Tudalen 1 o 2

Ystadegau maes-e 2007

PostioPostiwyd: Sul 30 Rhag 2007 2:17 pm
gan Rhys Llwyd
O ran niferoedd blwyddyn arall o ostyngiad sylweddol:

Delwedd

Siart far year on year yn dangos hyn yn glir:

Delwedd

Mae'r graff yma yn dangos twf/cwymp maes-e o flwyddyn i flwddyn mewn canrannau o negeseuon o'i cymharu a negeseuon y flwddyn ddilynol:

Delwedd

Trafoder!!!!

Yn ogystal a bod 'ffad' maes-e 2004/2005 wedi hen basio heibio dwi'n meddwl mae Facebook ac nid myspace sydd wedi dwyn y miloedd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae gwefanau fel Facebook llawer mwy 'dynamic' na byrddau trafod phpBB. Dwi ddim yn meddwl fod perthyn wedi dwyn llawer o'r maes, sy'n drist mewn ffordd.

PostioPostiwyd: Sul 30 Rhag 2007 3:40 pm
gan Ari Brenin Cymru
I fod yn berffaith onest dwi'n meddwl fod oes maes-e ar ben. Fel ti'n deud fallai ma bai facebook di hyn. Wrth i lai o bobl bostio mae llai o betha i bobl ddarllan a mae hyn yn 'vicious circle' mewn ffordd a mae'r lle yn tueddol i fod yn ddiflas, dyma marn i am y flwyddyn dwythaf ta beth.

On in arfar logio fewn bob diwrnod bron iawn, ac yn aml iawn hon oedd y wefan gynta i mi edrych arno yn y dydd, ond dyddia ma fyddai mond yn logio fewn bob ryw 3 diwrnod a wedi hynny mond sganio drwy petha, heb rili cymyd diddordeb. Mae'r lle fel tasa fo wedi colli ei sbarc, dwnim pam, just fela ma fforyma ar lein, un munud ma nhw'n brysur iawn a tro wedyn ma nw wedi marw.

Yr unig beth da ar ol dwi'n credu ydy y seiat gigs.

Ac efo dy sylw am perthyn, wel dwi rioed di clwad amdano felly dwi'm yn meddwl fod o wedi cael effaith mor fawr a hynny felly!

PostioPostiwyd: Sul 30 Rhag 2007 3:47 pm
gan Rhys Llwyd
Dwi'n meddwl fod 'world events' yn effeithio ar maes-e. Dros y flwyddyn ddiwethaf roedd mis ebrill a mai yn reit brysur a hynny oherwydd yr etholiadau. Yn yr un modd rhai blynyddoedd yn ol roedd helynt mawr y rhyfel ac Irac wedi bywiogi llawer o drafodaeth ar y maes. Efallai fod angen 'event' mawr yn hanes Cymru i fywiogi pethau eto.

Asasineiddio Dafydd Iwan? Ynysg Mon yn datgan Annibyniaeth? Unrhyw awgrymiadau?

PostioPostiwyd: Sul 30 Rhag 2007 5:52 pm
gan Macsen
Gwefannau fel Facebook neu LinkedIn yw'r dyfodol mae arna'i ofn. Heblaw bod rywun yn creu fersiwn Cymraeg o Facebook sy'n edrych yn dda ac sydd yn defnyddio Cymraeg cywir does dim llawer o obaith denu'r Cymru Cymraeg oddi yno. Ond does dim gymaint a hynny o otsh bod rhyngwyneb Facebook yn Seasneg - mae pawb dal i weld yn siarad Cymraeg arno r'un fath. A mae cael gwared o'r 'is' yn awgrymu eu bod nhw am fynd lawr trywydd gwneud Facebook yn fwy hyblyg yn ieithyddol.

Roedd hi'n teimlo ar un adeg fel y byddai Maes-E yn dal i dyfu a tyfu tan bod pob Cymro Cymraeg ar y peth. Ond does gan nifer o bobol jesd ddim diddordeb mewn dadlau ymysg ei gilydd ar y we. Wn i'm faint o werth oedd i'r dadlau chwaith - mae'r rhan fwyaf yn cytuno gyda'i gilydd i ddechrau a mae'r llond llaw o rai fu'n anghytuno wedi aros yn gyndyn erioed. Defnydd gora Maes-E oedd fel lle i hysbysebu a trafod gigiau.

Ar lefel unigol fuodd Maes-E yn fwya o lwyddiant dwi'n meddwl. Dwi'n siwr ei fod o wedi rhoi mwy o hyder i bobol wrth ddefnyddio eu Cymraeg. Doeddwn i'm yn sgwennu na darllen yn y Gymraeg cyn i Maes-E gael ei greu, ac yn hyfforddi i fod yn newyddiadurwr drwy'r Seasneg, erbyn hyn dw i'n gweithio i gwmni cwbwl Gymraeg ac yn sgwennu/darllen yn yr iaith drwy'r dydd, ac efo MA drwy'r Gymraeg. Bai Nic yw'r cwbwl!

PostioPostiwyd: Llun 31 Rhag 2007 11:02 am
gan Pogo
Dwi'n anghytuno, Macsen.

Aelod o sawl negesfwrdd ydw i, a dyn nhw ddim wedi colli eu fflach o bell ffwrdd. Er enghraifft, mae politics.ie, sy'n defnyddio yn gwmws 'run fformat a maes-e yn mynd o nerth i nerth, gyda mwy o negeseuon pob flwyddyn. Engraifft arall yw boards.ie.

Yn bersonol, dwi o'r farn bod agwedd 'gor-nanny-aidd' Nic sy'n gyfrifol i ryw-raddau am y gostwng yn y nifer sy'n cyfrannu i'r maes. Hefyd, yn anffodus, dwi'n meddwl y bydd traffig ar y maes yn mynd i fod yn llai fyth gyda Hedd ar y llyw.

Nawr, dwi ddim esiau dechrau rhyw ddadl babanaidd fel 'ffasgwyr yw'r cymerodolwyr', achos dyw dadl fel na ddim yn dal dwr. Pobl neis iawn yw Nic a Hedd, a dyma'r problem. Nid yw aelodau fel GT a finnau a rhai eraill yn ymuno a negesfwrdd er mwyn bod yn neis neis i'w gilydd. Felly, rydym yn fflamio ein gilydd ar negesfyrddau eraill, gan ddefnyddio'r iaith fain.

Yn bendant, mae dau weithred Nic wedi peri i bostio ar negesfyrddau Saesneg eu hiaith. Yn gyntaf, cau'r seiad gwleidyddiaeth am gyfnod hir. Yn ail, cau'r maes yn llwyr am fygythiadau cyfreithiol. Yn amlwg, mae Nic yn dreial ei orau glas osgoi controfersi. Ond, yn anffodus, mae negesfyrddau yn ffynnu, os ydynt, i ryw raddau yn controfersial. Nid yw dadlau yn hwyl os yw pawb yn gytun.

Dwi'n meddwl bod maes-e yn hanfodol i ddyfodol y Gymraeg. Dyma'r unig wefan Cymraeg gyda thraffig. A dwi wedi sylwi bod rhai Cymry ifanc a oedd yn blogio yn Gymraeg wedi dechrau blogio yn Saesneg.

Mae dyfodol yr iaith yn fregus iawn, iawn, ac os nad yw'r Gymraeg yn cael eu defnyddio ar y we, nid oes fawr o obaith iddi yn yr oes rydym yn byw ynddi. Gobeithio yn fawr y bydd y cymerodolwyr yn gwneud y wefan mor atyniadol a phosibl, yn enwedig i bobl ifanc, os ydyn nhw am hybu defnydd y Gymraeg.

PostioPostiwyd: Llun 31 Rhag 2007 11:26 am
gan Hogyn o Rachub
Dw i'n anghytuno efo Macsen hefyd: wrth gwrs, mae Facebook ac ati yn fwyfwy poblogaidd ond dydyn nhw'm yn cymryd lle Maes E fel rhywle i drafod, a phrin y gwnant.

