Nicdafis a ddywedodd: alla i ddweud dw i ddim am dynnu pethau i ffwrdd o bobl sy ddim yn Gefnogwyr, ond i gynnig pethau ychwanegol i'r rhai sy am gefnogi'r fenter.
Dwi'n deall pam dy fod yn dweud hyn ac yn edmygu'r egwyddor, ond yn yu pen draw mae'n methu fel ffordd o sicrhau mwy o gyfrannwyr am yr union reswm y mae Macsen yn ei nodi:
Macsen a ddywedodd:Dim ond y negesfwrdd syml sydd ei angen
I ran fwyaf o bobl, cyn belled a'u bod yn cael y negesfwrdd am ddim maent yn hapus, a tydi eu cydwybod ddim yn ddigon o gymhelliant i gefnogi. Yn anffodus, tydw i ddim yn gweld cynnydd mawr yn y nifer o gefnogwyr os yw'r negesfwrdd syml yn parhau i fod ar gael, yn ei gyfanrwydd ac yn oes oesoedd, am ddim.