Mwy o aelodau o Loegr

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Golwg y diawl » Sad 30 Medi 2006 9:56 am

Parchu yr hyn sgin ti i ddweud- ond y mathemateg plaen ydi fod yna fwy o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr na unrhyw wlad arall yn y byd mawr crwn (ar ol Cymru wrth gwrs).
"Dyma ni ar drothwy'r datbygiad pwysicaf i'r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlau S4C. Mae'n rhaid i'r fenter lwyddo"- neges Huw Edwards o blaid Y Byd ( http://www.ybyd.com )
Rhithffurf defnyddiwr
Golwg y diawl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Gwe 22 Medi 2006 2:52 pm
Lleoliad: Yn Lleol

Postiogan Macsen » Sad 30 Medi 2006 12:01 pm

Pam boddran mynd a'n diwylliant ni draw i Loegr pan ei bod nhw mor barod i ddod a'i diwylliant nhw draw fan hyn? :p

Mae angn trio hybu diwylliant Cymreig mewn rhannau di-Gymraeg o Gymru cyn poeni am wneud dros y clawdd. A byddai trio Cymreigio Lloegr braidd yn ragrithiol gan ein bod ni'n cwyno am ei hymdrechion nhw i Saesnigio Cymru.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Golwg y diawl » Sul 01 Hyd 2006 1:44 pm

Rhaid atgoffa Lloegr mewn ffordd beiddagr a chyfeillgar fod y Gymraeg yn ffenomen fyw go iawn- big Brother 7 wedi gwneud hyn yn weddol effeithiol. Rhaid gwneud mwy o hyn- Lerpwl 07- collwyd cyfle digymae...
Ond efallai y dylid mynd yn ol at y testun- sef mwy o aelodau o Loegr...
A hoffai unrhyw aelod o'r maes amcangyfrif faint o bobl sy'n medru'r Gymraeg sy'n byw yn lloegr ar hyn o bryd?? Ia, ia... Patagonia, Gogledd Ameirca, Awstralia... traddodiad Cymreig/Cymraeg diddorol a gwerthfawr... ond mae'n hen bryd i'r Gymaeg yn Lloegr gyfeothoci ein diwylliant mewn ffordd mwy egniol!
Gyda phob parch, efallai ceir gormod o bwyslais a sylw yn y cyfryngau Cymraeg am Y Wladfa- sbiwch yn nes at adref...
Tydw i ddim yn arbenigwr ar hanes Cymru- ond gwn yn iawn nad oes gan ein diwylliant ddim o gwbl i'w golli drwy geisio perswadio mwy o bobl yn Lloegr i ddefnyddio eu cymraeg yn amlach- beth sydd yna i'w golli?

Faint o Gymry Cymraeg sydd wedi mynd i Brifysgolion e.e. Manceinion, Lerpwl, Bryste, Birmingham eleni? Eu dewis nhw yw e pa brifysgol maent eisiau astudio ynddi hi- pob lwc iddyn nhw. Cryfhau'r berthynas rhwng Cymru a Chymry Lloegr-pam lai.
Nid yw Nic eisiau gweld maes-e yn tyfu'n rhy sydyn. Ond awgrymaf y byddai yn croesawu aelodau newydd o Loegr... dod a Chymry ar wasgar yn agosach at eu gilydd.
Crafu tin Lloegr? Na-byth. Sylweddoli fod gan bobol sy'n medru'r Gymraeg yn Lloegr gyfraniad werth chweil i'w wneud? Doeth iawn ddywedwn i.
Mae'n rhy hawdd o lawer i bobl symund o Gymry ac yna bron byth defnyddio'r hyn o Gymraeg sydd ganddynt tra eu bod allan o Gymru- nid yw allfudo yn beth negyddol i Gymru fel y cyfryw- cyn belled bod mwy yn cyfrannu i'r diwylliant Cymraeg. Ailadroddaf- Gorau Cymro, Cymro Oddi-Cartref...
Byddai Lerpwl 07 wedi bod yn arbrawf gyffrous a phositif i Gymreictod o gyfeiriad Lloegr (byddai maes-e wedi cael ei ailrymuso hefyd).
Fe wyr Nic hyn yn iawn (mae'n siwr y bydd yn ateb dros ei hun yn o fuan).

