O edrych ar y graff isod fe welir fod 2006 wedi bod yn flwyddyn o gwymp aruthrol - wrth i'r flwyddyn ddod i ben fe welwn fod y nifer sy'n cyfrannu negeseuon yn ol mor isel ag yr oedd yn 2003. Ac ymhell dan hanner y nifer o negeseuon ag yr oedd yn ystod llanw uchel Haf 2004.
Tybed beth yw'r rhesymau am hyn? Dwi'n tybied fod myspace yn ffactor - does dim gymaint o kids yma yn malu awyr bellach - mae nhw wedi symud i wneud hynny ar myspace. Cymer fy mrawd bach i fel enghraifft - roedd ef a'i gyfeillion ar un pwynt yn cyfrannu'n gyson ddyddiol i'r maes ond bellach mae eu cymuned nhw ar myspace yn fyrlymus o brysur a does dim son amdanynt fan yma.
Ysywaeth, dyma'r graff: