Mwy o aelodau o Loegr

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mali » Maw 03 Hyd 2006 6:24 pm

Siawns fod gan y Cymry sy'n byw yn Lloegr mwy o gyfle i ymddiddori yn y pethau Cymreig nag sydd gan y Cymry sydd yn byw miloedd o filltiroedd i ffwrdd o Gymru . Digon hawdd fasa iddynt bicio dros y ffin i weld cyngerdd Cymraeg er engraifft. :winc: Ac fel dywedodd Huw, mae rhaglenni teledu Cymraeg ar gael iddynt yn barod.
Felly , be di'r holl ffys? :?
Os ydi Cymry Cymraeg sydd yn byw yn Lloegr isho ymuno â maes-e , mae ganddynt berffaith hawl i wneud.
Wedi'r cyfan , dewis yr unigolyn ydio os am ymuno â chymdeithas Gymraeg / cyfrannu at wefan Gymraeg ayb ayb. lle bynnag maent yn byw.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Golwg y diawl » Maw 03 Hyd 2006 9:12 pm

Ailadroddaf- ceir mwy o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr nac unrhyw wlad arall ar y blaned hon (ar ol Cymru fach). Elli di ddadlau y dylsai'r bobl yma wneud mwy o ymdrech eu hunain i ail-gysylltu gyda eu Cymreictod a bod croeso mawr iddynt bicio nol i Gymru unrhyw bryd. Ond awgrymaf nad yw magnet Cymru ddigon cryf ar hyn o bryd...
Swnio fatha bod gin ti gysylltiadau cryf gyda Radio Cymru S.W? Rydych yn dibynnu gormod ar Yr Athro Deian Hopkin am y "cyfraniad eangfrydig heb ffiniau" ar hyn o bryd- pwynt dilys yntydi? Wel, ella bod staff Radio Cymru yn trio eu gorau, ond rhaid i'r diwylliant yn gyffredinol agor allan a chryfhau'r magnet yma- sdim rhaid iddyn nhw bacio eu bagiau a heidio nol i Gymru- denu nhw i gyfrannu yn amlach a lluchio mwy o briciau tan ar fflam Cymreictod... Cwl Cymru.
Y syms plaen. Derbyn nhw a troi'r ystadegau yn rywbeth positif!
Mae Nic wedi son fod gan maes-e gryn ddylanwad-wel, dwi'n falch.
"Dyma ni ar drothwy'r datbygiad pwysicaf i'r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlau S4C. Mae'n rhaid i'r fenter lwyddo"- neges Huw Edwards o blaid Y Byd ( http://www.ybyd.com )
Rhithffurf defnyddiwr
Golwg y diawl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Gwe 22 Medi 2006 2:52 pm
Lleoliad: Yn Lleol

Postiogan Hen Rech Flin » Mer 04 Hyd 2006 3:25 am

Ai ddweud wyt ti fod yna nifer o Gymry Cymraeg yn Lloegr sydd wedi colli eu cysylltiad â Chymru a bod angen gwneud ymdrech i ail gydio eu diddordeb yn eu mamwlad?

Os wyt, mae'n rhaid imi gytuno a thi – i raddau.

Yn anffodus o ran brwydr ail gymreigio'r Cymry rhaid derbyn bod nifer o bobl sydd yn byw tu fewn i ffiniau Cymru wedi colli eu Cymreictod hefyd- pobl Siroedd y Fflint, Maesyfed, Trefaldwyn, Mynwy ac ysywaeth ambell i Gymro ym Meirion Arfon a Cheredigion ac ati hefyd. Mae'r frwydr i ail gysylltu y bobl yma a'u gwreiddiau yn bwysicach na'r ymdrech i ail gysylltu alltudion.

Yn sicr mae unrhyw beth ellir ei wneud i "ddangos gwerth Cymreictod" i'r sawl sydd wedi crwydro o'u gwreiddiau, boed yng Nghymru Lloegr neu Tseina, yn werthfawr. Ond mae disgwyl i'r Eisteddfod Genedlaethol i gyflawni'r fath swyddogaeth yn ffolineb.

Cefais fy ngeni yn yr Abermaw - ni fu'r Eisteddfod Genedlaethol erioed ar ymweliad a'r dref. Cefais fy magu yn Nolgellau, yr unig dro i'r Eisteddfod ymweld â'r dref oedd ym 1949. Bu'r Eisteddfod erioed yn Nhywyn, erioed yn Aberdyfi, erioed yn Harlech. A fu'r Genedlaethol yn Ffestiniog yn y 1880 au? – rwy'n ansicr.