Hoffwn weld maes-e yn denu pob math o Gymry (yng Nghymru a thu hwnt).
"Dyma ni ar drothwy'r datbygiad pwysicaf i'r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlau S4C. Mae'n rhaid i'r fenter lwyddo"- neges Huw Edwards o blaid Y Byd ( http://www.ybyd.com )
Rhithffurf defnyddiwr
Golwg y diawl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Gwe 22 Medi 2006 2:52 pm
Lleoliad: Yn Lleol

Postiogan Golwg y diawl » Sul 01 Hyd 2006 1:50 pm

Macsen a ddywedodd:Mae angn trio hybu diwylliant Cymreig mewn rhannau di-Gymraeg o Gymru cyn poeni am wneud dros y clawdd. A byddai trio Cymreigio Lloegr braidd yn ragrithiol gan ein bod ni'n cwyno am ei hymdrechion nhw i Saesnigio Cymru.

Eisteddfod Gen- y tro cyntaf y tu allan i Gymru ers oes pys- blaenoriaeth i Gymru (dim yn deall dy bwynt, Macsen).
Cymreigio Lloegr? Na- cryfhau y cysylltidau rhwng Cymru a phobl yn Lloegr sydd a diddordeb yn y diwylliant Cymraeg.
Mmm... efallai y dylsem gael mwy o ffocws yn yr edefyn yma. Mwy o aelodau o maes-e o Loegr- bydai'n beth iach yn iawn.
"Dyma ni ar drothwy'r datbygiad pwysicaf i'r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlau S4C. Mae'n rhaid i'r fenter lwyddo"- neges Huw Edwards o blaid Y Byd ( http://www.ybyd.com )
Rhithffurf defnyddiwr
Golwg y diawl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Gwe 22 Medi 2006 2:52 pm
Lleoliad: Yn Lleol

Postiogan Rhodri Nwdls » Sul 01 Hyd 2006 10:47 pm

Golwg y diawl a ddywedodd:Get a life, Rhodri Nwdls- ia, gwych(?). Ti'n un dau i siarad yn dwyt? Ar ol 2423 o negeseuon...


Golwg y diawl a ddywedodd:Ta waeth, gobeithio y bydd mwy o Gymry Lloegr yn cyfoethoci y rhithfro Gymraeg yn y dyfodol agos.


Dim cyfranwyr, dim maes-e GyD! Neu falla taw jest Cymru oddi-cartra tisio yn yr iwtopia newydd ma? A wel, a'i nôl i dwidlo modia yn gongol ta.

Sori boi, cheap shot deu gwir, ond dwi jest wedi cael digon o ddarllan dy gwynion undonog ar y diawl am bobol sydd ddim yn digon "uchelgeisiol" a "beiddgar" pan mae llawer iawn yn ceisio gwneud gymaint allan nhw i wneud petha Cymraeg a byw bywyd yn y Gymraeg.

Sdopia gwyno, paid disgwyl i bobol eraill wneud o drosta ti, jest gna fo de.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 03 Hyd 2006 1:24 am

Mae trio dal pen rheswm efo ti, Martin, yn aml yn ymdebygu i geisio gwancio heb goc!

Does, neb, neb, neb, yn dweud nad oes hawl, rhyddid na chroeso i Gymry Cymraeg Lloegr ymuno a'r Maes!

MAE croeso iddynt. Os wyt yn adnabod pobl o'r fath sydd am ymuno cyfeiria nhw at y gwefan - os nad wyt ti'n adnabod pobl o Loegr sydd am ymuno paid â disgwyl i'r gweddill ohonom gyflawni dy ffantasiâu ar dy ran!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Golwg y diawl » Maw 03 Hyd 2006 8:11 am

Nid oeddwn wedi bwriadu cyfrannu eto- ond, ysywaeth, mae'n amlwg nad yw rhai jest ddim yn deall:
Dweud dwi y dylai'r diwylliant Cymraeg wneud mwy o ymdrech amlwg i gryhau'r cysylltiad rhwng Cymru a Chymry Lloegr.
Ceir gormod o bwyslais yn y cyfryngau Cymraeg ar e.e. Y Wladfa a dim digon ar y syms plaen bod yna fwy o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr na unrhyw wlad arall yn y byd (ar ol Cymru).
Wrth gwrs y byddai perchennog y maes (a phawb arall decini) yn croesawu mwy o gyfrannwyr o Loegr- deud dwi y dylid acennu/pwysleisio'r agwedd groesawgar yma- Cwl Cymru.
Nid yw Nic eisiau chwyldro ar hyn o bryd- iawn. Ond fe wyr yn iawn fod gan maes-e y potensial i chwarae rhan ganolog, allweddol yn yr ymdrech i greu mymryn o adfywiad- h.y. cyfraniad Cymry Lloegr i'r diwylliant Cymraeg.
Beth am newid "heb y barnu na'r cystadlu" i "croeso i bawb o bedwar ban byd" neu rywbeth mwy trawiadol- rhywun yn gallu cynganeddu yma?
O ia, Hen Rech Flin-ti'n meddwl y dylsem ymddiheuro am y ffaith bod gen i farn ychydig yn wahannol i'r arfer ar rai pynciau? Sori, ond mae maes-e yn chwarel o syniadau difyr y gall rhywun droi ati pob hyn a hyn- ynteu a wyt yn credu y dylai'r chwarel fod chydig yn llai dwfn?
Dim tynnu'n groes er mwyn trolio- ond os nad wyt yn drebyn hyn yna credaf (mae arnai ofn) na fyddaf yn gallu newid dy farn.
Bydd mwy o gyfrannwyr o Fanceinion yn ymaelodi yn fuan...
"Dyma ni ar drothwy'r datbygiad pwysicaf i'r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlau S4C. Mae'n rhaid i'r fenter lwyddo"- neges Huw Edwards o blaid Y Byd ( http://www.ybyd.com )
Rhithffurf defnyddiwr
Golwg y diawl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Gwe 22 Medi 2006 2:52 pm
Lleoliad: Yn Lleol

Postiogan S.W. » Maw 03 Hyd 2006 9:03 am

Ble mae'r gwenoglyn 'taro pen yn erbyn wal' pan ti angen un?

Martin, da iawn ti am gael aelodau newydd o Fanceinion ayyb (gobeithio bod nhw'n gallu cynnal trafodaeth yn wahanol i rai!). Ond gad iddo fo ddigwydd yn naturiol.

Mae sylw yn cael ei rhoi i'r Wladfa gan bod y pobl yma 1000oedd o filltiroedd i ffwrdd yn siarad Cymraeg. Mae Lloegr drws nesa. Ond o wrando ar Radio Cymru bron yn wythnosol mae na sylw yn cael ei rhoi i Gymry yn Lloegr (ac yn yr Alban). Pythefnos yn nol roedd Tarro'r Post yn trafod cae peldroed newydd i Glwb Peldroed Lerpwl ar Stanley Park gyda cyfraniadau gan rhai o Gymry Lerpwl

Mae D. Ben Rees yn aml yn cyfrannu i'r 'Munud i Feddwl' ar y Post Cyntaf ynghyd a Gweinidog Cymraeg yng Nglasgow. Aml iawn ceir cyfranaidau o bobl o Swydd Gaer a Manceinion hefyd.

Ti'n chwilio am feiau (a dadl) wan dwi'n meddwl Martin.

Does neb yn dadlau na ddylid hybu Cymru yn Lloegr (nag unrhyw rhan arall o'r byd). Dwi'n gwbod am nifer o Gymry yn Ucheldiroedd yr Alban, ond dwi'm yn credu y dylid cynnal un o Wyliau Cymru yn yr Alban (er bod y Gymraeg arfer a chael ei siarad yn Ne Orllewin yr Alban canrifoedd maith yn nol). Os ydyn nhw isio rhywbeth Cymreig yno mi wnawn ni wneud o eu hunain. Mae'r un yn wir am Gymry mewn unrhyw ban byd. Mae Eisteddfodau annibynol yn cael eu cynnal ar hyd a lled yr UDA, Patagonia, a rhannau o Loegr. Pam allforio Gwyl sydd wedi sefydlu yng Nghymru ers degawadau yw'r unig ffordd o hyrwyddo Cymreictod yn Lloegr?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan huwwaters » Maw 03 Hyd 2006 12:49 pm

Ma S.W. wedi pigo fyny ar pwynt diddorol a dilys iawn ynglyn a Radio Cymru yn ymateb i wrandawyr hyd a lled y DU.

Martin, be am y ffaith fod S4C, BBC 1 a 2 Wales, Radio Wales a Radio Cymru ar gael i bawb yn y DG ar Sky?

Onid yw ymestyn cyfryngau cyfyngedig Cymru fewn i dir Lloegr yn gamp yn ei hun?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Maw 03 Hyd 2006 4:54 pm

Golwg y Jiawl a ddywedodd:Beth am newid "heb y barnu na'r cystadlu" i "croeso i bawb o bedwar ban byd" neu rywbeth mwy trawiadol- rhywun yn gallu cynganeddu yma?

Wel erm so'r pennill 'na yn y gân. Bach llai yn glyfar t'wel.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron