2006 yn flwyddyn dawel (wele y graff)

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

2006 yn flwyddyn dawel (wele y graff)

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 27 Tach 2006 11:35 am

O edrych ar y graff isod fe welir fod 2006 wedi bod yn flwyddyn o gwymp aruthrol - wrth i'r flwyddyn ddod i ben fe welwn fod y nifer sy'n cyfrannu negeseuon yn ol mor isel ag yr oedd yn 2003. Ac ymhell dan hanner y nifer o negeseuon ag yr oedd yn ystod llanw uchel Haf 2004.

Tybed beth yw'r rhesymau am hyn? Dwi'n tybied fod myspace yn ffactor - does dim gymaint o kids yma yn malu awyr bellach - mae nhw wedi symud i wneud hynny ar myspace. Cymer fy mrawd bach i fel enghraifft - roedd ef a'i gyfeillion ar un pwynt yn cyfrannu'n gyson ddyddiol i'r maes ond bellach mae eu cymuned nhw ar myspace yn fyrlymus o brysur a does dim son amdanynt fan yma.

Ysywaeth, dyma'r graff:

Delwedd
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: 2006 yn flwyddyn dawel (wele y graff)

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 27 Tach 2006 11:38 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Tybed beth yw'r rhesymau am hyn? Dwi'n tybied fod myspace yn ffactor - does dim gymaint o kids yma yn malu awyr bellach - mae nhw wedi symud i wneud hynny ar myspace.


Ti siwr o fod yn iawn - fel un sydd mond newydd sylweddoli be ydi MySpace ers wythnos (!) mi alla i ddeall sut y byddai hyn wedi cyfrannu. Ond oes problem yn hyn?
Ella nad ydw i'r unigolyn gorau i ddeud ffasiwn beth, ond onid "cwaliti, not cwantiti?"
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gwen » Llun 27 Tach 2006 11:44 am

Cytuno efo'r Fflamingo. Mae'r lle ma'n lot callach dyddia yma, a dwi, yn bersonol, wedi cael mwy o fwynhad o'r maes yn ystod 2006 nag a ges i o gwbwl yn ystod y ddwy flynedd flaenorol - ers 2003, fel mae'n digwydd. Ond mae'n siwr y bysa rhai yn deud nad ydi hyn yn ddigon uchelgeisiol...
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 27 Tach 2006 11:52 am

Am bwy odda ti'n meddwl yn fanna, Gwen?! :winc: (shhhhh, paid a deud... Sdimisho deffro'r diafol, nagoes!)

Ia wir, mi gytuna' inna i hynny hefyd. Ella mod i'n un o'r bobol newydd oedd yn meddwi'n wirion ar Faes-e pan ymunish i (a dwi'n licio meddwl mod i wedi tawelu ers hynny). Ond mi esh i drwy gyfnod reit hir lle nesh i ddim cyfrannu (sawl 'n'?) llawer hefyd. Bellach, dwi'n mwynhau bod yma.

Ella fod y cyfartaledd oed wedi codi ychydig eto? (mi 'dwi'n cofio cyfnod lle y disgynnodd reit isel).

(neu ella 'sa "aeddfetrwydd" yn air tecach i'w ddefnyddio, gan nad ydi oed=aeddfedrwydd ymhob achos!)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan sian » Llun 27 Tach 2006 11:54 am

Mae MySpace, a bebo bondigrybwyll siwr o fod yn ffactor.
Ond mae arna i hiraeth ar ôl y Gath Ddu!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan nicdafis » Llun 27 Tach 2006 11:56 am

Doedd y tyfiant yn y ddwy flwyddyn gyntaf ddim yn gynaladwy, dyma pam do'n i ddim am hysbysebu'r maes yn rhy eang. Dwy flynydd yn ôl roedd yn edrych yn debyg iawn na fyddai'r maes yn cario ymlaen am yn hir, gan fod y raddfa signal/swn wedi dirywio i'r pwynt lle nad oedd werth darllen dim byd yma, a do'n ni ddim yn gallu ymdopi â'r gwaith cymedroli.

Dw i wedi dweud o'r cychwyn cyntaf nad oes rhaid i maes-e fod yn "bopeth i bawb". Dw i'n falch bod cymunedau eraill yn ffynnu - bach o drunei eu bod yn ffynnu ar wefanau Eingl-Americanaidd fel MySpace ond dyna natur y we.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan huwwaters » Llun 27 Tach 2006 1:43 pm

Dwi'n hapusach oherwydd hyn.

Dwnim os chi'n sylwi, ond tydi fy nghyfraniadau ddim yn digwydd cymaint rwan, achos dwi'n tueddu i ond ddarllen pethe.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: 2006 yn flwyddyn dawel (wele y graff)

Postiogan Mali » Llun 04 Rhag 2006 3:32 am

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd: "cwaliti, not cwantiti?"


cweit....mae pethau wedi tawelu ond wedi gwella hefyd.
:)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Macsen » Llun 04 Rhag 2006 12:09 pm

Dwin meddwl bod y cenhedlaeth cynta' cafodd eu cyffroi gan y Maes wedi tyfu fyny a cael swyddi yn y cyfryngau ac nawr yn ofn cyfrannu rhag tynnu nyth cacwn i'w penna'.

Mae diffyg rywun gyda barn dadleuol iawn wedi cael effaith hefyd. Dopeddwn i'm yn hoffi RET a Newt ond o leia' roedden nhw'n adloniant da.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan krustysnaks » Llun 04 Rhag 2006 1:08 pm

Hefyd, mae edefynau anomalous o hir, fel yr Edefyn Hiraf Erioed a Cwestiwn Cwis Bach Sydyn wedi marw / arafu'n sylweddol.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai