Tudalen 1 o 2

cael gwared ar gymedrolwyr

PostioPostiwyd: Mer 24 Ion 2007 11:16 am
gan Ray Diota
ma rhaid bod ffordd i fynegi bo chi'n pissed off da'r cymedroli.

ma pawb yn deall bo rhywun sy moyn bod yn gymedrolwr fel reffari mewn gêm bêl-droed - y boi odd methu whare ffwtbol yn ysgol achos bo da fe polio - ac felly'n anwybyddu nhw gymaint a phosib...

ond pan ma cymedrolwr cerddorieth gyfoes gymrâg yn dileu edefyn difyr achos bod e ddim yn arsed i neud tam bach o olygu, ma'n amser i'r pwrs gal sac, weden i...

wedi dweud hynny, bai'r dilwyn pierce na yw'r cyfan. fucking twat.

dal yn pissed o nithwr

PostioPostiwyd: Mer 24 Ion 2007 11:19 am
gan casual
Heb fod yma ers ages. be ddigwyddodd a pwy ffwc di dilwyn pierce? y boi na efo locsyn oedd ar HTV ers stalwm?

PostioPostiwyd: Mer 24 Ion 2007 11:49 am
gan Ray Diota
casual a ddywedodd:Heb fod yma ers ages. be ddigwyddodd a pwy ffwc di dilwyn pierce? y boi na efo locsyn oedd ar HTV ers stalwm?


mochyn yw e. mochyn brwnt a salw.

dewch a'r edefyn nôl y jawled!

Re: cael gwared ar gymedrolwyr

PostioPostiwyd: Mer 24 Ion 2007 2:56 pm
gan Barbarella
Ray Diota a ddywedodd:ma rhaid bod ffordd i fynegi bo chi'n pissed off da'r cymedroli.

Gyrru neges breifat? :rolio:

Roedd DP wedi newid y teitl, a'r neges gynta, gan newid holl gyfeiriad y drafodaeth. I raddau roedd yn newid ystyron rhai o'r ymatebion hefyd, oherwydd roedden nhw nawr yn ymateb i rywbeth gwahanol. Wedyn dechreuodd pobl ymateb o'r newydd i'r drafodaeth fwngrel, a chymhlethu pethau ymhellach.

Cymres i gip sydyn drwy'r trafodaeth, a do'n i wir ddim yn gweld unrhywbeth anhygoel o werthfawr yna... ond os chi'n mynnu, af ati i olygu'r negeseuon a'i osod yn ôl.

Nic sy'n dewis y cymedrolwyr fel arfer gyda llaw -- dy nhw ddim yn cynnig eu hunain.

Ray Diota a ddywedodd:wedi dweud hynny, bai'r dilwyn pierce na yw'r cyfan. fucking twat.

Yn union. Nid bai'r cymedrolwyr oedd hi bod yr edefyn yn diflannu.

PostioPostiwyd: Mer 24 Ion 2007 3:32 pm
gan nicdafis
Heb help y cymedrolwyr, fyddai maes-e wedi cau o leia 3 blynedd yn ôl.

Re: cael gwared ar gymedrolwyr

PostioPostiwyd: Mer 24 Ion 2007 3:49 pm
gan Prysur
wedi dweud hynny, bai'r dilwyn pierce na yw'r cyfan. fucking twat.


Oes rhaid bod mor 'aggressive'?

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 10:20 am
gan dilwyn-pierce
o fy Nuw !..be dwi 'di neud .?.dwi mor sori am olygu yr neges wreiddiol ..joc oedd o i fod ond yn amlwg joc oedd wedi mynd rhy bell, gai ymddiheuro i bawb , dwi wedi siomi yn fy hyn braidd, diolch am dy eiriau PRYSUR ond may RAY DIOTA yn iawn ..dwi yn f***** t**t am spwilio pob dim i bawb.ac yn ddiolchgar iawn o'r cyfle i ymddiheuro yn swyddogol.
plis plis fedridi ffendio fo yn eich calonau i faddau i mi ?

a RAY DIOTA . .. cofia fi at Ger.

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 10:32 am
gan Ray Diota
dilwyn-pierce a ddywedodd:
a RAY DIOTA . .. cofia fi at Ger.


:lol:

mi wnai! :)

gas da fi beidio gwbod pwy yw rhywun ar y maes! :x

Ta beth... on i mewn hwylie drwg 'da hangofer ddoe, so ymddiheuriadau am hynny - ond odd yr edefyn yn un da a ma'n biti bod e di diflannu achos bo bois di whare wic wew, na'i gyd!

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 10:44 am
gan Prysur
Mae'n ddrwg iawn gyna i hefyd Ray am dy alw yn dickwad ac .....ahem a dwi'n meddwl bod gyn chdi rywbeth bach i ddeutha fi hefyd

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 10:49 am
gan Barbarella
Wel mae'r edefyn <a href="viewtopic.php?t=21338&highlight=">nôl ers ddoe</a> a 'sneb di cyfrannu ato fe, felly doedd dim gymaint â hynny o golled ar ei ôl, nag oedd? ;-)