Tudalen 1 o 10

Nic am ymddeol o'r maes

PostioPostiwyd: Iau 08 Tach 2007 1:25 pm
gan nicdafis
Fel dw i wedi sôn ar y blog yn diweddar, dw i am roi'r gorau i redeg maes-e ymhen rhyw 6 mis. Dw i wedi gofyn i'r criw cymedroli a oes diddordeb 'da rhywun gymryd drosodd, ond does neb hyd yn hyn. Os na fydd neb yn dod ymlaen, bydd y safle yn cau tua diwedd mis Mai blwyddyn nesa, tra bydd credyd y rhan fwya o'r hysbysebwyr wedi dod i ben.

Dim argyfwng fan hyn, jyst teimlo ei bod hi'n amser i mi wneud pethau eraill gyda fy amser.

PostioPostiwyd: Iau 08 Tach 2007 4:01 pm
gan ceribethlem
Pob lwc gyda'r dyfodol Nic, ti'n haeddu hoe ar ol yr holl waith 'ma.

(Er duw a wyr beth wedith y wejen Bwm Bwm :D )

PostioPostiwyd: Iau 08 Tach 2007 4:08 pm
gan Dylan
pob lwc a, wel, diolch! Go brin bod ni'r defnyddwyr cyffredin yn gwybod hanner y stori ynglyn â'r holl shit mae rhaid i ti ddelio ag o oherwydd y maes

PostioPostiwyd: Iau 08 Tach 2007 5:23 pm
gan 7ennyn
Diolch am bob dim Nic! Mae maes-e wedi bod yn un o lwyddiannau mawr y we Gymraeg, mae o wedi bod yn sbardun i lawer i ddatblygu'r rhithfro. Be ddaw yn ei le tybed?

Cofia ddympio'r gronfa ddata i ddisgen cyn cyflawni'r ewthanasia. Dwi'n siwr y bydd o ddiddordeb i rhywyn ymhen 100 mlynedd.

(Helo mawr i bwy bynnag sydd yn darllen hwn yn yr ail ganrif ar hugain.)

PostioPostiwyd: Iau 08 Tach 2007 5:25 pm
gan Positif80
7ennyn a ddywedodd:sbardun
Fy hoff air Gymraeg ar y funud - ynghyd a "parthed".

PostioPostiwyd: Iau 08 Tach 2007 8:58 pm
gan Forschung
Y dyfodol:
GOLWG yn prynu maes-E?
Fforwm Golwg yn bywiogi llwyth ar ol i maes-e gau?
Perthyn pell (neu disgynydd?) i M D Jones yn prynu'r maes?
Mae'r dyfodol yn feirniadol, yn gystadleuol...

PostioPostiwyd: Iau 08 Tach 2007 9:30 pm
gan nicdafis
A ddwedais i fod maes-e ar werth? Dyw e ddim. Os na fydd neb yn fodlon gymryd drosodd, bydd y safle yn cau diwedd mis Mai.

PostioPostiwyd: Iau 08 Tach 2007 9:43 pm
gan Forschung
Dwi'n siwr y byddai Golwg yn fwy na pharod i gynnig pris eitha hael?
Ti wedi adeiladu ty ar graig (ond mae gwir angen estyniad uchelgeisiol hefo llwyth o westeion newydd- parti cwl bywiog) o ansawdd eitha da- ti'n haeddu mymryn o wobr a chydnabyddiaeth.

PostioPostiwyd: Iau 08 Tach 2007 10:27 pm
gan nicdafis
Pa rhan o "ddim ar werth" sy ddim yn glir i ti? Dim ond yn dy ffantasiau Munchausenaidd di mae'r perthynas rhwng fi, Michael D. Jones a golygyddion Golwg yn bodoli.

PostioPostiwyd: Iau 08 Tach 2007 10:38 pm
gan 7ennyn
Ahem...
morfablog a ddywedodd:Dw i’n rhagweld taw 2008 fydd blwyddyn ola maes-e.com, oni bai mod i’n gallu ffeindio brydfrydedd newydd ynddo fy hunan, neu ffeindio rhywun arall sydd am gymryd drosodd. Neu efallai ei werthu.