Tudalen 1 o 1

Adio Image Shack ar dudalen 'Postio Ymateb' ?

PostioPostiwyd: Sad 09 Medi 2006 1:13 pm
gan Norman
Helo, mae fforwm php arall dwi arno wedi adio linc at 'Image Shack' ar bob tudalen 'postio ymateb' - sydd yn ei wneud yn hawdd iawn adio llun 'one off' i ddefnyddio yn y post. Ydi hi werth meddwl am wneud hyn ar y maes ?
Felma mae'n edrych . . .
Delwedd
imageshack.us

[toes ddim angen cofrestru na'm byd efo Image Shack]

Be ma bobl yn feddwl ?

PostioPostiwyd: Sad 09 Medi 2006 1:42 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Syniad da, ond ma lot ar y maes yn defynddio Flickr fel gwefan i bostio llunie.
Sai'n gwbl siwr, ond ydi Image Shack yr r'un peth a hynny?

PostioPostiwyd: Sad 09 Medi 2006 8:16 pm
gan nicdafis
Flin 'da fi, ond dw i ddim eisiau neud e yn rhy haws i bobl ychwanegu lluniau i'r maes. Bydd ai rhywbeth fel hyn yn iawn yn seiadau cerddoriaeth, er enghraifft, lle mae pobl eisiau postio lluniau o gigs ac yn y blaen, ond mae'n rhy debyg i gael ei abiwso mewn llefydd eraill.

PostioPostiwyd: Sad 07 Hyd 2006 9:37 am
gan Norman
digon teg!