Yn ddi os mae gorllewin Meirionnydd wedi bod yn anialwch Eisteddfodol ers dechrau'r Genedlaethol. Ond eto mae'r Gymraeg yn fyw yn yr ardaloedd hyn. Yn sicr bu'r eisteddfod allan o Gymry yn amlach nag a fu yng ngorllewin Meirionnydd.

Yr hyn sydd wedi cadw'r Gymraeg yn fyw ym Meirion yw cynnyrch lleol Y Sesiwn Fawr, Wa! Bala ac ati yn niweddar.

Os wyt am gynnal gŵyl i ddathlu Cymreictod Lerpwl, Manceinion, Coventry neu Birmingham, anghofia'r Eisteddfod - trefna gŵyl roc neu ŵyl werin Cymraeg, rhywbeth gellir ei gynnal yn flynyddol (os yn llwyddiannus) yn hytrach na rhygnu mlaen am Eisteddfod Genedlaethol sydd ddim ond yn ymweld ag unrhyw ardal unwaith yn y pedwar amser. (unwaith pob canrif a haner yn achos gorllewin Meirionnydd)
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Golwg y diawl » Mer 04 Hyd 2006 8:37 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Os wyt am gynnal gŵyl i ddathlu Cymreictod Lerpwl, Manceinion, Coventry neu Birmingham, anghofia'r Eisteddfod - trefna gŵyl roc neu ŵyl werin Cymraeg, rhywbeth gellir ei gynnal yn flynyddol (os yn llwyddiannus) yn hytrach na rhygnu mlaen am Eisteddfod Genedlaethol

Na. Byddai angen gwyl fawr-rhywbeth sydd yn mynd i ddenu torfeydd da. Steddfod Genedlaethol- dyma'r unig opsiwn- cofier bregustod y diwylliant Cymraeg. Mae rhai Cymry Cymraeg yma yn Lloegr yn gwneud mwy o ymdrech i gyfrannu i'r diwylliant Cymraeg tra eu bod yn byw yn Lloegr. Mae eraill (yn anffodus) yn anghofio am eu Cymreictod- rhaid cryfhau'r magnet. Gorau Cymro Cymro Oddi-Cartref- gallu bod yn wir-dim pob tro. Her dda i genedl fychan.
Byddai Steddfod Lerpwl 07 wedi golygu manteision amgen i fflam Cymreictod.
Tydw i ddim yn mynd i son eto am Steddfod Lerpwl yn yr edefyn yma- dim dyna ydi'r ffocws. Roedd yn bwynt teilwng, ond dyna fo...
Bydd maes-e yn troi mwy a mwy fatha Cwl Cymru- coeliwch fi.
"Dyma ni ar drothwy'r datbygiad pwysicaf i'r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlau S4C. Mae'n rhaid i'r fenter lwyddo"- neges Huw Edwards o blaid Y Byd ( http://www.ybyd.com )
Rhithffurf defnyddiwr
Golwg y diawl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Gwe 22 Medi 2006 2:52 pm
Lleoliad: Yn Lleol

Postiogan S.W. » Mer 04 Hyd 2006 11:59 am

Swnio fatha bod gin ti gysylltiadau cryf gyda Radio Cymru S.W?


Yr unig gysylltiadau sydd gen i a nhw ydy gwrando ar y Radio, o ac ennill cystadleuthau o bryd iw gilydd.

Dwin cytuno hefo'r HRF am gynnal gwyl hollol o'r newydd yn Lloegr nid glynnu wrth y syniad gwirion o ddenu'r Eisteddfod Genedlaethol yno. Bydd yr Eisteddfod Gen ddim yn "wyl fawr" yn Lloegr - bydd llawer o Gymry ddim yn mynd yno, a bydd mwyafrif o Saeson a llawer o Gymry Lloegr ddim yn mynd yno. Ti'n anghofio bod Lloegr yn wlad tipyn mwy na Cymru! Byddwn ni'n cynnal yr Eisteddfod Gen yn Llundain, Manceinion, Birmingham, Dudley, Newcastle, Southampton? Neu dim ond Lerpwl? Pam byddai Cymro sy'n byw yn dyweder Llundain yn fwy tebygol o ymweld a'r Eisteddfod yn Lerpwl nag yng Nghnaerdydd neu Casnewydd?

O fy mhrofiad i, mae gormod o bobl tu hwnt i Gymru'n meddwl bod diwylliant Cymru yn dechrau a gorffen hefo Cerrig yr Orsedd, Ffarmio, Dawnsio Gwerin a Corau. Bydd yr Eisteddfod yn atgyfnerthu hyn, tra bydd Wyl Gerddorol yn dangos bod llawer mwy iddi.

A plis stopia fynd ymlaen am 'Cymry Cwl' mae on naff ac yn henffasiwn. Ai dyna sut wyt ti isio i'r Gymraeg fynd?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan ceribethlem » Mer 04 Hyd 2006 4:04 pm

Golwg y diawl a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:Os wyt am gynnal gŵyl i ddathlu Cymreictod Lerpwl, Manceinion, Coventry neu Birmingham, anghofia'r Eisteddfod - trefna gŵyl roc neu ŵyl werin Cymraeg, rhywbeth gellir ei gynnal yn flynyddol (os yn llwyddiannus) yn hytrach na rhygnu mlaen am Eisteddfod Genedlaethol

Na. Byddai angen gwyl fawr-rhywbeth sydd yn mynd i ddenu torfeydd da. Steddfod Genedlaethol- dyma'r unig opsiwn- cofier bregustod y diwylliant Cymraeg. Mae rhai Cymry Cymraeg yma yn Lloegr yn gwneud mwy o ymdrech i gyfrannu i'r diwylliant Cymraeg tra eu bod yn byw yn Lloegr. Mae eraill (yn anffodus) yn anghofio am eu Cymreictod- rhaid cryfhau'r magnet. Gorau Cymro Cymro Oddi-Cartref- gallu bod yn wir-dim pob tro. Her dda i genedl fychan.
Byddai Steddfod Lerpwl 07 wedi golygu manteision amgen i fflam Cymreictod.
Tydw i ddim yn mynd i son eto am Steddfod Lerpwl yn yr edefyn yma- dim dyna ydi'r ffocws. Roedd yn bwynt teilwng, ond dyna fo...
Bydd maes-e yn troi mwy a mwy fatha Cwl Cymru- coeliwch fi.
Yn ol y ddadl Seddfod Lerpwl sydd gen ti, pam nad cael y steddfod yn Lloegr bob blwyddyn? Neu mae 'n foi o Ferthyr yn berchen ar dafarn yn llydaw, pam ddim cynnal y steddfod yn fynna. Jiawcs, aeth Tadcu i Rwsia unwaith, Steddfod Moscow 09 amdani bois :rolio:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Mali » Mer 04 Hyd 2006 4:23 pm

Golwg y diawl a ddywedodd:Ailadroddaf- ceir mwy o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr nac unrhyw wlad arall ar y blaned hon (ar ol Cymru fach). Elli di ddadlau y dylsai'r bobl yma wneud mwy o ymdrech eu hunain i ail-gysylltu gyda eu Cymreictod a bod croeso mawr iddynt bicio nol i Gymru unrhyw bryd. Ond awgrymaf nad yw magnet Cymru ddigon cryf ar hyn o bryd...


Tydi hi ddim o bwys pa mor gryf yw'r 'magnet' 'ma ti'n sôn amdano, dwyt ti ddim yn mynd i gael aelodau o Loegr i gyfrannu os nad ydyn nhw isho gwneud hynny yn y lle cyntaf.
Wyt ti'n perthyn i Gymdeithas Cymraeg yn Lloegr? Dwi'n deall fod 'na nifer yno.
Ella eu bod nhw fel 'Cymry ar wasgar' yn byw yn rhy agos i Gymru? A bod Cymry mewn gwledydd eraill yn fwy tebygol o wneud yr ymdrech 'roedd HRF yn gyfeirio ato , i gadw mewn cysylltiad au mamwlad.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Golwg y diawl » Mer 04 Hyd 2006 8:35 pm

S.W. a ddywedodd:A plis stopia fynd ymlaen am 'Cymry Cwl' mae on naff ac yn henffasiwn.

O'r gorau Mr Cul Cymru (aka S.W.)
Fel dwi wedi gwneud yn berffaith glir yn barod, tydw i ddim yn mynd i sgwennu negeseuon positif (gair da- positif yn tydi?) o blaid Steddfod Lerpwl 07 eto- dim dyna'r ffocws yn yr edefyn. Manteision amgen- o wel, newid bach o "u" i "w"- trueni ynde...
"Dyma ni ar drothwy'r datbygiad pwysicaf i'r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlau S4C. Mae'n rhaid i'r fenter lwyddo"- neges Huw Edwards o blaid Y Byd ( http://www.ybyd.com )
Rhithffurf defnyddiwr
Golwg y diawl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Gwe 22 Medi 2006 2:52 pm
Lleoliad: Yn Lleol

Nôl

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron