Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Maw 01 Ion 2008 8:31 pm
gan dewi_o
Dwi'n eitha newyd i ddefnyddio Maes-E ond wedi mwynhau'r misoedd diwethaf yr wyf wedi bod wrthi. Dwi'n credu bod le pwysig i'r Maes, mae'n ffordd i ni gyfarthrebu a trafod yn y Gymraeg mewn ffordd na fuasai'n bosib heb Maes-E.

Pob lwc i'r Maes a goeithio wneith i barhau am flynyddoedd i ddod.

PostioPostiwyd: Maw 01 Ion 2008 11:02 pm
gan Jon Bon Jela
Dwi'n meddwl bod maes-e yn ffab ac yn shait ar yr un pryd. Mae'r negesfwrdd yn gyntefig, a gellir ei chymharu a hen gopi VHS knackered o Nel neu Branwen roedd athrawon Cymraeg yn yr ysgol yn mynnu dangos deirgwaith yr wythnos i ddosbarth hollol bored o blant.

Ydy, mae ar ben yn sicr a doeth fyddai dod a'r cwbl i ben ym mis Mai fel mae Nic yn crybwyll. Ond mae brand 'maes-e' yn un eithaf pwerus a dwi'n credu y bydd hi'n syniad da i ddefnyddio'r enw fel porthladd i holl gynnwys Cymraeg y we.

PostioPostiwyd: Iau 03 Ion 2008 8:42 pm
gan Gwyn Eifyd
ydi hi'n bosib dangos ystadegau am y seiats mwya poblogaidd Rhys?? (sori sgin i ddim syniad be ydi'r lluosog am 'seiat') ... cerddoriaeth cymraeg., chwaraeon, tv, materion cymru ayb.

sa'n diddorol gweld os ydi defnydd rhai seiats wedi disgyn yn waeth na rhai eraill. mae pobl wastad yn bangio on am y ffaith fod yr SRG mor iach cymharu efo 5 mlynedd yn ol, er enghraifft -sgwn i os ydi'r ystadegau yn adlewyrchu hyn?

PostioPostiwyd: Iau 03 Ion 2008 11:34 pm
gan Madrwyddygryf
Tybiaf bod datblygiad Band-eang sydd ar fai. Dwi'n cofio dechrau defnyddio Maes-e yn y dyddie cynnar, lle roedd raid defnyddio linell ffon er mwyn mynd ar y we (harglwyd mae'n swnio mor hen ffasiwn). Y adeg hwnnw wrth gwrs, dim ond gweld lluniau ac darllen testun oeddech yn gallu gwneud, felly roedd eich dewis o beth gallech gweld ar y we yn gyfyng. Dyma sut, dwi'n credu, sut wnaeth Maes-E ffynnu.

Gyda band-eang wrth gwrs, mae'r dewis o beth rydych yn gallu gwneud yn anhygoel. Felly mae Maes-e yn gorfod cystadlu erbyn rhain, wyneblyfr, maes-peis a iwtiwb.

Wrth gwrs, roedd fforwm o drafod trwy cyfrwng Cymraeg yn hollol newydd pan lawnsiwyd y wefan ac rhywbeth eitha speshial i bobl oedd yn cymeryd rhan. Mi ddois i adnabod lawer o bobl yn gymdeithasol trwy Maes-e. Dwi dal yn mwynhau cymeryd rhan yn Maes-E yn ddyddiol, ond mae'r wefr arbennig roeddwn yn cael ar y gychwyn wedi mynd erbyn hyn.

Ond dyma beth sydd yn digwydd i bobmath o wefannau fel Maes-E, Maes-Peis ac Iwtiwb. Mae nhw yn syrthio mewn i ffasiwn ac allan wedyn.Pan dechreuais defnyddio Facebook am y tro gyntaf, roedd yn hollol wefreiddiol i deud y lleiaf. Roeddwn yn meddwl bod o'n wych bod fi'n gallu cadw cyswllt gyda ffrindiau neu ail-gysylltu a hen ffrindiau. Ond dwi'n dechrau blino ar dileu ceisiadau gan rhai bobl (Beer request, snowball fight, hug requests), neu troi lawr wahoddiadau i ymuno ar grwp arall.

