Mwy o aelodau o Loegr

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mr Gasyth » Mer 27 Medi 2006 1:08 pm

S.W. a ddywedodd:nid yr Eisteddfod Genedlaethol sydd biau'r enw 'Eisteddfod'.

:ofn: Pwy sy'n mynd i ddeud wrth Elfed? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Ray Diota » Mer 27 Medi 2006 1:17 pm

Golwg y diawl a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:Rwy'n cytuno bod modd defnyddio'r Maes fel lle i'r Cymry ar wasgar defnyddio eu Cymraeg.

Creu tref/dinas electronig Cymraeg- ble mae'r weledigaeth??
O.N. nid yw pentref yn ddigon da.

:lol:

Ffac, ma'r boi ma'n craco fi lan.

Martyn, cyhyd a bo pub a spar, ma pentre yn le bach neis 'chan!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Golwg y diawl » Iau 28 Medi 2006 8:38 am

S.W. a ddywedodd:A stopia parablu'n mlaen am Steddfod 2007 yn Lerpwl eto fyth.

Roedd hi'n hollol addas codi'r pwynt yn yr edefyn yma.
Mi fydd cyfraniad Cymry Lloegr i'r diwylliant Cymraeg yn cryfhau yn ystod y degawd nesa (cyn belled bod Cymru yn ddigon uchelgeisiol). Dwi'n eitha sicr y bydda Nic wedi mwynhau Steddfod yn Lerpwl yn fawr iawn ac y byddai wedi gwled y peth fel hwb i maes-e.
Gorau Cymro, Cymro Oddi-Cartref- croeso cynnes i aleodau newydd o Loegr a thu hwnt :!:
Peidiwch a chymryd hyn yn y ffordd anghywir, ond efallai y ceir gormod o "Welshis" yma ar hyn o bryd. Ehangu'r apel- croesdoriad gwell. Cwl Cymry?
"Dyma ni ar drothwy'r datbygiad pwysicaf i'r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlau S4C. Mae'n rhaid i'r fenter lwyddo"- neges Huw Edwards o blaid Y Byd ( http://www.ybyd.com )
Rhithffurf defnyddiwr
Golwg y diawl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Gwe 22 Medi 2006 2:52 pm
Lleoliad: Yn Lleol

Postiogan S.W. » Iau 28 Medi 2006 9:56 am

Tyrd wan Martin does bosib bod ti mor wirion a hynny?

Mae Croeso mawr i Gymru Oddi Cartref ddychwelyd/ymweld a Chymru ar unrhyw adeg hefyd!

Rhyw derm artiffisial o'r 1990au ydy 'Cwl Cymru' (mae croeso i ti ddal i fyw yno os myni di) wedi ei rhoi ar gefn SFA, Catatonia, Stereophonics ayyb am lwyddo i gael eu gweld tu hwnt i Gymru.

Rhaid i ti ofyn i Nic os bydd o wedi mwynhau Steddfod yn Lerpwl, mae'n bosib bydd on mwynhau un yn Sir y Fflint hefyd!

Fel ddudish i pam bod angen yr Eisteddfod Genedlaethol i ddathlu diwylliant Cymry Lerpwl? Pam gallan nhw (gyda chefnogaeth Cymry Cymru) gynnal Gwyl Cymraeg Lerpwl? Does dim iw hatal nhw o gwbl! Does neb yn gwadu hawl Cymry Lerpwl i gael rhyw fath o wyl, ond nid oes angen yr Eisteddfod Genedlaethol i wneud hynny. Mi fydd yr Eisteddfod Gen yn gallu cael effaith llawer mwy bositif yn Sir y Fflint.

Ac o ran hynny, pam fydd Cymry Lloegr yn dod yn llawer bwysicach yn y dyfodol? Siawns mae cyfrifoldeb pob Cymro yng Nghymru yw hi i sicrhau ffyniant yr iaith Gymraeg yma yng Nghymru. Mae gan y Cymry hynny tu allan i Gymru gyfrifoldeb ond nid y brif gyfrifoldeb.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Golwg y diawl » Gwe 29 Medi 2006 11:08 am

S.W. a ddywedodd:Tyrd wan Martin does bosib bod ti mor wirion a hynny?

Rhyfedd a fyd a rhyfedd o (rai) Cyrmy. Ella bod chdi jyst ddim yn deall :?
"Dyma ni ar drothwy'r datbygiad pwysicaf i'r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlau S4C. Mae'n rhaid i'r fenter lwyddo"- neges Huw Edwards o blaid Y Byd ( http://www.ybyd.com )
Rhithffurf defnyddiwr
Golwg y diawl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Gwe 22 Medi 2006 2:52 pm
Lleoliad: Yn Lleol

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 29 Medi 2006 11:29 am

Fi'n mynd i Loegr penwythnos 'ma. Oes gan unrhyw un sandwich board alla' i ei fenthyg?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan S.W. » Gwe 29 Medi 2006 11:40 am

Golwg y diawl a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Tyrd wan Martin does bosib bod ti mor wirion a hynny?

Rhyfedd a fyd a rhyfedd o (rai) Cyrmy. Ella bod chdi jyst ddim yn deall :?

Dim am ateb cwestiynau bellach Martin? Oh well

Gwahanglwyf Dros Grist

Fi'n mynd i Loegr penwythnos 'ma. Oes gan unrhyw un sandwich board alla' i ei fenthyg?

:lol:
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 29 Medi 2006 11:55 am

Golwg y diawl a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:Rwy'n cytuno bod modd defnyddio'r Maes fel lle i'r Cymry ar wasgar defnyddio eu Cymraeg.

Creu tref/dinas electronig Cymraeg- ble mae'r weledigaeth??
O.N. nid yw pentref yn ddigon da.

Be sy'n stopio ti...

Neu falle http://www.getalife.com ddyle hwnna fod...
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Golwg y diawl » Sad 30 Medi 2006 8:25 am

Mae gan Gymry Lloegr y potensial i gyfoethoci y diwylliant Cymraeg ar lefel llawer dyfnach na'r presennol- tria ddeall y byd modern yma mewn ffordd aeddfetach. Efallai fod oes aur Cymry Lloegr/Lerpwl ar ben, ond mae atgyfodiad/dadeni bach yn gwbl bosibl- ia, Cwl Cymru...
Byddai Steddfod Lerwpl wedi bod yn hwb a sbardun allweddol- gellir dadlau nad yw hi'n angenrheidiol i'r Steddfod Gen fynd yno ac y dylid trefnu rhywbeth arall, ond mae angen digwyddiad ar raddfa fawr- cofier bregustod y diwylliant Cymraeg yn gyffredinol.

Get a life, Rhodri Nwdls- ia, gwych(?). Ti'n un dau i siarad yn dwyt? Ar ol 2423 o negeseuon...
Rhyfedd fel dwi yn mynd i brynnu tocyn wythnos ar gyfer Steddfod Fflint ond bod cyn-Archderwydd wedi bod yn hollol glir na fyddai ef wedi mynd i Lerpwl o gwbl mewn protest. Rhyfedd o (Cul) Cymru...
S.W.- "Mi fydd Eisteddfod Gen yn gallu cael effaith llawer mwy bositif yn Sir y Fflint"- roedd Steddfod Lerpwl yn cynhrychioli manteision amgen i'r diwylliant Cymraeg. Nid oedd gan y genedl (neu o leiaf pwysigion y brifwyl) ddigon o ddychymyg i sylweddoli hyn. Cul Cymru unwaith eto.
Ta waeth, gobeithio y bydd mwy o Gymry Lloegr yn cyfoethoci y rhithfro Gymraeg yn y dyfodol agos.
"Dyma ni ar drothwy'r datbygiad pwysicaf i'r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlau S4C. Mae'n rhaid i'r fenter lwyddo"- neges Huw Edwards o blaid Y Byd ( http://www.ybyd.com )
Rhithffurf defnyddiwr
Golwg y diawl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Gwe 22 Medi 2006 2:52 pm
Lleoliad: Yn Lleol

Postiogan Jamie » Sad 30 Medi 2006 9:44 am

Iasu, dyw beth ti'n ddweud ddim yn chwyldroadol o gwbl, GyD! Dyw hi ddim fel bod y Cymry erioed wedi bod mewn cysylltiad da'r diwylliant Saesneg nagywe? Sai'n gwbod faint ti wedi ddysgu am orffennol Cymru ond mae canrifoedd o 'looking up England's arsehole' (Harri Webb) gyda ni a dim ond ymwybyddiaeth cenedlaethol mwy annibynnol yn ystod falle tri chwaerter ola'r 20g (dim wir gymaint a 'nny os ni'n edrych ar drwch poblogaeth Cymru), Hyn sydd yn chwyldroadol mewn gwirionedd. Sdim un gwlad yn fewnblyg, ond os bod y wir a meddwl agored rhaid edrych heibio i sgraps pathetig yr hyn sydd an aros o'r British Empire a gweld beth sydd da gwledydd bach Ewrop i ddysgu i ni. Nhw sydd yn delio da'r un sefyllfa o ddydd i ddydd gyda problemau iaith leiafrifol ayb. Fi wir yn amau oes gyda Lloegr (y genedl fwya cul, unieithog, un diwylliant ar yr holl Ddaear!) fwy i ddysgu i ni na sydd ishws wedi stwffo lawr ein gyddfau ers mileniwm. Os oes gyda ni rywbeth i ddysgu iddi hi yna gadewch iddi hi ddod aton ni. Bydd croeso, ond am unwaith, ar ein telerau ni.

Gyda llaw, Sais ydw i o ran magwraeth ond wedi dewis Cymreictod oherwydd yr union reswm fod y diwylliant arbennig hwn yn amgenach, nid yn unig yn amgen. Os bydd y ffiniau'n cael eu niwlio, llai fydd ishe troi at y Gymraeg, nid mwy!
Jamie
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Gwe 22 Medi 2006 4:16 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai