Maes-e wedi wahardd yn CMD

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A ddylia Maes-e gael ei wahardd o CMD

Dylai
14
38%
Na Ddylai
23
62%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 37

Maes-e wedi wahardd yn CMD

Postiogan Ari Brenin Cymru » Mer 05 Ebr 2006 10:01 pm

Pan geisiais agor maes-e heddiw yn coleg roedd yn dweud fod y wefan wedi blocio. :crio: A ydych chi'n meddwl fod hyn yn anheg?

Mae gwyddbwyll.com wedi wahardd yn barod. Fedrai ddeall hynny achos gem ydio, ond gwahardd maes-e?
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Postiogan Ioan_Gwil » Mer 05 Ebr 2006 10:04 pm

dwin cytuno, mae'n gwyliydd fod coleg 'Cymraeg/dwyieithog' yn cloi safle sy'n trafod diwylliant Cymreig, mae'n shwr drwy edrych trwyr we fod llawer o fforymau saesneg ar gael heb eu blocio, felly pam cau'r maes?

twll tin dynas y llyfrgell! hi ai theclun blocio safleodd gwe!
John ddwynodd y beans
Rhithffurf defnyddiwr
Ioan_Gwil
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 689
Ymunwyd: Iau 06 Hyd 2005 8:49 pm
Lleoliad: Prentec, Port Madocks

Postiogan Geraint Edwards » Mer 05 Ebr 2006 10:09 pm

Efallai mai arwydd o boblogrwydd a chryfder Maes E yw'r ffaith iddo gael ei flocio gan awdurdodau'r coleg?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan dawncyfarwydd » Mer 05 Ebr 2006 10:18 pm

Mae o wedi'i wahardd o Ysgol Dre hefyd. Dwi'n gorfod gweithio mewn gwersi cyfrifiadur rwan :crio:

Gan fod 'na gyfwng oedran, mi fedra i ddallt ei wahardd o o 'rysgol, ond pam o'r coleg? Mi o'n i wedi cymryd y bysa'r awdurdodau yn fanno'n peidio cymryd eu tegana gan y disgyblion. Be ydi pwrpas ei wahardd o liciwn i wbod - pa ddrwg mae o'n ei wneud i neb? Be ydi o ond 'bach o hwyl? :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Maes-e wedi wahardd yn CMD

Postiogan Hen Rech Flin » Mer 05 Ebr 2006 11:56 pm

Ari Brenin Cymru a ddywedodd:Pan geisiais agor maes-e heddiw yn coleg roedd yn dweud fod y wefan wedi blocio. :crio: A ydych chi'n meddwl fod hyn yn anheg?

Mae gwyddbwyll.com wedi wahardd yn barod. Fedrai ddeall hynny achos gem ydio, ond gwahardd maes-e?


Yw am siom, roeddwn yn ceisio dyfalu'r cysylltiad rhwng y Maes a bar o siocled cyn agor yr edefyn hwn (sori CDM ydy'r siocled wedi meddwl).

Gorfod dyfalu rŵan be di CMD. Y coleg sydd ar safle ysgol Dr Williams a Llysfasi bellach?

Cyn bwrw pleidlais o blaid neu yn erbyn, da fydda wybod be oedd rhesymau'r awdurdodau dros wahardd Maes-e. Oes unrhyw un wedi gofyn iddynt?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Maes-e wedi wahardd yn CMD

Postiogan Sili » Iau 06 Ebr 2006 7:58 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Gorfod dyfalu rŵan be di CMD.


Coleg Meirion Dwyfor, coleg 6ed dosbarth Pwllheli.

Dwi'n cymryd mai'r rheswm dros wahardd y wefan ydi ei fod yn cael ei weld fel 'chat-room'? Mae'r heina'n cael eu gwahardd yn gyffredinnol mewn ysgolion beth bynnag erbyn hyn dydyn, iawn neu beidio.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan ceribethlem » Iau 06 Ebr 2006 12:55 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Mae o wedi'i wahardd o Ysgol Dre hefyd. Dwi'n gorfod gweithio mewn gwersi cyfrifiadur rwan :crio:
Hoelen -> Pen
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Ioan_Gwil » Iau 06 Ebr 2006 1:06 pm

na dyw heb gael ei wahardd am fod yn stafell sgwrsio, neu mi fyddai'r rheswm wedi dod fyny fel 'bannedsite:chat' ne rhywbeth

mae'n amlwg ei fod wedi ei flocio gan y coleg yn uniongyrchol a nid gan gyngor gwynedd oherwydd mae'n dweud 'Bannedsite:Maes-e' mae hyn yn golygu mai'r coleg sydd wedi ei flocio o'u gwirfodd
John ddwynodd y beans
Rhithffurf defnyddiwr
Ioan_Gwil
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 689
Ymunwyd: Iau 06 Hyd 2005 8:49 pm
Lleoliad: Prentec, Port Madocks

Postiogan Mr Gasyth » Iau 06 Ebr 2006 1:21 pm

Ioan_Gwil a ddywedodd:na dyw heb gael ei wahardd am fod yn stafell sgwrsio, neu mi fyddai'r rheswm wedi dod fyny fel 'bannedsite:chat' ne rhywbeth

mae'n amlwg ei fod wedi ei flocio gan y coleg yn uniongyrchol a nid gan gyngor gwynedd oherwydd mae'n dweud 'Bannedsite:Maes-e' mae hyn yn golygu mai'r coleg sydd wedi ei flocio o'u gwirfodd


Felly mae Coleg Meirion Dwyfor ac 'Ysgol Dre' yn disgwyl i'r plant wneud gwaith yn hyrach na gwastraffu amser yn sgwennu rybish ar Maes-e.... Alllai weld y penawdau rwan "GWYNEDD SCHOOLS IN MAKING KIDS WORK SCANDAL".
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 06 Ebr 2006 3:05 pm

Er tegwch, gwersi rhydd sgen i yn y lle cyfrifiaduron a dyna o'n i'n ei olygu efo 'gwersi cyfrifiaduron' - Tiwtorial a TGC Gwirfoddol! Ac ma'r rheini'n betha diflas iawn rwan :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai