cael gwared ar gymedrolwyr

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: cael gwared ar gymedrolwyr

Postiogan Pogo » Gwe 25 Mai 2007 7:51 pm

Ray Diota a ddywedodd:ma rhaid bod ffordd i fynegi bo chi'n pissed off da'r cymedroli.

ma pawb yn deall bo rhywun sy moyn bod yn gymedrolwr fel reffari mewn gêm bêl-droed - y boi odd methu whare ffwtbol yn ysgol achos bo da fe polio - ac felly'n anwybyddu nhw gymaint a phosib...

ond pan ma cymedrolwr cerddorieth gyfoes gymrâg yn dileu edefyn difyr achos bod e ddim yn arsed i neud tam bach o olygu, ma'n amser i'r pwrs gal sac, weden i...

wedi dweud hynny, bai'r dilwyn pierce na yw'r cyfan. fucking twat.

dal yn pissed o nithwr


Cytunaf fod y gymrodolaeth ar faes-e yn llaw-drwm, ac oherwydd hyn dwi'n postio yn anaml iawn.

Ond hyd y cofiaf, ti naeth redeg at y cymerdolwyr yn yr edefyn hwn, yn sgrechian fel mochyn, am fy mod wedi dyfynnu dy eiriau dy hun am ferched yn rowlio rownd mewn spwnc.

Pam yr anghysondeb, felly?
Golygwyd diwethaf gan Pogo ar Gwe 25 Mai 2007 10:19 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 25 Mai 2007 9:01 pm

Os chi ddim yn hapus, cychwynwch negesfwrdd eich hunan! :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan nicdafis » Sul 27 Mai 2007 3:32 pm

Pam mae pobl sy naill ai wedi gadael maes-e mewn hyff, neu gael eu gwahardd am beidio bod yn fodlon dilyn y canllawiau (dw i ddim yn cofio p'un oedd e yn achos pogon), ac wedyn ail-ymuno dan enw newydd, wastad mor fodlon i atgoffa pobl eu bod nhw wedi bod 'ma o'r blaen?

Y rheswm bod pogon_szczec wedi ffeindio'r cymedrolwyr yn llawdrwm yma, yw ei fod e wedi bod un o'r aelodau <i>high maintenence</i> yna sy'n tynnu sylw'r cymedrolwyr trwy'r amser. 'Sai fe ddim wedi bod mor hunan-fodlon i weld ei hunan uwchben y canllawiau mae pawb arall yn eu derbyn (ar y cyfan), fyddai fe'n postio nawr dan ei enw gwreiddiol.

Siwr o fod.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan krustysnaks » Sul 27 Mai 2007 4:37 pm

O ran cael gwared am gymedrolwyr, beth am gael gwared o'r rhai sydd dal gyda'u henwau wrth y seiadau ond sydd wedi hen ymadael?
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan nicdafis » Sul 27 Mai 2007 5:16 pm

Pwynt da, ond byddwn ni'n <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=10371">ail-wampio</a>'r sustem cymedrolwyr yn yr wythnosau nesa, felly gadawn ni bethau fel y maes am nawr.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Pogo » Sul 27 Mai 2007 5:54 pm

nicdafis a ddywedodd:Pam mae pobl sy naill ai wedi gadael maes-e mewn hyff, neu gael eu gwahardd am beidio bod yn fodlon dilyn y canllawiau (dw i ddim yn cofio p'un oedd e yn achos pogon), ac wedyn ail-ymuno dan enw newydd, wastad mor fodlon i atgoffa pobl eu bod nhw wedi bod 'ma o'r blaen?


Faset ti'n hapusach tasen nhw ddim?

Pam?
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Postiogan nicdafis » Sul 27 Mai 2007 6:23 pm

Dim ots un ffordd neu'r llall, jyst meddwl ei fod yn ddiddorol. Dw i ddim wedi cael fy nghicio mas o fforwm, gan mod i ddim yn boddran ymuno â'r rhain dw i ddim yn cytuno â'u rheolau, neu ddim yn leico eu steil. Dechreuwyd maes-e gan mod i ddim yn hoff o steil yr unig negesfwrdd Cymraeg oedd ar gael ar y pryd.

Beth dylwn i fod wedi neud, wrth gwrs, oedd gwastraffu fy amser, a diflasu pawb arall, gan gwyno amdano fe am flynyddoedd, fel wyt ti wedi bod yn neud fan hyn. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Pogo » Sul 27 Mai 2007 9:54 pm

Nes i ddim bostio er mwyn ymosod ar NicDafis. Ray Diota oedd fy nharget i, am fy mod yn meddwl ei fod yn hypocrit a choc oen o'r radd uchaf.

Nic, faset ti'n iawn taset i'n rhedeg bwrdd Saesneg ei iaith. Dwi'n aelod o lawer ohonynt. Ond dyma'r unig fwrdd lle gallaf gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn anffodus, mae 'da fi ddewis rhwng fod yn aelod o faes-e neu beidio a defnyddio'r Gymraeg yn llwyr.

Os wyt ti am hybu defnydd y Gymraeg, dylai'r bwrdd fod yn agored i bawb, hyd yn oed y rhai nad wyt yn hoff ohonynt.
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Re: cael gwared ar gymedrolwyr

Postiogan Ray Diota » Llun 28 Mai 2007 5:09 pm

Pogo a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:ma rhaid bod ffordd i fynegi bo chi'n pissed off da'r cymedroli.

ma pawb yn deall bo rhywun sy moyn bod yn gymedrolwr fel reffari mewn gêm bêl-droed - y boi odd methu whare ffwtbol yn ysgol achos bo da fe polio - ac felly'n anwybyddu nhw gymaint a phosib...

ond pan ma cymedrolwr cerddorieth gyfoes gymrâg yn dileu edefyn difyr achos bod e ddim yn arsed i neud tam bach o olygu, ma'n amser i'r pwrs gal sac, weden i...

wedi dweud hynny, bai'r dilwyn pierce na yw'r cyfan. fucking twat.

dal yn pissed o nithwr


Cytunaf fod y gymrodolaeth ar faes-e yn llaw-drwm, ac oherwydd hyn dwi'n postio yn anaml iawn.

Ond hyd y cofiaf, ti naeth redeg at y cymerdolwyr yn yr edefyn hwn, yn sgrechian fel mochyn, am fy mod wedi dyfynnu dy eiriau dy hun am ferched yn rowlio rownd mewn spwnc.

Pam yr anghysondeb, felly?


:lol: odd y cyfraniad ola i hwnna bron i flwyddyn a hanner yn ol... sdim byd tristach na hen gont diflas yn dal dig ose?

Shwt ma Poland, pogo? Gobitho bo ti ffaelu fforddio dod gatre...

Ray Diota oedd fy nharget i, am fy mod yn meddwl ei fod yn hypocrit a choc oen o'r radd uchaf.


Jolch yn fawr! Neis gwbod bo fi'n goc oen yn Eastern Europe hefyd...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan nicdafis » Llun 28 Mai 2007 7:26 pm

Pogo a ddywedodd:Nic, faset ti'n iawn taset i'n rhedeg bwrdd Saesneg ei iaith. Dwi'n aelod o lawer ohonynt. Ond dyma'r unig fwrdd lle gallaf gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.


Ac arna i mae'r bai am hynny?

Fel dwedais i uchod, pan do'n i ddim yn hapus gyda prinder dewis o lefydd i drafod yn Gymraeg ar y we, wnes i ddechrau maes-e. I gyd ti wedi wneud am y diffyg dewis yw cwyno am safonau maes-e.

Pogo a ddywedodd:Os wyt ti am hybu defnydd y Gymraeg, dylai'r bwrdd fod yn agored i bawb, hyd yn oed y rhai nad wyt yn hoff ohonynt.


Sori i dy siomi. Mae "hybu defnydd y Gymraeg" ar y we yn bwysig i fi, ond nid y peth pwysicaf oll, o bell, bell ffordd. Dw i ddim yn cofio arwyddo dim byd sy'n dweud taw dyna yw fy nghyfrifoldeb i - dw i'n wneud beth alla i, ac mae'n flin iawn 'da fi os dydw i ddim yn cyrraedd dy safonau uchel.

Nawr te, a' i nôl i fy ngêm poker, os ydy hynny'n iawn 'da ti.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nôl

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai