Tudalen 1 o 1

Penblwyddi ar eich proffeil

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 1:32 pm
gan nicdafis
Pwy sy'n dweud does dim byd yn newid rownd fan hyn?

Mae yn awr yn bosibl ychwanegu eich dyddiad geni ar eich <a href="http://maes-e.com/profile.php?mode=editprofile">proffeil</a>. Os wnewch chi hyn bydd pawb yn gallu ei weld, a bydd neges fac ar y dudalen flaen yn yr wythnos cyn dy ben-blwydd.

Does dim rhaid i neb lenwi'r manylion yma.

Does dim rhaid i neb lenwi'r flwyddyn, os byddai'n well 'da chi beidio.

Dyna i gyd.

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 1:38 pm
gan Ray Diota
pam se ti 'di neu hyn wthnos dwetha, y mochyn? :winc:

penblwydd hapus i fi :crio:

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 1:43 pm
gan Tegwared ap Seion
Does neb ‰ phen-blwydd heddiw.


ar y gwaelod rŵan. Lle mae'r dyddiad i'w weld?

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 1:49 pm
gan nicdafis
Sori Ray, mae hyn ar y rhestr ers sbel, dim ond heddi dw i wedi cael yr amser. (Mae pokerroom.com i lawr, ahem.)


Tegwared ap Seion a ddywedodd:
Does neb ‰ phen-blwydd heddiw.


ar y gwaelod r?an. Lle mae'r dyddiad i'w weld?


Wedi trwshio'r ‰ 'na.

Fel wedais i, mae rhaid <a href="http://maes-e.com/profile.php?mode=editprofile">golygu eich proffeil</a> i ychwanegu'r dyddiad geni.

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 2:05 pm
gan Mwnci Banana Brown
Ray Diota a ddywedodd:pam se ti 'di neu hyn wthnos dwetha, y mochyn? :winc:

penblwydd hapus i fi :crio:


Neu yr wthnos cyn 'ny.... :crio:

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 2:12 pm
gan Macsen
Neges Proffeil a ddywedodd:Rhaid bod rhwng 5 a 100 oed.

:lol: Beth petai Bill Jones, y Cymro 105 oed o Bontypridd, eisiau ymuno?

Os ydw i'n gosod fy nyddiad geni fel 29 Tach 1905 bydd Maes-E yn ffrwydro hanner nos?

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 4:34 pm
gan Tegwared ap Seion
nicdafis a ddywedodd:Fel wedais i, mae rhaid <a href="http://maes-e.com/profile.php?mode=editprofile">golygu eich proffeil</a> i ychwanegu'r dyddiad geni.


Mi wnês hynny. Newydd weld bod angen clicio ar y proffeil i weld y dyddiad (oni'n chwilio ar y sgrin yma, e.e. :rolio: )

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 5:37 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Jiw, na teiming i chi, yn benblwydd i yw fori 'chan!

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 5:42 pm
gan xGeshaPwy?!x
Ray Diota a ddywedodd:pam se ti 'di neu hyn wthnos dwetha ....


Yn union!! Di hyn im yn deg!!! :drwg: ...... :lol:

PostioPostiwyd: Mer 29 Tach 2006 9:26 am
gan Tegwared ap Seion
Macsen a ddywedodd:Os ydw i'n gosod fy nyddiad geni fel 29 Tach 1905 bydd Maes-E yn ffrwydro hanner nos?


Pen-blwydd hapus yn 101 Macsen!