PostioPostiwyd: Iau 03 Ion 2008 11:46 pm
gan Mihangel Macintosh
Madrwyddygryf a ddywedodd:roedd fforwm o drafod trwy cyfrwng Cymraeg yn hollol newydd pan lawnsiwyd y wefan...


Nagoedd Madrwyddgryf - Esblygiad o fforwm drafodaeth Gymraeg a daeth i ben yn sgil dadlau difrifol oedd maes-e.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ion 2008 12:12 am
gan Madrwyddygryf
Mihangel Macintosh a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:roedd fforwm o drafod trwy cyfrwng Cymraeg yn hollol newydd pan lawnsiwyd y wefan...


Nagoedd Madrwyddgryf - Esblygiad o fforwm drafodaeth Gymraeg a daeth i ben yn sgil dadlau difrifol oedd maes-e.


wedi'w nodi. Thanciw. :D

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 12:42 pm
gan eusebio
Un rheswm am fy ngwymp i mewn cyfraniadau ( a 'dwi'n dweud hyn fel y cyfrannwr mwyaf swnllyd er i mi beidio â chyfrannu'n rheolaidd ers acha') oedd fod Cymru mor fach nes fod pawb eisiau gwybod "pwy wyt ti ar maes-e ta?" ... wel roedd hynny'n golygu nad oedd y rhyddid yna i ddweud fy nweud - cuddio tu ôl i ffug enw ella, ond hefyd sylweddoli fod llawer o'm cydweithwyr (a rheolwyr) yn darllen ac yn gwybod pwy oedd eusebio yn y cig-fyd.

Mae Cymru Cymraeg yn wlad rhy fach ar un ystyr!

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 12:50 pm
gan Norman
Oes gan unrhywun y brens i weithio allan pryd fydd y nifer o
negeseuon misol lawr i 100 / pynciau misol lawr i 10 / aelodau newydd lawr i ?- os di pethau'n parhau fel y mae nhw ?

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 1:43 pm
gan Reufeistr
Yn ystod 'hey-dey' y Maes (dwi'n defnyddio'r term ma'n grudgingly) oedd y feature Negeseuon Breifat yn uffarn o beth handi a cafwyd lot o gigs eu trefnu (gyda fi'n bersonol beth bynnag) gan ddefnyddio hwn - ac oedd logio mewn i'r maes fel checkio e-mails yn yr ystyr yna. Wan ers y Facebook ffenomenom ma hwna'n ffynhonnell lot handi-ach ar gyfer neud y math yna o beth.
Dim bo hynny'n esbonio'r gostyngiad mawr, ond mae o sicr yn ffactor.

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 6:25 pm
gan Ray Diota
eusebio a ddywedodd:Un rheswm am fy ngwymp i mewn cyfraniadau ( a 'dwi'n dweud hyn fel y cyfrannwr mwyaf swnllyd er i mi beidio â chyfrannu'n rheolaidd ers acha') oedd fod Cymru mor fach nes fod pawb eisiau gwybod "pwy wyt ti ar maes-e ta?" ... wel roedd hynny'n golygu nad oedd y rhyddid yna i ddweud fy nweud - cuddio tu ôl i ffug enw ella, ond hefyd sylweddoli fod llawer o'm cydweithwyr (a rheolwyr) yn darllen ac yn gwybod pwy oedd eusebio yn y cig-fyd.

Mae Cymru Cymraeg yn wlad rhy fach ar un ystyr!


Itha reit! fydden i byth 'di gweud rhai o'r pethe wy 'di gweud se ni'n gwbod faint o bobol oedd yn deall yn iawn pwy on i...

Dwi'n dod 'ma llai yn rhannol achos bo fi'n rhyw feddwl bod mwy a mwy o gogs ifanc 'ma, dwi'n rhyw ddyfalu naw bo 'na dipyn o blant ysgol / myfyrwyr blwyddyn gynta 'ma... a tra bo hynna'n titiletio fi i raddau, ma'r drafodaeth, a'n bwysicach, yr hiwmor wedi diodde'n ofnadw...

Wedi gweud hyn, sai'n meddwl bo colli peth o'r trafodaethe 'ysgafn' i facebook ne le bynnag yn ddrwg i gyd - falle bydd hyn yn golygu bod maes-e yn setlo i fod yn wefan drafod ddifrifol, go iawn... fydda i ddim yn ymweld hanner mor amal wedyn, ond dyw hynna'm yn beth gwael chwaith...