Gowpi a ddywedodd:Diolch yn fawr Nic - Hedd - ble ti'n mynd i gael yr amser gwed??
Mae 'na bethau...
llyfrau o'n i'n arfer galw nhw. Dw i'n credu bod un neu ddau ambyti'r lle rhywle.
Na, i fod yn onest, dyw e ddim fel mod i wedi bod yn treulio oriau bob dydd ar y maes yn diweddar, a dyna rhan o'r broblem wrth gwrs. Er iddo lwyddo mynegi ei hunan yn y ffordd mwya tebyg i ddieithrio pawb yma, mae Martin Llew â phwynt dilys - mae angen rhywun gyda bach mwy o egni/amser/brwdfredydd ar safle fel hyn. Lan i ryw dwy flynedd yn ôl oedd o leia dau o'r tri peth 'na 'da fi, ond mae'r brwdfrydedd wedi'i erydu gan orfod delio gyda pobl fel Martin ei hun. Fel wedodd rhywun uchod, eironig, ond yw e?
Y sefyllfa diweddara yw bod Hedd yn cymryd drosodd llawn amser ar ôl Nadolig, a bydda i (a'r Gweinyddwyr eraill, os y gallan nhw) yn cadw pethau i fynd tan hynny. Dw i ddim am gyfrannu mwy am sbel, oni bai am sorto ma's unrhyw problemau sy'n debyg i fod yn gyfreithiol difrifol - a bydda i'n wneud hynny yn eitha llawdrwm, mae arna i ofn.
Diolch yn fawr i bob un am y negeseuon cefnogol. Gwela i chi gyd yn y cig fyd.