HRF- mae arnai ofn nad oedd y genedl Gymraeg yn ddigon uchelgeisiol ar gyfer yr her anferthol- dyma'r gwir palen. Mae disgrifo'r diwylliant Cymraeg fel un Mici Mows yn annheg... ond mae'r term wedi croesi meddwl pob un copa walltog sy'n myfyrio ynglyn a'n diwylliant o bryd i'w gilydd. Mae maes-e wedi colli cyfle digymar. Be sydd o'i le mewn cydnabod hyn?
Ni cheir digon o Gymry ar wasgar yma- Lepwl 07 oedd y cyfle perffaith. Nid Lerpwl yw prifddinas Gogledd Cymru, ond mae hi'n fwy enwog drwy'r byd na unrhyw ddinas neu thref yng Nghymru fach- hysbys,sylw, symud i fyny i'r ger neasf, mymryn o sylw yn y cyfryngau Seisnig...