Tudalen 1 o 2

Smotiau, sêr ac enwau graddau

PostioPostiwyd: Iau 04 Ion 2007 12:11 pm
gan nicdafis
Iawnski?

Dw i newydd gael gwared (dros dro efallai) â'r enwau "graddau defnyddwyr". Yn diweddar, dyn ni wedi bod yn defnyddio "Cefnogwr" i'r rhai sydd, neu oedd, yn talu cyfraniad misol tuag at gadw a chynnal y maes. Mae Clwb Cefnogwyr bellach wedi dod i ben, er bod rhai eneidiau caredig dal yn talu.

(Oddi ar y pwnc, ond os ydych chi'n talu, byddwn i wrth fy modd creu slot hysbysebu i chi rhannu gyda hen Gefnogwyr eraill. Cysylltwch â fi mewn NB.)

Dw i hefyd wedi ehangu'r sustem "smotiau arian" tipyn bach. Mae bellach yn bosibl cael sêr arian dan dy enw, sy'n dangos pa mor <strike>drist</strike> bwysig wyt ti.

Rhag ofn bod diddordeb 'da neb, dyma sut mae smotiau a sêr yn cael eu trefnu:

Delwedd - 1 neges
Delwedd - 5 neges
Delwedd - 25 neges
Delwedd - 125 neges
Delwedd - 500 neges
Delwedd - 2500 neges

Delwedd - 5000 neges
Delwedd - 7500 neges
Delwedd - 10000 neges
Delwedd - 15000 neges
Delwedd - 20000 neges

Bydd rhai ohonoch chi yn sylwi bod chi wedi newid o fod yn Delwedd i fod yn Delwedd. Llongyfarchiadau. ;-)

Mae sêr aur i gael hefyd, ond does dim rhaid i ni boeni am y rheini tan 2020 ;-)

PostioPostiwyd: Iau 04 Ion 2007 12:18 pm
gan nicdafis
Damo, un peth 'to.

Dw i hefyd wedi cael gwared â'r enw "Gweinyddwr", felly, am y record, Gweinyddwyr y maes yw finnau, Aran, Barbarella, Cardi Bach a sian. Mae'n henwau ni dal mewn lliw gwahanol ar y dudalen flaen i ddangos taw ni yw'r rhai gyda'n bysedd ar y botwm mawr coch, ond hoffen ni eich atgoffa bod na "weinydd" ym mhob gweinyddwr, yn ogystal â "nyddwr".

(Jôc wedi addasu o'r ffilm "Grease"; ddim yn gweithio mor dda yn y Gymraeg, sori.)

PostioPostiwyd: Iau 04 Ion 2007 6:47 pm
gan 7ennyn
Felly, mae'n swyddogol - cystadleuaeth "pwy sydd yn gallu postio'r nifer mwyaf o grap" ydi Maes-e bellach.

Seren Aur, hiyr ai cym!

PostioPostiwyd: Iau 04 Ion 2007 6:53 pm
gan 7ennyn
Damia, un peth eto! (hehe - top tip, postio dau neges yn lle un, clyfar iawn Nic!)

Oedd yn well gennai yr hen drefn o allu prynu breintiau hefo pres.

PostioPostiwyd: Iau 04 Ion 2007 6:59 pm
gan 7ennyn
Unrhywun arall hefo tips ar sut i gynyddu'r cyfanswm negeseuon a bostiwyd?

PostioPostiwyd: Iau 04 Ion 2007 6:59 pm
gan 7ennyn
:winc:

PostioPostiwyd: Iau 04 Ion 2007 11:28 pm
gan Mwnci Banana Brown
Trenu bod y botwmDelwedd ddim yn gweitho 7ennyn!

PostioPostiwyd: Gwe 05 Ion 2007 12:38 am
gan nicdafis
Does neb <i>wir</i> yn credu bod nifer o negeseuon postiwyd yn adlewyrchiad o ba mor fawr a chlyfar wyt ti. Does neb yn lico'r boi gyda'r cyfanswm mwyaf, er enghraifft.

PostioPostiwyd: Gwe 05 Ion 2007 3:48 am
gan Mali
Diawcs, wnês i ddim sylwi'r newid tan i mi ddarllen yr edefyn yma lol!

PostioPostiwyd: Gwe 19 Ion 2007 12:32 am
gan eusebio
nicdafis a ddywedodd:Does neb yn lico'r boi gyda'r cyfanswm mwyaf, er enghraifft.


Nagoes ...? :crio: