Dw i wedi bod yn chwarae o gwmpas gyda <a href="http://del.icio.us/">del.icio.us</a> i ffeindio ffordd o gadw rhestr o bethau diddorol ym mar ochr y maes. Mi welwch chi fe yna, ar y dde ->
<b>"Sut mae hyn yn gweithio?"</b>
Yn y bôn, os dw i'n dod ar draws edefyn dw i'n meddwl yn haeddu mwy o sylw, galla i wasgu botwm ar fy iMac llawn hud a lledrith, creu <a href="http://del.icio.us/nicdafis/maes">dalen nodyn del.icio.us gyda'r tag "maes"</a>, a fydd popeth arall yn digwydd yn awtomagicaidd.
<b>"Ti fydd yn dewis popeth 'te?"</b>
Nage, bydda i'n gofyn i gymerolwyr y seiadau unigol i awgrymu pethau i gael eu tagio. Dw i ddim yn gallu darllen popeth, ac mae 'na seiadau dw i bron byth yn edrych ynddyn nhw. Y rhai sy llawn peli, er enghraifft.
<b>"Beth am [gosod enw edefyn gwych yma]?"</b>
Mae croeso i unrhywun cysyllt â fi yn uniongyrchol trwy neges breifat i awgrymu edefyn i gynnwys yn y Pigion, dim ond iddyn nhw gofio dau beth:
[1] Fydda i ddim yn edrych ar yr edefyn os nag oes linc yn y neges - nid "yr edefyn 'na am asiantaethau mabwysiadu" ond <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=21481">"yr edefyn <b>'ma</b> am asiantaethau mabwysiadu"</a>.
[2] Fydda i ddim yn cynnwys yr edefyn os taw <b>ti</b> yw'r un dechreuodd e.
...
Ar hyn o bryd bydd lan i 15 edefyn yn y rhestr, gyda phethau newydd yn dod at y top. Bydd archif parhaol <a href="http://del.icio.us/nicdafis/maes">fan hyn</a>.
Gwd, unrhyw gwestiynau?