Faint o bobl sy'n medru'r Gymraeg sy'n byw yn Lloegr?? Miloedd ar filoedd... Beth yn union yw gweledigaeth/cynllun y seiat drafod yma er mwyn recriwtio mwy o aelodau o'r ochr arall i Glawdd Offa?
Faint o fyfyrwyr Cymraeg sydd wedi mynd i brifysgolion Seisnig yn ystod y diwrnodau diwetha? Faint o Gymry (Gorau Cymro- Cymro oddi-cartref?) sydd yn ysu am gyfleoedd i gryfhau y Gymraeg fel ffenomen fyw go iawn?
Oni fyddai Steddfod Lerpwl 07 wedi bod yn gyfle gwych i maes-e allu cael ei ailrymuso mewn ffordd egniol iawn gan gyfranwyr o Loegr?