi'n iawn i dderbyn hysbysebion pleidiau gwleidyddol ar wefan fel maes-e?

Dim ond Plaid Cymru sy wedi boddran hyd yn hyn, wrth gwrs.


Dwi'm yn gweld problem mewn egwyddor i ganiatau hyn yn enwedig gan y byddant yn cyfranu'n ariannol i'r maes, a hefyd, wrth gwrs, fasa rhaid i'r hysbysebion a gynnigiwyd fod yn y Gymraeg.

Ond y cwestiwn mawr ydi pa bleidiau fasa'n cael gwneud. Dim problem efo 4 prif blaid yng Nghymru. Ond y rhai ymylol? UKIP? Dim problem. BNP? Delwedd hiliol ond maent yn honi nad ydynt yn hiliol ac yn cael cefnogaeth dychrynllyd o dda ambell dro ag yn ambell i le!!
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Postiogan sian » Gwe 31 Maw 2006 12:05 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd: (Oni bai, wrth gwrs dy fod wedi cael addewid o sedd yn Nh?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan garynysmon » Gwe 31 Maw 2006 12:08 pm

Efo Datblygu ffwl blast yn ei swyddfa yn nhy'r arglwyddi drwy'r dydd :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan docito » Gwe 31 Maw 2006 1:41 pm

Sori

Rhaid ma fi yw'r unig un sy'n gwrthwynebu fe. Dau rhewsm sydd gen i. Ma'r ddau yn hanner camddweud eu gilydd yn gobeithio bo' chi'n gweld fy mhwynt

1. Un o'r prif rhesymau yr wyf fi'n ffan o'r maes yw ei fod yn annog trafodaeth agored trwy gyfrwng y gymraeg. Yn y gorffennol o'n i'n hollol fed up o'r ffaith fy mod i fel cymro cymraeg yn cael fy rhoi mewn bocs oedd yn golygu fy mod i'n cefnogi plaid cymru. Ma'r syniad yma - bod yn rhaid bod yn aelod o rhain os am wneud rhwbeth trwy'r gymraeg - yn ffaith sy'n rhoi llawer o bobl i ffwrdd o drafod trwy'r gymraeg. Pwrpas y maes yw annog trafodaeth. Ma unrhyw un sy'n gweld Plaid Cymru wedi plastero dros y dudalen adref yn cael ei droi i ffwrdd oherwydd ma'n ei gymryd yn ganiataol ma rhywbeth gwleidyddol yw'r maes. Ma'n amlwg bod hawl da pleidiau arall hysbysebu yn ogystal ond base'n i'n amau os y bydde'n nhw'n bothero!

2. Allwn i ddim meddwl am unrhywbeth gwaeth na hysbysebion o bob blaid dan haul yn ceisio tynnu sylw tra bo fi'n trafod!!

Ymddiheiriadau bod y pwyntiau braidd yn drwsgl ond rhaid cyfadde fy mod i'n ei ffeindio'n annodd i fynegi fy hun
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 01 Ebr 2006 12:46 am

Gwyro oddi ar y pwnc braidd, ond rwy'n methu gweld dim ar y Maes sy'n egluro sut i ymofyn hysbyseb.

Pe bawn am hysbysebu fy mhlaid newydd, fy musnes, fy nghlwb nos sut mae cael hysbys ar y Maes? Faint mae'n costio? ac ati!

Be am hysbyseb ar y Maes sy'n hysbysebu'r gallu i hysbysebu, gyda linc i be sydd ar gael i hysbysebwyr ac am ba bris?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron