Tudalen 7 o 10

PostioPostiwyd: Llun 12 Tach 2007 1:09 pm
gan CORRACH
Henffych and Cheers.
Paid treulio'r amser sbar i gyd yn nhafarndai Langrannog!

PostioPostiwyd: Llun 12 Tach 2007 5:23 pm
gan nicdafis
Gowpi a ddywedodd:Diolch yn fawr Nic - Hedd - ble ti'n mynd i gael yr amser gwed??


Mae 'na bethau... llyfrau o'n i'n arfer galw nhw. Dw i'n credu bod un neu ddau ambyti'r lle rhywle.

Na, i fod yn onest, dyw e ddim fel mod i wedi bod yn treulio oriau bob dydd ar y maes yn diweddar, a dyna rhan o'r broblem wrth gwrs. Er iddo lwyddo mynegi ei hunan yn y ffordd mwya tebyg i ddieithrio pawb yma, mae Martin Llew â phwynt dilys - mae angen rhywun gyda bach mwy o egni/amser/brwdfredydd ar safle fel hyn. Lan i ryw dwy flynedd yn ôl oedd o leia dau o'r tri peth 'na 'da fi, ond mae'r brwdfrydedd wedi'i erydu gan orfod delio gyda pobl fel Martin ei hun. Fel wedodd rhywun uchod, eironig, ond yw e?

Y sefyllfa diweddara yw bod Hedd yn cymryd drosodd llawn amser ar ôl Nadolig, a bydda i (a'r Gweinyddwyr eraill, os y gallan nhw) yn cadw pethau i fynd tan hynny. Dw i ddim am gyfrannu mwy am sbel, oni bai am sorto ma's unrhyw problemau sy'n debyg i fod yn gyfreithiol difrifol - a bydda i'n wneud hynny yn eitha llawdrwm, mae arna i ofn.

Diolch yn fawr i bob un am y negeseuon cefnogol. Gwela i chi gyd yn y cig fyd. ;-)

PostioPostiwyd: Llun 12 Tach 2007 7:35 pm
gan Ioan_Gwil
diolch nic!

PostioPostiwyd: Maw 13 Tach 2007 4:41 am
gan Mali
Gair i ddweud diolch yn fawr iawn i ti Nic am maes-e. Pan wnês i gychwyn sgwennu i'r maes tua pedair blynedd yn ôl :ofn: , 'roeddwn wedi gwirioni cael hyd i negesfwrdd lle fedrwn i sgwennu yn Gymraeg yn unig. 8)
Hyd y gwn i , tydwi rioed wedi cyfarfod maeswyr eraill , gan mod i'n byw mor bell o Gymru. Ond dwi wedi dod i gysylltiad a llawer o bobl cŵl yng Nghymru a dros y byd a dwi 'di cael lot o hwyl.
Lwc dda i ti , a boed i'r hwyl barhau efo Hedd.

PostioPostiwyd: Maw 13 Tach 2007 11:15 am
gan SerenSiwenna
osian a ddywedodd:Ai y ffaith bod hi'n 12:49 nos sadwrn ydio ta di Forschung yn malu cachu'n llwyr?


:lol:

PostioPostiwyd: Maw 13 Tach 2007 11:31 am
gan SerenSiwenna
Delwedd

Diolch am bopeth Nic - y mae'r maes yma wedi helpu fi i ail-ymunoa'r diwylliant Cymraeg tra'n byw allan yma yn Lerpwl....mae gobaith gen i rwan o symud nol rhyw ddydd.

Pob lwc i ti Hedd 8)

PostioPostiwyd: Maw 13 Tach 2007 4:10 pm
gan Wierdo
Waaa dwi'n ara deg yn gweld hwn...eitha balch bo fi di methu'r mwydro gin un person penodol fuodd cyn hyn ddo!

Diolch yn fawr Nic! Does dim mwy allai ddweud!!!

Pob lwc Hedd!!

PostioPostiwyd: Maw 13 Tach 2007 5:13 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Duw duw, byd o newid yn mynd 'mlân ma. :ofn:
Diolch yn fawr am y blynydde d'wetha' Nic wus, a phob lwc i'r aer!

PostioPostiwyd: Maw 13 Tach 2007 10:33 pm
gan osian
SerenSiwenna a ddywedodd:
osian a ddywedodd:Ai y ffaith bod hi'n 12:49 nos sadwrn ydio ta di Forschung yn malu cachu'n llwyr?


:lol:

Taswn i'n fwy sobor swn i ddim hydnoed di meddwl gofyn cwestiwn mor wirion

PostioPostiwyd: Mer 14 Tach 2007 10:19 am
gan khmer hun
Pob hwyl i ti Nic, a diolch am roi cystal lle i ni farnu a chystadlu, a pheri i sawl peth o bwys ddigwydd yn y diwylliant Cymraeg, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, fel y wobr RAP am gyfraniad oes a gafodd David R Edwards un flwyddyn.

Swn i wedi hoffi tase rhywun wedi cywiro sillafiad Wierdo o weirdo. Ond na fe, allwch chi'm cael popeth yn y byd ma.

Am drio neud limrig coffa achos dyna'r edevin joies i fwya yma.