Tudalen 3 o 10

PostioPostiwyd: Sad 10 Tach 2007 5:06 pm
gan Forschung
Ceribethlem- a wyt yn gobeithio y bydd Hedd yn codi'r maes i'r lefel nesaf ynteu a wyt yn gobeithio y bydd yn parhau ar y lefel presennol?
Mae'r petha Cymraeg 'ma yn gallu bod mor clici a di-glem yntydi?!

Rhaid gofyn y cwestiwn paham fod pobl fel Saunders Lewis (boi od- ond hynod o glyfar a difyr) wedi trafferthu poeni am Gymru a'r Gymraeg?!

Chwilfrydedd deallusol- ia, wel...

PostioPostiwyd: Sad 10 Tach 2007 5:12 pm
gan ceribethlem
Forschung a ddywedodd:Ceribethlem- a wyt yn gobeithio y bydd Hedd yn codi'r maes i'r lefel nesaf ynteu a wyt yn gobeithio y bydd yn parhau ar y lefel presennol?
Mae'r petha Cymraeg 'ma yn gallu bod mor clici a di-glem yntydi?!
Nid eiddio i Gymru gyfan yw maes-e. Eiddo nic ydyw. MAe e lan iddo fe beth mae'n gwneud a hi. Os mai Hedd sy'n cymryd yr awenau'n llwyr, yna fe fydd yn eiddo iddo fe, ac fe fyddai'n parchu'r hyn bydd e' ishe gwneud. Yn hynny o beth does dim "lefelau" yn bodoli, dim ond yr hyn mae'r perchenog yn ei ddymuno gweld yn digwydd.

PostioPostiwyd: Sad 10 Tach 2007 5:33 pm
gan Forschung
Dwi'n gwrando ar O Ble dest di (Nia Medi) ar myspace wrth sgwennu'r neges yma. Faint o weithiau mae'r trac yma wedi cael ei chwarae mewn disgos prif ffrwd yng Nghymru ar nos Sadwrn?
Ia, y diwylliant bregus Cymraeg yma yn mynd i'r lefel nesaf!
Pob lwc i HG- mae'r her yn un enfawr.
Ac mae HG wedi sgwennu llai o negeseuon cas, sbeitlyd, personol, hyll, diddychymyg , a THWP, na chdi neu Mr Davies yn ystod bodolaeth maes-e.

Tydi fforwm iaith leiafrifol ddim yn ddiddorol heb fymryn o fomentwm...
Rhaid i'r perchennog newydd ddeall pa mor bwysig y bydd y syniad o chwa o awyr iach, momentwn a bywiogrwydd yn ystod wythnosau cyntaf y cyfnod newydd. Os na ellir dirnad hyn yna mae perygl i'r peth fynd yn stĂȘl.

PostioPostiwyd: Sad 10 Tach 2007 6:08 pm
gan Forschung
ceribethlem a ddywedodd:Nid eiddio i Gymru gyfan yw maes-e.

Efallai nad wyt yn deall fod nifer o'r aelodau yn cyfranogi o du allan i Gymru?
Mae'n amhosibl mynd i'r lefel nesaf heb fymryn o ystwythder meddyliol.

PostioPostiwyd: Sad 10 Tach 2007 6:09 pm
gan SbecsPeledrX
Forschung a ddywedodd:Y dyfodol:
GOLWG yn prynu maes-E?
Fforwm Golwg yn bywiogi llwyth ar ol i maes-e gau?
Perthyn pell (neu disgynydd?) i M D Jones yn prynu'r maes?
Mae'r dyfodol yn feirniadol, yn gystadleuol...


Pam wyt ti wedi penderfynnu ildio'r awennau Nic?

:lol: :lol: :lol:

PostioPostiwyd: Sad 10 Tach 2007 6:30 pm
gan Forschung
Pob clod i Mr Davies a'i hobi-cyfraniad gwerthfawr.
Ond, fel llawer o bethau Cymraeg, rhyw rech mewn gale ydi'r dyfarniad hyd yn hyn- rhaid canmol y ty ar graig- ond mae plasdy llawer iawn mwy diddorol na rhyw fwthyn- mwy o le i bobl newydd- drws ffrynt llawer lletach! Bydd chwa o awyr iach ac haul ar fryn Hedd yn cael gwared ar y wopi cushion amaturaidd-(h.y. o ran eangfrydedd,difyrrwch ac amrywiaeth syniadau heriol), yma.
Ond Mr Gwynfor- paid a gofyn am grant gan BYIG ac yna dangos yr adeilad ar 4Wal- ni fydd gan wir werin Cymry ddiddordeb mewn ryw shit dosbarth canol fel yma.
Plasdy dirodres a chroesawgar (sydd hefo perchennog clen sydd ddim yn mynd i gynhyrfu'n lan a dweud "ffyc ~#" i westeion munud mae nhw yn meiddio dweud rhywbeth ychydig bach yn wahannol i'r arferol a thyllu'n ddyfnach.)

PostioPostiwyd: Sad 10 Tach 2007 6:57 pm
gan 7ennyn
SbecsPeledrX a ddywedodd:
Forschung a ddywedodd:Y dyfodol:
GOLWG yn prynu maes-E?
Fforwm Golwg yn bywiogi llwyth ar ol i maes-e gau?
Perthyn pell (neu disgynydd?) i M D Jones yn prynu'r maes?
Mae'r dyfodol yn feirniadol, yn gystadleuol...


Pam wyt ti wedi penderfynnu ildio'r awennau Nic?

:lol: :lol: :lol:

Ia, mae'n dipyn o ddirgelwch yn dydi? :lol:

PostioPostiwyd: Sad 10 Tach 2007 7:09 pm
gan Forschung
Gan obeithio y bydd y perchennog newydd yn tyllu'n ddyfnach. :x
Neges i'r darpar-berchennog newydd:
Ble mae'r Stephen Fry, Will Self neu Boris Johnson Cymraeg? Chwilia amdanyn nhw ac agora'r drws ffrynt i'w croesawu. Y lefel nesaf.
Mae nhw braidd yn posh- ond croeso i bawb-ond o leia tydyn nhw ddim yn ddi-fflach fel rhai-nid pawb cofiwch, o aleodau mwya cegog a clicaidd maes-e.
Adran Chwaraeon BBC- ble mae'r Sid Wardell (dartiau) Cymraeg?
Y boi yna yn mwydro hefo'i ddwylo cadarn ar y rhaglen Tipit- pori mewn gwahanol gae bois bach.Un dart- byrstio'r wopi cushion. 2il ddart- ffwc o stingar ym mhen ol y diwylliant Cymraeg-deffroad.
3ydd dart- ar y ffordd i'r "9 dart finish".
Sori- ond tydi dychmygu Golwg yn prynu neu cymryd drosodd maes-e ddim yn syniad mor wirion a hynny. :!:

PostioPostiwyd: Sad 10 Tach 2007 7:25 pm
gan Dylan
licio'r ffordd mae Martin, ers ei ddyfodiad diweddara ar y maes, wedi ymdrechu i gadw taw ar y rhan fwyaf o'i brif giveaways (er nid yn llwyddiannus iawn). Ond rwan mae o jyst 'di rhoi fyny'n llwyr ar hynny a methu helpu'i hun efo'r mwydro 'ma. Dw i jyst yn aros am y "BEIDDGAR" rwan i goroni'r cyfan.

jyst nyts

PostioPostiwyd: Sad 10 Tach 2007 7:38 pm
gan Forschung
Ia, byddem yn disgrifio R Brunstrom fel rhywun beiddgar a diddorol sy'n gwneud byd o les i Gymru a'r Gymraeg (yn wahanol i rai.)

Wyddost ti be, Dylan? Mae'n rywun hefo mymryn o ddychymyg sydd hefo'r gallu i feddwl drosto'i hun- ti'n aleod o'r pac o fleiddiaid?