Cefnogi Maes-e

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cefnogi Maes-e

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 31 Ion 2008 10:18 pm

"145 ar Iau Awst 23, 2007 6:57 pm"- ar waelod y dudalen Hafan. Be ddigwyddodd? Pam? Sut? Unrhyw achlysur arbennig?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Cefnogi Maes-e

Postiogan Norman » Iau 31 Ion 2008 10:20 pm

Rhywbeth i neud efo google bots dwi meddwl oedd hwna, dim pobl go iawn ma gennai ofn !
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Re: Cefnogi Maes-e

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 31 Ion 2008 10:36 pm

Rhys a ddywedodd:Felly, dwi'n meddwl bod gwerth targedu Papurau Bro a cheisio cael erthyglau y Golwg neu Y Cymro.

Dim byd o gwbl i'w golli drwy wneud hyn. Wedi meddwl- pam lai? Ond wrth son am C & D Herald- llawer gwell cael hysbyseb yma (neu llythyr clyfar, ffraeth- sy'n denu sylw ac ymateb) na targedu e.e. y Papurau Bro yn yr un ardal. Mae TRAFODAETH yn digwydd yn C & D Herlad- h.y. colofn lythyrau (ia, mewn iaith wahannol- ond Cymry Cymraeg yw'r mwyafrif o'r llythyrwyr).
Mae C & D Herald yn bapur BYWIOG- fel maes-e (wel, y potensial o leiaf). Hysbys i maes-e ar/yn rhywbeth sydd hefyd yn wirioenddol fywiog.
Gwastraff arian fyddai prynu e.e. hysbyseb un tudalen yn Golwg (mae'r maes wedi ei grybwyll sawl gwaith "wrth basio" ac hefyd yn fwy uniongyrchol)-mae'r fuwch yma wedi ei godro digon-dim mwy o laeth(?) Ond byddai hysbys AM DDIM yn iawn- dim byd i'w golli.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Cefnogi Maes-e

Postiogan eusebio » Gwe 01 Chw 2008 10:28 am

Pam ffwc mae pawb yn crybwyll y Caernarfon and Denbigh?
1) Dim pawb sydd yn ei ddarrlen ... hyd yn oed yng Nghaernarfon
2) byddai hysbys yn costio
3) mae hyd yn oed y rhai sy'n ei ddarllen yn sgipio dros yr ads
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Cefnogi Maes-e

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Gwe 01 Chw 2008 11:15 am

Tydi pawb ddim wedi ei grybwyll.
Tisho awgrymu cyhoeddiadau eraill?
'Rwyf eisioes wedi son am e.e. yrru llythyr i'r Golofn Lythyrau- nid yw hyn yn costio dim.
Croeso i aelodau eraill sy'n dod o ardaloedd eraill o Gymru awgrymu papurau eraill?
Rhai darllenwyr ddim yn cymryd llawer o sylw o'r hysbysebion? Ond faint fyddai tudalen gyfan hefo clyfrwch sy'n mynnu sylw yn ei gostio? Os yw hyn yn rhy ddrud, yna llythyr/erthygl difyr.
Yr Enfys- targedu canran (fechan- ysywaeth) o'r Cymry alltud. Erthygl arbennig gan giaffar newydd y maes efallai?
Paham fyddai golygyddion Yr Enfys yn gwrthod?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Cefnogi Maes-e

Postiogan 7ennyn » Gwe 01 Chw 2008 5:04 pm

eusebio a ddywedodd:Pam ffwc mae pawb yn crybwyll y Caernarfon and Denbigh?
1) Dim pawb sydd yn ei ddarrlen ... hyd yn oed yng Nghaernarfon
2) byddai hysbys yn costio
3) mae hyd yn oed y rhai sy'n ei ddarllen yn sgipio dros yr ads
:lol: Digon gwir, ond mae'r holl hysbysebion yn sicrhau ei fod o'n bapur swmpus (o ran nifer y tudalennau nid o ran safon) - sydd yn ei wneud yn handi ar y naw ar gyfer sychu allan fy esgidiau gwaith!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Cefnogi Maes-e

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Gwe 01 Chw 2008 10:38 pm

31970 Cyfanswm aelodau. Fel rhywun sydd eisiau gweld y maes yn blodeuo, tyfu a ffynnu, tydi'r ystadegyn yma ddim yn golygu rhyw lawer i mi.
Mwy na 100+ o bobl arlein ar yr un pryd yn rheolaidd. Dwi ddim yn meddwl fod hyn yn afrealistig o gwbl o gofio faint all gyfathrebu/sgwennu yn Gymraeg yn y byd.
Efallai mai dychymyg (ac nid pres) yw'r arf bwysica i'r rhai sydd eisiau gweld y fforwm yn mynd i'r lefel nesaf.
HG- beth yn union yw'r weledigaeth 'lly?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Cefnogi Maes-e

Postiogan eusebio » Sad 02 Chw 2008 1:12 pm

Martin, ffor ffycs sêcs nei di roi'r gorau iddi? 'Dwi 'rioed di ymateb i dy sylwadau di o'r blaen ond ti fel tiwn gron yn mynd mlaen ac ymlaen am ddychymyg a gweledigaeth.

Yn lle cwyno, pam na nei di ymuno yn y trafodaethau am nifer o bynciau yn hytrach na malu cachu byth a beynydd am ddychymyg a ffycin gweledigaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Cefnogi Maes-e

Postiogan Mwnci Banana Brown » Sad 02 Chw 2008 5:30 pm

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Efallai mai dychymyg (ac nid pres) yw'r arf bwysica i'r rhai sydd eisiau gweld y fforwm yn mynd i'r lefel nesaf.

A beth yn gwmws yw'r lefel nesa? Be syn bod ar y lle fel ma fe nawr? Yn bersonol, sai moin gweld y lle yn tyfu gormod, achos bydde gweld 10 tudalen o negeseuon newydd yn hala fi off ddigon i beido darllen un o nw.
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Re: Cefnogi Maes-e

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Sad 02 Chw 2008 8:29 pm

Mwnci Banana Brown a ddywedodd:A beth yn gwmws yw'r lefel nesa?

50+ o bobl ar alrein yn rheolaidd.
Mwy o ddyfnder ac amrywiaeth.
Mwy o Gymry ar wasgar yn ymuno.
Cynyddu dylanwad maes-e yn y byd Cymraeg.
Mae giaffar newydd y maes eisiau gweld y maes yn ffynnu.
Dichon yn wir y byddai'n syniad da i osod targed e.e. 50+ o bobl arlein yr un pryd yn rheolaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron