Brênstorm: beth hoffet ti weld ar y maes?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mr Gasyth » Llun 08 Mai 2006 4:22 pm

Nicdafis a ddywedodd: alla i ddweud dw i ddim am dynnu pethau i ffwrdd o bobl sy ddim yn Gefnogwyr, ond i gynnig pethau ychwanegol i'r rhai sy am gefnogi'r fenter.


Dwi'n deall pam dy fod yn dweud hyn ac yn edmygu'r egwyddor, ond yn yu pen draw mae'n methu fel ffordd o sicrhau mwy o gyfrannwyr am yr union reswm y mae Macsen yn ei nodi:

Macsen a ddywedodd:Dim ond y negesfwrdd syml sydd ei angen


I ran fwyaf o bobl, cyn belled a'u bod yn cael y negesfwrdd am ddim maent yn hapus, a tydi eu cydwybod ddim yn ddigon o gymhelliant i gefnogi. Yn anffodus, tydw i ddim yn gweld cynnydd mawr yn y nifer o gefnogwyr os yw'r negesfwrdd syml yn parhau i fod ar gael, yn ei gyfanrwydd ac yn oes oesoedd, am ddim.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Mali » Llun 08 Mai 2006 4:49 pm

nicdafis a ddywedodd:
Mali a ddywedodd:Wedi sgwennu i Morfablog bore 'ma Nic , ond mae'n ymddangos fod fy neges wedi mynd ar goll yn cyberspace . :( :?


Arna i oedd y bai am hynny, ond mae yna nawr.


Diolch Nic :)http://blogmali.blogspot.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Ari Brenin Cymru » Llun 08 Mai 2006 7:41 pm

Mali a ddywedodd:Wedi sylwi fod 'na lot o ymateb bositif i ambell gwis ar y maes. Beth am gael cystadleuaeth ar y maes bob yn hyn a hyn.
Dwn i ddim sut fasa hyn yn gweithio ...o ran gwobrau / gosod y gystadleuaeth / ayb .


Dwi'n meddwl fod hyn yn syniad reit dda Mali, buasain bosib wedyn rhoi eiconau neu ryw fedal ym mhroffil y person sy'n fuddugol yn cynnwys linc ir cwis mae'r unigolyn yna wedi ennill.
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Postiogan 7ennyn » Llun 08 Mai 2006 7:53 pm

Be am alluogi cefnogwyr i droi'r hysbysebion i ffwrdd - achos dwi ddim yn eu licio nhw (sori Nic!).
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan nicdafis » Llun 08 Mai 2006 8:36 pm

Na, mae hynny yn awgrym teg, ac un dw i wedi wneud o'r blaen. Mae ar y rhestr o bethau i edrych arnynt, ond doedd dim lot o ddiddordeb ar y pryd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan SbecsPeledrX » Llun 08 Mai 2006 10:41 pm

Mae cyfyngu ar y teclyn chwilio yn syniad gwael iawn yn fy marn i. Jest rhoi esgus i bobl agor mwy nac un edefyn ar yr un pwnc.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan SbecsPeledrX » Llun 08 Mai 2006 10:49 pm

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Wir, fi'n cytuno rhywfaint, ond y peth am ail agor y maes yw y broblim o blant dan un ar bumtheg yn ymuno, ma ishe rhyw ffordd o neud yn siwr ma nhwn digon hen.


Fatha cerdyn credyd?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Mabon.Llyr » Maw 09 Mai 2006 8:17 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Mae cyfyngu ar y teclyn chwilio yn syniad gwael iawn yn fy marn i. Jest rhoi esgus i bobl agor mwy nac un edefyn ar yr un pwnc.

Croesodd hynny fy meddwl i hefyd.

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Wir, fi'n cytuno rhywfaint, ond y peth am ail agor y maes yw y broblim o blant dan un ar bumtheg yn ymuno, ma ishe rhyw ffordd o neud yn siwr ma nhwn digon hen.

Dwi ddim yn hoffi'r syniad o atal 'plant' rhag ymuno.
Dylai fod gan unrhywun yr hawl i bostio neges. Os yw'r neges yn un ddiwerth mi geiff y person yna garma coch, dyna pwrpas y system.
Rhithffurf defnyddiwr
Mabon.Llyr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Maw 02 Tach 2004 5:32 pm

Postiogan caws_llyffant » Gwe 12 Mai 2006 8:15 pm

" Be hoffet ti weld ar y maes" ?

Dwi wedi dileu fy neges . Syniad gwirion , syniad amhosib .
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "
caws_llyffant
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 357
Ymunwyd: Iau 17 Tach 2005 2:44 pm
Lleoliad: ar y ffordd i'r trofannau

Postiogan caws_llyffant » Mer 31 Mai 2006 5:52 pm

... ond dyma syniad arall : swn i'n licio gweld ' ladies' corner ' ar y maes-e . Pam ? I siarad am feichiogrwydd a anti-wrinkle creams er enghraifft .

Pam ddim ? Mae'r maes-e yn ry unisex o lawer .
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "
caws_llyffant
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 357
Ymunwyd: Iau 17 Tach 2005 2:44 pm
Lleoliad: ar y ffordd i'r trofannau

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai