Tudalen 8 o 10

PostioPostiwyd: Mer 14 Tach 2007 11:57 am
gan HuwJones
Jyst i ddweud llawer o ddiolch NIc am dy holl waith... a da iawn Hedd am gymryd drosodd

Mi brynaf beint i'r ddau ohonoch rhywbryd!

Huw

PostioPostiwyd: Mer 14 Tach 2007 2:17 pm
gan Sili
khmer hun a ddywedodd:Swn i wedi hoffi tase rhywun wedi cywiro sillafiad Wierdo o weirdo. Ond na fe, allwch chi'm cael popeth yn y byd ma.


Nesi drio perswadio hi oes n'ol. Gesi'r ateb fod hi'n lecio'i sgwennu fo fel tasai'n ddeud o a mai'n lecio bod yn boen tin :winc:

PostioPostiwyd: Iau 15 Tach 2007 5:52 am
gan Ray Diota
khmer hun a ddywedodd:
Swn i wedi hoffi tase rhywun wedi cywiro sillafiad Wierdo o weirdo.


Delwedd


Am drio neud limrig coffa achos dyna'r edevin joies i fwya yma


iep! na beth odd joio... am drio 'fyd. joio byw!

PostioPostiwyd: Iau 15 Tach 2007 11:19 am
gan nicdafis
Dw i ddim wedi marw, bois. ;-)

PostioPostiwyd: Iau 15 Tach 2007 12:23 pm
gan Macsen
Bydd rhaid i Hedd newid ei enw i 'Ymryson' neu rywbeth.

PostioPostiwyd: Iau 15 Tach 2007 12:43 pm
gan khmer hun
Oi, Diota - o'n i wedi cadw hwnna'n dawel ers tua 4 blynedd, so gad fi fod y cwrcyn. Mwy o le mas na sy' mewn.

PostioPostiwyd: Iau 15 Tach 2007 3:32 pm
gan Blewyn
Shukran Nic, oddiwrth rhywun sydd wedi ailgysylltu a'r diwylliant Cymraeg (a gwella ei iaith yn aruthrol) drwy maes-e.

Masalaama

PostioPostiwyd: Iau 15 Tach 2007 3:55 pm
gan SerenSiwenna
nicdafis a ddywedodd:Dw i ddim wedi marw, bois. ;-)


:lol: :lol: ia ond chi'n gadael ac mae'n testyn i faint mae'r maes ma di feddwl i ni gyd pa mor siriws mae pobl yn cynryd o yntydi...mae'n historic moment....does dim geiriau gen i i gyfleu pa mor falch ydw i fod ti di sefydlu'r maes, na pa mor wahannol yw fy mowyd i'n bersonnol oherwydd i mi ffeindio'r maes.....ella dylen ni gael parti yma yn yr ehedyn - parti ffarwelio Nic Dafis.

Wnai gychwyn - Dyma'r presantau, clock, oriawr.....

Nawr te, da ni gyd di bod yn mwydro mewn i'n hancesau am dy waith caled a faint da ni'n gwerthfawrogi ac yn dy edmygu di....hen bryd i'r hen Nic dweud gair neu ddwy: Speeeeech, speeeeech....bit of hush now i Nic cael deud gair:

PostioPostiwyd: Gwe 16 Tach 2007 1:59 pm
gan SerenSiwenna
ahem, Seren yn galw Mr.Dafis, tyrd mewn Mr.Dafis...

Delwedd

PostioPostiwyd: Sul 18 Tach 2007 12:05 am
gan Waen
Dw i ddim wedi marw, bois.


Ie Ie.... disgwyl i ni choelio hyn?
dim farce o berig!
Colli mynedd, ymddeol a wedyn marw ....dyna trefn pethau...
a wel ...pryd mae'r angladd :(