Dw i'n meddwl un o'r prif bethau bod cymaint o bethau wedi cael eu trafod yn barod a 'sneb yn gwybod beth i drafod bellach. Gweler ddirywiad y traddodiadol "Edefyn Malu Cachu", lle mae pobl jyst yn postio negeseuon dwl a hwyl yn y Blwch Tywod. Dydyn nhw'm i'w cael rwan yn aml, ac ond am ambell i edefyn yn y seiadau Gwleidyddiaeth, Cerddoriaeth a Chwaraeon, dyma'r rhai fu fwyaf poblogaidd.

Ac er bod Pogo yn cyfeirio at y cymedroli, rhaid cofio hefyd bod rhai yn mynegi barn gref yn y seiadau Cerddoriaeth a Gwleidyddiaeth, ac mae 'na lawer o snobyddiaeth o fath i'w cael yn y ddau. E.e. pe bai rhywun yn cychwyn edefyn i drafod caneuon Bryn Fon yno o fewn dim o amser byddai 'na garfan sy'n mynd yno dim ond er mwyn mynnu "bod Bryn Fon yn crap a dw i'n ei gasau", heb isio trafod ond yn hytrach bychanu.

A hefyd, pan fydd rhywun yn dechrau trafodaeth newydd sydd wedi cael ei drafod tua blwyddyn yn ol, mae rhywun yn codi'u pen ac yn eu cyfeirio at yr edefyn gynt yn lle gadael i drafodaeth ddatblygu'n naturiol.

Hefyd, mae lot o'r rhai fu'n arfer darllen ac ysgrifennu ar Faes E sydd tua'r un oed a mi wedi stopio cyfrannu, mwy na thebyg oherwydd eu bod nhw'n gorfod astudio rhywfaint neu cael job. Pan oeddwn i'n gwneud hyfforddiant fel athro, wnes i ddim blogio na mynd ar y Maes llawer, a'r unig reswm dw i'n dal i wneud y ddau cymaint ag erioed ydi oherwdd fy mod i'n eu gwneud yn y gwaith (ar ol dod adref sgen i'm mynadd gwneud. A dylwn i heb ddweud hynny fan'ma, na ddylwn?).

Un peth sydd yn ddiddorol, fodd bynnag, ydi bod nifer yr aelodau i'w weld i gynyddu o hyd, ac wn i ddim pam?

PostioPostiwyd: Maw 01 Ion 2008 1:07 am
gan GT
Ffordd o ddadlau ymhlith pobl efo gormod amser ar eu dwylo a dim digon o bobl sydd eisiau dadlau efo nhw yn eu bywydau cig a gwaed ydi maes e - dim arall. Does a wnelo'r cyfrwng ddim oll a dyfodol y Gymraeg.

Pe na bai'r maes erioed wedi bodoli ni fyddai'r Gymraeg yn marw eiliad ynghynt (nid ei bod yn debygol o farw beth bynnag).
Dydi iaith ddim yn cael ei chynnal yn y rhithfro. ar y stryd, yn y siop, yn yr ysgol, yn y dafarn, yn y garej, yn y cor, yn y capel, ac yn bwysicach na dim yn y cartref mae'r Gymraeg yn gwreiddio yn ymwybodaeth pobl ac yn tyfu.

PostioPostiwyd: Maw 01 Ion 2008 1:34 am
gan Chip
Nage cafodd maes-e ei dechrau jest am fod yn cael i weld fel syniad da i'w wneud. dim am fod angen datblygiad ar y we yn y gymraeg er mwyn cadarnhau yr iaith gymraeg yn maesydd modern a'i helpu i oresu i'r byd modern. Mae'n anhygoel weld sut mae'r maes wedi tyfu heb bron dim hysbysebi. Os mae'r peth yn cael ei troi i sylfaen o'r iaith cymraeg, a gwasgedd yn cael ei rhoi arno i cadw tyfu mae'r peth yn dod yn an-naturiol. Byddai well gen i weld maes-e yn lleihau yn lle ei gorfodi i cadw cynyddi er mwyn pwrpas cynydd.
Wrth gwrs bod mwy o trafod yn mynd i bod ar dechrau forwm trafod ond mae dal digon o bywyd ynddo. Er fy mod ond wedi ymuno rhyw blwyddyn yn ol effallai, felly dwi ddim yn gwybod sut oedd y twf yn 2004 ish.

PostioPostiwyd: Maw 01 Ion 2008 3:12 am
gan jammyjames60
Mae Maes-E wedi gwella fy Nghymraeg ysgrifennedig o leia' felly mae o wedi achub yr iaith mewn ffordd personol.

Os nad oedd Maes-E, 'swn i'm 'di bod mor hyderus yn ysgrifennu yng Nghymraeg, nag ychwaith yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen yn yr SRG hefo'r gigiau a senglau newydd yn dwad allan, felly, gall[b] Maes-E bod yn arf ym mharhad yr iaith.

PostioPostiwyd: Maw 01 Ion 2008 10:59 am
gan Pogo
GT a ddywedodd:Ffordd o ddadlau ymhlith pobl efo gormod amser ar eu dwylo a dim digon o bobl sydd eisiau dadlau efo nhw yn eu bywydau cig a gwaed ydi maes e - dim arall. Does a wnelo'r cyfrwng ddim oll a dyfodol y Gymraeg.


Cywir ac anghywir.

Rwyt ti llygad dy le awgrymu taw y 'rhithfro' yw man cyfarfod y rhai efo gormod o amser ar eu dwylo.

Base'n well gen i taswn i'n gwneud marc yn y byd go iawn na cael fy adnabod fel 'cymeriad' ar sawl negesfwrdd.

Ond yn ddi-os mae negesfyrddau Cymraeg eu hiaith yn berthnasol i ddyfodol y Gymraeg yn 'run ffordd a teledu Cymraeg, radio Cymraeg, papurau newydd Cymraeg, llyfrau Cymraeg ac yn y blaen.

Yn bersonol, dwi ddim yn prynu papurau newydd, dwi'n gwylio'r teledu yn anaml iawn, a nid oes amser na amynedd gen i brynu llyfrau, ac felly y we yw'r cyfrwng pwysicach yn fy mywyd. Dwi'n siwr bod hyn yn wir am y rhan fwyaf o bobl, yn enwedig pobl ifanc, y dyddiau hyn, A baswn i'n awgrymu bod y rhan helaeth o Gymry Cymraeg sy'n ymweld a'r we yn gyson, yn treulio eu hamser mewn safleoedd Saesneg eu hiaith yn bennaf.

Pe na bai'r maes erioed wedi bodoli ni fyddai'r Gymraeg yn marw eiliad ynghynt (nid ei bod yn debygol o farw beth bynnag).


Dwi ddim o'r barn y bydd yr iaith yn marw. Mae'n debygol mynd yr un ffwrdd a'r Wyddeleg, hynny yw iaith swyddogol a ddefnyddir gan y rhai sy'n cael eu cyflogi i'w defnyddio ac ychydig o 'grancs'.

Dydi iaith ddim yn cael ei chynnal yn y rhithfro. ar y stryd, yn y siop, yn yr ysgol, yn y dafarn, yn y garej, yn y cor, yn y capel, ac yn bwysicach na dim yn y cartref mae'r Gymraeg yn gwreiddio yn ymwybodaeth pobl ac yn tyfu.


Y dyddiau hyn, mae'r iaith yn cael eu defnyddio fel iaith gymunedol dim ond yn yr hen Wynedd, ond am ba hir?

Ni all yr iaith goroesi mewn Cymraegtacht bychain sy'n dechrau yn y Felinheli. Ni all iaith ffynnu fel patois a defnyddir gan llai na chan mil o bobl er mwyn cyfathrebu gyda chymodogion a theulu yn unig. Rhaid cofio hefyd bod y rhan helaeth o bobl sy'n siarad Cymraeg yn byw tu allan i'r 'fro', ac i lawer iawn o bobl y we yw'r unig cyfle sydd ganddynt i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.