Tudalen 1 o 2

Be sydd ei angen ar y wefan yma yw...

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 8:58 am
gan SbecsPeledrX
Be sydd ei angen ar y wefan yma yw mwy o Trafod Adeiladol.



A cofiwch, dwi bob tro yn triglo'n berffaith

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 12:14 pm
gan nicdafis
Sori Sbecs, rhy gynnil i fi. Wyt ti'n dweud y dylwn i adael i Martin Llew sbamio'r safle, neu beth?

Re: Be sydd ei angen ar y wefan yma yw...

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 12:24 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
SbecsPeledrX a ddywedodd:Be sydd ei angen ar y wefan yma yw mwy o Trafod Adeiladol.



A cofiwch, dwi bob tro yn triglo'n berffaith


Na, beth sydd ei angen ar y wefan yma yw llai o Gogs.

Re: Be sydd ei angen ar y wefan yma yw...

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 3:39 pm
gan Mephistopheles
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
SbecsPeledrX a ddywedodd:Be sydd ei angen ar y wefan yma yw mwy o Trafod Adeiladol.



A cofiwch, dwi bob tro yn triglo'n berffaith


Na, beth sydd ei angen ar y wefan yma yw llai o Gogs.


Neu mwy o gogs

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 3:55 pm
gan Llefenni
Mwy or canolbarth yndĂȘĂȘĂȘ?

Delwedd

PostioPostiwyd: Sad 31 Maw 2007 11:48 am
gan SbecsPeledrX
nicdafis a ddywedodd:Sori Sbecs, rhy gynnil i fi. Wyt ti'n dweud y dylwn i adael i Martin Llew sbamio'r safle, neu beth?


Na ddim rili, dwi'n deud mwy na dim fy mod i eisiau gweld parhad o'r eternal struggle ar ras arfau digri. Lle mae Martin yn cael ei danfon i limbo am ryw chydig, cyn ffeindio'r loophole bach yn amddiffynfeydd maes-e, yn dychwelyd, llosgi fatha fflam phosphorws am chydig negeseuon, a wedyn cael ei gicio allan ar ei din eto. Mae'n ddiddanwch pur.

Ac edrych sut mae'r edefyn yma wedi datblygu - felly doedd hi ddim yn wastraff neges :D

PostioPostiwyd: Sul 01 Ebr 2007 11:40 pm
gan nicdafis
SbecsPeledrX a ddywedodd:Mae'n ddiddanwch pur.


"<a href="http://blogfiles.wfmu.org/KF/2006/12/hicks/Bill_Hicks_-_19_-_Freebird.mp3">Freebird!</a>"

Re: Be sydd ei angen ar y wefan yma yw...

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 10:31 pm
gan Cythrel Canu
Be sydd wir angen ar y wefan yma yw llai o seiadau! Mae 'na ormod. Sori, ond oedd rhaid dweud.

Mae 34 neu beth yw e' yn hollol boncyrs.

Re: Be sydd ei angen ar y wefan yma yw...

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 10:43 pm
gan Hedd Gwynfor
Cythrel Canu a ddywedodd:Be sydd wir angen ar y wefan yma yw llai o seiadau! Mae 'na ormod. Sori, ond oedd rhaid dweud.

Mae 34 neu beth yw e' yn hollol boncyrs.


Fi'n cytuno. Bydd nifer y seiadau sydd yn ymddangos ar yr hafanddalen yn cael eu cwtogi yn y dyfodol agos. Bydd strwythr newydd gyda prif seiadau mwy cyffredinol "Cerddoriaeth" "Materion Cyfoes" ayb, ac wedyn is-seiadau. Swnio'n well? Y drafferth yw penderfynnu PA brif seiadau i'w dewis a ble mae'r seiadau eraill i gyd yn mynd :? Rhowch eich syniadau isod...

Re: Be sydd ei angen ar y wefan yma yw...

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 11:51 pm
gan Cythrel Canu
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Cythrel Canu a ddywedodd:Be sydd wir angen ar y wefan yma yw llai o seiadau! Mae 'na ormod. Sori, ond oedd rhaid dweud.

Mae 34 neu beth yw e' yn hollol boncyrs.


Fi'n cytuno. Bydd nifer y seiadau sydd yn ymddangos ar yr hafanddalen yn cael eu cwtogi yn y dyfodol agos. Bydd strwythr newydd gyda prif seiadau mwy cyffredinol "Cerddoriaeth" "Materion Cyfoes" ayb, ac wedyn is-seiadau. Swnio'n well? Y drafferth yw penderfynnu PA brif seiadau i'w dewis a ble mae'r seiadau eraill i gyd yn mynd :? Rhowch eich syniadau isod...


Hefyd, os modd i ddangos bod ti wedi postio rhywbeth yn barod mewn edefyn heblaw am agor yr edefyn 'na i ffindo mas ?